Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges wrth geisio mynediad
Y Chwe Mil
Daeth hen ddyn i Gapel Moreia
i fotio yn yr etholiada’
un las oedd ei dei:
a medda fi’n slei;
“’Di’r lecsiwn ddim tan wythnos nesa.”
Osian Owen 8.5
Talybont
Mae’n hwyr iawn, mae’n oer heno - yn dywyll
a dwi wedi blino;
bu’n daith go anniben, do,
un boenus. A neb yno.
Emyr Lewis 9
Cynigion ychwanegol
Ai enw f'athrawes biano
ynteu ben-blwydd y ci?
Ai cyfeiriad fy 'nghyn gyn-gariad
beth bynnag oedd ei henw hi?
A pham affliw nes i'm pwyso
'Remember me'? (IT)
Nid wyf ddim nes at gael pleser sardîns
ar dost i fy swper:
nid gwledd, heb allwedd, ond her
yw tún llawn pysgod tyner.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘pen’
Y Chwe Mil
Y mae, ar ben pob tennyn
awr wanaf, dywyllaf dyn.
Osian Owen 9
Talybont
Mae pen draw i siampên drud
a hyfwch Eton hefyd.
Emyr Lewis 9
Cynigion ychwanegol
Mae nhw’n hel yn fy mhen ol;
hernia. Am beth uffernol!
Cwpled Cywaith
Gwn, o’i theithio hi ganwaith,
y dyheu am ben y daith.IT
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘A ddylwn i fynd ar fy ngwyliau’
Y Chwe Mil
A ddylwn i fynd ar fy ngwylia’
i fflasho fy sandals a’m sanna’?
Torheulo yn noeth!...
‘Di hynny’n beth doeth?!
medd Cummings... “sa well ‘mi fynd adra.”
Caryl Bryn 8.5
Talybont
Eu galar sy’n glir trwy’r mygydau
A’u colled yn suddo calonnau,
Ond fy ngofid mawr i,
Mor druenus fy nghri,
‘A ddylwn i fynd ar fy ngwyliau?’
Phil Davies 8
Cynigion ychwanegol
A ddylwn i fynd ar fy ngwylia’?
Na, na! Na, na, na, na, na. Na!
Na, na! Na, na. Na!
Na, na! Na, na. Na!
Ni ddylet ti fynd ar dy wylia’!
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dileu
Y Chwe Mil
I'r mynydd, rhyw ddydd, pan ddel
y diwedd, ewch yn dawel,
i daenu'r llethr rhedynog,
hadau'r gwawn, a blodau'r gog
â haen denau ohonof:
y corff, yr enaid, a'r cof.
A gadewch i goed a dail,
ag amser, adfer adfail
y galon; cael ohoni
fwy o faeth. Dilëwch fi,
ond deuwch eto'n dawel
i'r mynydd, rhyw ddydd a ddel.
Iestyn Tyne 10
Talybont
(Ar fainc dan gastell Aberystwyth)
Carreg las dan fur castell
a chwmwl meddwl ymhell.
Ni ranna air o’i hanes,
un gair o werth yn y gwres.
A’r gwylanod sy’n codi
o furiau ein horiau ni.
O un i un diflannu
o’r fainc wna’r hen griw a fu.
A’r don o’r gored yno,
yn cario coed caeau’r co’.
Ac yno craig ei henoed
yw cadair wag cadw’r oed.
Gwenallt Llwyd Ifan 9.5
5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes
Y Chwe Mil
Racins: Y gair a ddefnyddir i fynegi’ch rhwystredigaeth ynghylch rhoi eich nicar amdanoch y ffordd anghywir.
Mae’n dywyll a’n llawer rhy gynnar
i boeni pa ffor ma’ fy nicar –
ond os ydi o’n dechra’ rhyw grafu
hen ddigon i fygwth f’anafu...
Wel, racins, mi fynnaf fynd hebddo
a mynnu bod in command-o!
Caryl Bryn 8
Talybont
Wastadol rhwng waliau’n stydi – o raid
A’n brêns wedi berwi.
Y byw’n anfyw ydym ni,
ym myd embyd y Zoombi.
Gwenallt Llwyd Ifan 8.5
Cynigion ychwanegol
Mae’r byd yn anos nag sy’n rhaid
Ar ruthr gwyllt dan straen ddi-baid.
Mae byw’n hamddenol, braf a ffri,
Yn siwtio’n lembodlonrwydd i.
6 Cân ysgafn i ddau lais: Sgwrs rhwng carcharor ac ymwelydd
Y Chwe Mil
(hanes amgen)
Hei Mabon, chdi sy’n fanna, yn canu dros y wal?
Sut wti ers canrifoedd, ti’n cadw’n o lew, pal?
Dwi di dod i fama’n unswydd, ar ol ca’l reid gan ffish
i ofyn am dy help di. Dyma’r stori – ish:
So ma Culhwch (met fi), cradur, efo Olwen yn obsesd
(er bod neb di gofyn iddi hi os ydi hi’n impresd);
ond y broblam efo hynny ydi bod ei thad hi’n gawr
a’r broblam efo cewri ydi’w bod nhw’n, wel, yn fawr. (a blin)
Ma di gosod llwyth o dasga, a rheini’n dasga od
a dyna pam dan ni yma, ar gefn y Llyn Llyw cod;
Dani rwsut angen dy help di, Mabon, i ddal rhyw fochyn mawr
sydd rwsut fod i’n helpu ni i, ym, dorri gwallt y cawr?
Wchi be, dwi yn y castall ’ma ers adag y Big Bang
a rwan mwya sydyn ma’r lle o dan ei sang;
pawb sho darn o Mabon, a neb yn cynnig ffi;
dim cyfoeth mawr na thiroedd, dim hyd’noed 50p.
Ma’n swnio’n hogyn gweddol, ond be di’r otsh gen i
am lyf-laiff hollol twisted dy fêt bach tragic di;
Dwi’n eitha licio fama, so dwi’n sori am y strach
ond cerwch i hela’ch fflipin baedd ar ben y’ch hunain bach.
Iestyn Tyne 9
Talybont
Yng ngharchar Llwyn-y-wermod mae Dave a’i wedd yn drist,
Ac euthum draw i’w weled, er bod hyn yn off piste.
‘Sut wyt ti’, holais innau ‘sut mae nhw yn dy drin?’
Gan estyn iddo’r pecyn oedd yn fy mhoced tin.
‘Von Pfeffel bach, fy nghyfaill, ble wyt ti wedi bod?
Sdim sens fy mod i yma, a neb yn canu ’nghlod.
Beth sgen ti yn y pecyn? O dyro i mi’n glou
Cyn delo Matt a Rishi i’w ddwgyd, na gwd boi.’
‘Mae’n drist dy weld yn cwyno’, dywedais i wrth Dave,
‘Rwyf newydd ddod o Chequers lle maent yn cynnal rêf,
Sdim neb yn gwisgo mwgwd, arianwyr sy’n mhob man,
Yn cynnig cildwrn swmpus i bawb sy’n cymryd rhan.’
‘Mae hyn yn anghredadwy, sut wyt â’th draed yn rhydd,
A phob un dodji arall dan glo trwy’r nos a’r dydd?’
‘Wel David bach’, dywedais, ‘rhaid i ti ddysgu tric,
Sef sut i ddwedyd celwydd a hynny mewn ffordd slic,
A dweud y celwydd hwnnw yn amal, amal, iawn,
Nes bod pob gair o’th enau yn adlewyrchu’th ddawn.
Yn olaf, o flaen gwydr, sbacha dy wallt a’th dei,
Cei rwydd hynt gan y werin. Ti’n deall?’
‘Odw glei!’
Phil Davies 8.5
7. Llinell ar y pryd
Chwe mil
Ar daith o’r gogledd i’r de
ar hewl, mae Mansel rhywle.
Osian Owen 0.5
Talybont
Ar daith i'r gogledd o'r de
ein holwyn sydd yn rhywle.
Anwen Pierce
8 Cerdd rydd (heb fod dros 18 llinell): TatΕµ
Y Chwe Mil
Dau â doethineb poteli Prosecco oeddem,
yn baglu i’r parlwr a gwên Mehefin
yn lliw haul ar ein talcenni.
Craffais ar y lluniau;
cribaist dithau dy fys yn erbyn
delweddau’r posteri sgleiniog,
yn simsan astudio,
cyn datgan ar dop dy lais mai,
‘Hwn dwisio.’
Ninnau’n parablu fel pwll y môr,
hwnnw oedd mor wastad wydrog –
pan oedd y tonnau ynghudd.
Gwingaist, brathaist dy wefus.
Gwridaist wrth deimlo’r inc
yn gusan gynnes ar groen.
Sut beth, tybed, ydy bod â hanes brau
yn britho dy gorff
Heddiw?
Gareth Evans Jones 9.5
Talybont
Wrth iddi ymestyn ei throed
fe welodd y lili wen fach arni yn moesymgrymu i’w phigwrn,
yna’r tusw o friallu yn arwain at gadwyn o glychau’r gog
i fyny cefn ei choes i’w choel o wyddfid.
Gwthiai blodau’r erwain a’r banadl hyd ei hystlys
i glymu ym mrigau a blodau’r dderwen a ddisgynnai o’i hysgwyddau.
Ymhyfrydai yn ysblander ei gwanwyn.
Er bod gwledd o flodau’r drain ar hyd ei braich,
Roedd yno’n llechu’n y brigau
y galon fach a’i enw ef yn gysgod porffor
o’r gaeaf a fu.
Phillip Thomas 9.5
9 Englyn: Eisteddfod T
Y Chwe Mil
Ar gamerâu’r Gymru hon – mae lle i hwyl
mae lle i hen alawon,
i awen beirdd newydd sbon,
i’r gwaraidd ac i’r gwirion.
Osian Owen 9
Talybont
Yn nyddiau blin codi ffiniau – a mur
mieri dros lwybrau,
erys gΕµyl heb ddrws i'w gau
a gwledd o faes digloddiau.
Anwen Pierce 9.5
Cynigion ychwanegol
°ΥΕ·
Mae’r tΕ· ynghrog ar glogwyn – o dy flaen
yn diflannu’n sydyn
ond to iau sy’n llusgo’r tΕ·
’nôl o hyd i’w sail wedyn.