Cerddi Rownd 3
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Esbonio Newid i’r Amserlen Arferol
Tir Iarll
Sylwer
’Sdim newid yn yr awr na’r dydd
na’r man na’r fflag na’r enfys,
ond croeswyd mas yr ‘NHS’
ac yn ei le rhoed ‘Boris’.
Mererid Hopwood 8.5
Tir Mawr
Ni fydd chwaraeon ar y traeth,
Am ddau,gan bydd hi’n orllan,
A dweud y gwir ni fydd na draeth
Gan na fydd y trai allan.
Huw Erith 9
Cynigion ychwanegol
Torrwn ar draws y darlledu
Ar ganol defod y Goron:
Corgi Plas Mawr gaiff ei gladdu
Mewn patsh wrth y rhesi moron.
Cyhoeddiad – un arloesol
A chroes i’n trefn arferol:
Bydd bob tren saith
Yn mynd am saith
(Heblaw bod gwaith hanfodol)
(Ym mhegwn y Gogledd)
Er i'r haf drwy'r canrifoedd - roi'i wên rew
yn rhad drwy'r croeswyntoedd,
heddiw'r gwir a ddaw ar goedd
yn wylofain rhewlifoedd..
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cost’
Tir Iarll
Hon dy iaith sydd iti’n dâl,
Ond yn gost yn ogystal.
Tudur Dylan Jones 9.5
Tir Mawr
“Cur galar yw cost cariad”,
Laru rwyf ar eglurhad.
Carys Parry 8.5
Cynigion ychwanegol
Nid brenin,gwerin a gyll
O gost codi ei gestyll.
Gyrru pobl i gyrau pell
ydi cost codi castell.
Nirfana ffansi’r funud,
Daw hyn yn gost i ni gyd.
Cartref wnâi i rai ffor’ hyn,
ond beth yw cost y bwthyn?
Cei fro gudd, paid cyfri’r gost!
Cae’r Hudbant? Trwy Siec. Rhadbost.
Y gost o gael fy rhostio
Yw dweud, bawb, hwyl a da bo.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi es i am dro i’r ardd gwrw’
Tir Iarll
A’m cydfotanegwyr yn galw
Mi es i am dro i’r ardd gwrw;
Bûm yno am oriau,
Cans dysgu am enwau
Y blodau Pêr o’n i fan acw.
Emyr Davies 8.5
Tir Mawr
Er bod 'na wynt oer, bod hi'n bwrw
Glaw oer heibio nghrys lawr fy ngwddw,
Er pellter y daith –
Ar ôl y clo maith,
Mi es i am dro i’r ardd gwrw.
Carys Parry 8.5
Cynigion ychwanegol
Mi es i am dro i’r ardd gwrw
A’r oerfel a’m trodd fel y ddelw;
Fy nghorpws di-got
A drodd fel gwraig Lot...
Sdim ots, ces i hanner o chwerw!
Mi es i am dro i’r ardd gwrw
Sydd filltir o sgwâr Eglwyswrw,
Ond troiais i’r dde
Ger cylchfan Pen-bre
A lle es i wedyn? Sai’n siwr-w.
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘bytheiriais unwaith a byth ers hynny’
Tir Iarll
Dros gilcyn daear, dros wlad i’w charu,
Bytheiriais unwaith, a byth ers hynny
Ddoe yr hen wylltio giliodd o’r neilltu,
A ’nghân i heddiw, ’mond cynganeddu;
Am hyn, ac am im wynnu’n rhy gwrtais,
Do, edifarais, ond daw yfory…
Tudur Dylan Jones 10
Tir Mawr
Gobaith sy’n weithred; mae’n fwy na chredu’n
y llif o eiriau am well yfory,
bytheiriais unwaith a byth ers hynny.
Nid eir am dir uwch ond drwy ymdrechu
a daw’r golau i’r dyddiau du a gaed
o’r dwylo a thraed a wêl weithredu.
Myrddin ap Dafydd 9.5
5 Triban Beddargraff Perchennog Siop Sgidiau
Tir Iarll
Mewn bocs fe werthodd barau, -
Cryn filoedd - socs a sgidiau,
Ond nawr ddi-sgidiau a di-socs
i focs fe giliodd yntau.
Tudur Dylan Jones 8.5
Tir Mawr
R’ôl hwrjio’r lledr gora’
i’r miloedd hwyr a bora
Mi es mewn trenars Pi Fi Si
A’i gwadnu hi am adra
Gareth Jos 8.5
Cynigion ychwanegol
Fe dreuliaist ti dy ddyddiau
Yn paru ein hesgidiau,
Ond yn dy focs yn un o bâr,
Di-gymar ydwyt tithau.
Yn croesi yr Iorddonan
rwyf n’awr yn fflat fel gwadan
Fe ga’ nhw sioc gweld ffasiwn groc
Mewn bocs a’i dafod allan
Fe faglodd dros ei gria’
A llyncu ei dafod,yna
Yn sydyn ar ei sawdl trodd,
A gwadnodd o hi o ‘ma
Mewn brogues o’r lledr gorau
Mi wenodd rhwng y planciau –
Y dyrfa ddaeth i’r dawel fan
Yn gwichian nerth eu sgidiau.
6 Cân ysgafn: Y TΕ· Newydd
Tir Iarll
Rwyf finnau’n dderyn dΕµad
Mewn nyth mawr crand yn byw;
‘Sdim lle i’r adar lleol -
Y titw bach a’r dryw.
Naw wfft i gais cynllunio
A’r rheoliadau lu -
Myfi yw’r pensaer gorau
I weithio’r baw a’r plu.
Mi gaf lond nyth o gywion
I swnian hyd y dydd,
A bydd eu crawc i’w chlywed
Uwchlaw pob eos sydd.
Anfonaf dwît i’m ffrindiau
O barthau dierth draw
A’u cael i ddod i nythu
Mewn perthi braf gerllaw.
 threm drahaus rwy’n gwylio
Y titw bach a’r dryw,
Sydd heb gân well i’w chanu
Na nyth mawr crand i fyw.
Emyr Davies 8.5
Tir Mawr
Mewn rhyw lecyn braf a llonydd ger y nant o dan y coed
Cododd Oswyn annedd newydd, yr un dela’ fu eirioed
Roedd o bron yn anweledig, yn ymdoddi mewn i’r fro
D’oedd dim hyd ‘n’oed ogla plasdig; TΕ· bach pren o’r llawr i’r to.
Roedd y lle ‘di ennill gwobrau amgylcheddol di ben draw
Gyda’i do yn frith o flodau, bocsus nythu ar bob llaw.
Ac yn wir, yn ôl y bwriad fe ddaeth gwennol un prynhnawn;
Tra’r un pryd, yn ddi wahoddiad, daeth y bywyd gwyllt go iawn.
O hen fwrdd hynafol diflas, o rhyw dwll, crafangodd pry
A mhen dim, y trychfil atgas oedd ‘di dechrae bwyta’r tΕ·.
Ni fu’n hir yn claddu’r soffa efo’i ddannedd miniog o
Nac yn llowcio’i ffordd drwy’r walia er mwyn helpu’i hun i’r to
Ac yn fan’no roedd o’n crenshian. Nefoedd Wen! mi oedd o’n fawr!
Wrthi’n cachu’r siafins allan yn un carped dros y llawr.
Dros ei welintons mewn siafins ffoniodd Os y swyddog Pla
A cyrhaeddodd Weavil Higgins jesd mewn pryd i ddweud ta-ta.
Wrth i’r cwbwl o’r gweddillion gael eu chwythu efo’r pry
I gyfeiriad Aberaeron ac ymlaen i’r Mynydd Du.
Y mae Os am godi hongliad pedwar llawr (os gaiff o’r hawl)
Un o gongcrit oer a chalad Geith Byd Natur fynd i’r diawl!
Gareth Jos 9
7 Llinell ar y pryd
Tir Iarll
Rownd y gornel ni welaf,
Ond eto, synhwyro wnaf.
Aneirin Karadog 0.5
Tir Mawr
Rownd y gornel ni welaf
Un argoel wir o gael haf.
Huw Erith
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cyn Hir
Tir Iarll
Byw gyda vitiligo
Roedd arnat ti ofn yr haul, ti’n cofio? Y modd
mawr melyn oedd ganddo i wyngalchu pob
dim: crychau, gaeafau. Arllwysai’i letygarwch
dros iard yr ysgol bob haf, dy groen yn aw aw aw
o boenus, dy freichiau’n troi’n gyfandiroedd
pinc o dan ei goncwest ... o dan siwmperi
trwchus, du. A’r chwys. Shwt allet ti anghofio’r
chwys? Shwt allet ti anghofio edrych, o gysgod saff
y llyfrgell, ar y bois a losgai’u crwyn fel pe bai’n
fater o gicio pêl neu ddatod tei; fel pe bai
gwisgo crys-T yn ddim ond sefyll yn stici
yn erbyn wal a gweiddi: Faint o’r gloch,
Mr Blaidd? A’r pryder wedyn – am flynyddoedd wedyn –
o fynd ar wyliau. O’r môr. O stafelloedd newid. O
rolio llawes hyd at benelin. O fod yn styc am byth
yng nghysgodion cywilydd, yn amau na fydd
diwedd i’th alltudedd. Ac na fydd ateb i’r crwtyn
bach sy’n gofyn: Pryd ga’ i fod yn fi, Mr Blaidd?
Gwynfor Dafydd 10
Tir Mawr
Nid af i drafferth eto
I drwsio’r wedars blêr,
Ac ni fydd brys i aerio’r
Gôt oel,na hwylio’r gêr
Dim injan yn cau tanio,
Na chewyll gweigion,trwm,
Dim ymffrost yn y ddalfa,
Na llΕµg tymhorau llwm
Dim partner mawr ei phryder,
Yn gwadu pigau’r cloc,
Tra’n didol dillad tywyll
“Mae’n siwr y daw o ,toc”
Â’m traed yn sad ddi-sigl,
Ar dir digyffro’n siwr,
Er chwith,ni wnaf warafun
Tro Cian ar y dΕµr.
Huw Erith 10
9 Englyn yn cynnwys enw unrhyw fath o gerbyd
Tir Iarll
Y Gynghanedd
Jaguar o gar yw ei gwedd, - ei gyrru
Sydd fel gwawr dros dirwedd,
Sain injan y gynghanedd,
Sain well-oiled, fine-tuned, sy’n wledd.
Aneirin Karadog 8.5
Tir Mawr
Y 4x4 Sport
Y lôn druan a lanwyd – o glai i glai
â Goleiath forddwyd;
wrth y llyw: gΕµr diarth, llwyd
heb rifýrs – ei brif arswyd.
Myrddin ap Dafydd 9
Cynigion ychwanegol
Ar Werth/For Sale
Mae elor ym Malmoral … un o steil,
used once, feri sbeshal,
i ffito toff with corff tal
and money … but dim ana’l