Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Proffwydoliaeth
Derwyddon
Ni fydd swyddfeydd na siopau’n bod,
ar-lein fydd pob cymdeithas,
a byddwn oll yn byw a bod
mewn slippers a phyjamas.
Tudur Hallam 8.5
Penllyn
Deallwn, er di-allu- ydym oll
Yn dim ond mud syllu,
A graddol weld gwireddu
Ei sylw taer – ‘Fesul tΕ·…
Beryl Griffiths 9
Cynigion ychwanegol
Rôl dod trwy’r cyfyngiade
A dechre byw’n bywyde
Fe fynnwn oll, i gadw’n iach
Rhyw ‘chydig bach o hwnne.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘sail’
Derwyddon
Nid ofer adfer adfail
os o hyd bod iddo sail.
Meirion Jones 9
Penllyn
Dymuno rhagor fory
ydi sail pob gofid sy.
Gruffydd Antur 9
Cynigion ychwanegol
Os y Sul fu inni’n sail,
ein hadfyd yw ei adfail.
Max Hastings
Gair a chred mor aflednais
A di sail oedd gwawd y Sais.
Mae TΕ· Fy Nhad yn adfail
Er y sôn am ddyfnder sail..
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n teimlo ychydig fwy mentrus’
Derwyddon
Rwy’n teimlo ychydig fwy mentrus,
fwy nwyfus, fwy grymus, fwy gwancus,
ers cymryd y pigiaid
‘rwy’n teimlo’r anghenrhaid
i chwarae doctoriaid a nyrsus.
Eluned Rees 8.5
Penllyn
Bûm i’n noethlymunwr reit ofnus,
A swil iawn wrth ddiosg fy nhro wsus.
Ond ers gweld Derwyddon,
Heb ddillad un noson,
Rwy’n teimlo’n ychydig fwy mentrus.
Aled Jones 8.5
Cynigion ychwanegol
“Rwy’n teimlo ychydig fwy mentrus,”
medd Mari, gan wenu’n ddireidus.
“Na,na, nid ymysg
pandemig, mae risg
y caf i ‘slipped disk’ - gad hi misus!”
‘Rôl blwyddyn ‘fo neb ond y misus
Rwy’n teimlo’n ychydig fwy mentrus
I ddianc o’r Llan
A chwilio bob man
Am ddynes fach wan heb ‘run trowsus.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Anaf neu Anafiadau
Derwyddon
(I Jonny Williams, a sgoriodd ei gôl gyntaf dros Gymru yn 2020, wedi gyrfa lawn anafiadau)*
Un i ddim! A’r gôl yn dda!
I’n gyrru drwy Fwlgaria!
A lle gynt y syllai’i gur
i lygaid seicolegwyr,
ag ergyd glyd un gôl lân
dyma’i wên, dyma’i anian.
Gall anaf ac anaf gwaeth
ynom hau hen amheuaeth,
ac eto, yn y gwter,
os rhegwn, syllwn i’r sêr
a daw, fe ddaw, hi’r awr dda,
fel y gΕµr a’i Fwlgaria.
Tudur Hallam 10
* Ymddangosodd Jonny Williams ar y rhaglen ddogfen Sunderland till I die, yn siarad â seicolegwyr, adeg cyfnod pan na allai chwarae oherwydd anaf.
Penllyn
(Treuliodd fy hen hen daid y rhan fwyaf o'i blentyndod yn ei wely yn dilyn damwain)
Yn ei wely bach caled
deallai ef hyd a lled
ei fyd: mor anfeidrol fach,
mor arw, mor oer. Hwyrach
na wyddai fod ei frodyr
yn ofni her tyfu'n wΕ·r,
ei chwaer, rhag llid ei chariad,
ar y lôn i ben draw'r wlad,
a'i fam wallgof gan ofid
yn osgoi'r mân sgyrsiau i gyd:
deallai ef hyd a lled
ei wely bychan, caled.
Gruffydd Antur 10
5 Pennill ymson mewn ystafell aros
Derwyddon
Hwn yw f’apwyntiad cyntaf un
am acupuncture ar fy nghlun,
rwy’n becso nawr, a yw’n beth iach,
yn wir, yr wyf ar binnau bach!
Eryl Mathias 8
Penllyn
Daeth Gabriel at y ffenest
A gwaeddodd mewn llais mawr
“Bu disgwyl oes amdanoch
Ond ewch un drws i lawr”.
Alwyn Evans Jones 8
Cynigion ychwanegol
Mae’r nyrs yna’n dipyn o bishyn,
gobeithio mae ef rydd fy mrechlyn,
gwenu’n dirion a wnaf
ac ymddwyn yn glaf,
ceith chwilio lle braf i roi’i bigyn.
Rôl cyfnod mor uffernol
Fe ddwedais mod i’n symol
Ond deud y gwir fy unig bla
Oedd ysfa i weld pobol.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): FfΕµl Ebrill
Derwyddon
Roedd plant “Y Ffald” yn gobiau, mewn byd terfynnau’r clós,
â’u tad a’u mam yn siopa, daeth cyfle’i dynnu co’s.
Enillwyr Sioe Frenhinol oedd ym mhob sied a lloc,
daeth cyfle i arbrofi, heb gymorth had Pro-Stock.
Fe gasglwyd gwellt a slurry, hen garpets, glud a phlu,
paent gloss a phaent emulsion, pob lliw rhwng gwyn a du.
A chyn pen dim, yn wyrthiol,’rhen Floss sy’ nawr yn flaidd,
a Phero sydd yn llewpart, a’r ddau yn ffyrnig braidd.
Drwy gyfrwng ‘sunshine yellow’, yr hwrdd sy’ nawr yn lew,
a’r paent ar gyfer ffensys, drôdd hwch yn hippo tew.
Ε΄yn pedigri gwerth miloedd, o newid lliw eu gwlân,
fydd ’nawr ond gwerth eu bwyta fel llenwad ‘Keema Naan!’.
Y lama sydd yn gamel, rhoed esgid ar ei droed,
dau fwced ar ei gefen, edrychai mor annoyed.
Y ferlen aeth yn sebra wrth beintio marciau bras,
ond siom a ga’th y bustach o newid rhyw a thras.
A chyda hyn, dychwelodd y tad, aeth lan fel bom,
“Beth ddiawl? Pwy?” – aeth mor wallgo’ nes disgyn mewn i’r dom!
“FfΕµl Ebrill!” medde’r plantos, ‘’Soch soch! Mê mê! MΕµ mΕµ!
lle gynt ar ffarm bu’n cartref, ni nawr yn byw mewn sΕµ!”
Meirion Jones 8.5
Penllyn
Gweinidog oedd Arwyn ers ache, ar eglwys ym mhegwn y De,
Breuddwydiai am fod yn drydanwr, i drio cael golau i’r lle.
Ond chafodd o rioed ei hyfforddi i fawr o ddim yn ei oes,
O ganlyniad i hynny o bosib, roedd Arwyn yn weirio ffordd groes.
Ar ddydd cyntaf Ebrill daeth galwad, galwad i adfer ei ffydd,
Gan Esgimo ym mhegwn y Gogledd ble’r oedd hi yn nos bron trwyr dydd.
Fe drigai y gwael mewn hen iglw, a hynny yn bell o bob man
Ac awydd cael mymryn o olau, “A fedri di ddod yn dy fan?”
Fe ddΘf â phanel solar, a’i weirio fo ffordd groes, ac wedyn gall dy drydan, wneud haul i ti, am oes.
Wysg ei gefn trwy’r anialwch aeth Arwyn, a’r fan i’r ymylon yn llawn,
Dim ond iddo ddal i rifyrsio, bydda’i SatNav yn gweithio yn iawn!
Yn ei ddrych gwelai arwydd Damasgus, ai dyma y siwrne wnaeth Saul,
Ai y fo oedd y dyn yn y t’wyllwch, ai dyma pwy ydoedd north Paul!
Trannoeth cyrhaeddodd yr iglw, ble safai ryw foi ag arth wen
“FfΕµl Ebrill!”meddai hwnnw yn dalog gan chwerthin nes esgyrn ei ben.
“Ond ddoe..”holai Arwyn “oedd hynny”. “Nage” meddai’r Esgimo’n syn,
‘”Da ni dair awr ar ddeg ar eich holau chi; ma’i’n Ebrill y Cyntaf fan hyn!”
ArWyn dan ludded a giliodd yn ei fan ddi-nΘd ef ,
Gan ddifaru iddo ‘rioed ddod i’r gogledd wrth gychwyn y siwrne tua thre.
Ond y gog a gai ddysgu gwers boenus, a dysgu pwy yn wir oedd y mwg,
Pan ymlaciai’n ei hoff gadair eira, a honno ‘di weirio i blwg.
Aled Jones 9
7. Llinell ar y pryd
Y Derwyddon
I fen'wod, mae'n sylfaenol :-
hawliwn nawr bob lôn yn ôl.
Llyr James 0.5
Penllyn
Yn nos ein hofnau oesol
Hawliwn ni bob lôn yn ôl
Beryl Griffiths
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cysgu’r Nos
Derwyddon
(i Anni Fflur, ein hwyres gyntaf, a anwyd yn ystod y pandemig)
Daw nos i dynnu llen ar waith y dydd
gan ddwyn y golau hwnt i’r gorwel draw,
â’r cerrynt yn crynhoi, un freuddwyd sydd,
cael rhwyfo tua’r lan drwy’r gwynt a’r glaw.
Yr oriau’n llifo’n un ar gefnfor llwyd
a chwmpawd bywyd wedi’i ddrysu’n llwyr;
ar donnau aflonyddwch, cau mae’r rhwyd,
a chwsg ar drai yn nüwch gwag yr hwyr.
Un seren fach sy’n cynnau yn y gwyll,
yn ddisglair wyrth ‘y clo’, yn fwndel bach,
ei gwên yn tawel g’nhesu’r oriau hyll,
nes cyrraedd traethell bell y bore iach. Ein hynys fach yn cysgu yn dy grud,
ein hafan drwy y storm - a gwyn dy fyd.
Siw Jones 9
Penllyn
Ni wyddwn i bryd hynny fesur awr,
mor hawdd y llithra'r nos i lwydni'r dydd.
Erlid rhwng drws a phared gysgod cawr
a fentrodd o dy chwedlau dorri'n rhydd;
ac ambell dro, efallai canfod saeth
ynghlwm mewn gair, a daflwyd braidd yn flêr -
neu gofio'n sydyn - Wnes i? O ta waeth;
heb ymdrech, llithrwn nôl tu hwnt i'r sêr.
Roedd hynny pan y gwyddwn sicrwydd hyn -
fod dydd yn dilyn nos, a throi mewn rhod
ac er y crino gwelwn flagur gwyn,
yn agor eto, a bod trefn i'n bod.
Rhwng cwsg ac effro y simsana'r sêr,
a'n byd yn llithro i ddim fel cannwyll wêr.
Haf Llewelyn 9.5
9 Englyn: Cyfrifiad
Derwyddon
(Am y tro cyntaf yng nghyfrifiad 2021, cynigir y dewis i bobl dros 16 oed, nodi eu cyfeiriadedd rhywiol)
Ynot mae’r hen ffurflenni yn gwadu’r
degawdau o gyfri,
heb chwithdod, cei gofnodi
â’r un tic yr hyn wyt ti.
Siw Jones 9.5
Penllyn
Fesul tΕ·? Na, fesul ton, mi haeraf,
y daw'r môr dros Feirion;
bob awr hir, fel anwes bron,
a'i gosi perffaith gyson.
Gruffydd Antur 9.5
Cynigion ychwanegol
Wyf ddi-nod, wyf atodeg, yn esgus
i'm gwasgu i frawddeg,
wyf ddigyfrif rif, wyf reg,
wyf eiddo i rifyddeg.
Mae rheg yr ystadegau - yn ein tir
‘leni ‘to’n ganrannau,
a chraith yr iaith yn parhau’n
hen ofid yn y rhifau.
Merch abad o Colerado – oedd nain
Medde nhw’n ymchwilio,
A myn brain, roedd nain honno’n
Un o hil y Navajo.