Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Hybu Cynaladwyaeth
Crannog
O droi’n gynnil, gyda’n gilydd – mae modd
cael mwy, cael stôr ddedwydd
byd iach ar agor bob dydd
nid ar gau yn dragywydd.
Philippa Gibson 9.5
Tir Iarll
Cyflawnais i astudiaeth faith
ar warchod coed trofannol,
yna’i chyhoeddi a wnes i’n
adroddiad ugain cyfrol.
Tudur Dylan Jones – 9
Cynigion ychwanegol
Heddiw fel ddoe ymgloddiwn i’r ddaear
fawr ddu, yna tynnwn
ohoni hi’r darn glo hwn;
ond yfory difarwn.
Cawsom droedle ar gread a’n noddodd
ers dyddiau’r dechreuad;
drwy barhau i hau yr had
rhown yfory yn fwriad.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘saib’
Crannog
Yn y saib mae’r ateb sy’n
fy aros yn llefaru.
Eirwyn Williams - 10
Tir Iarll
Rhaid cael wedi'r cordiau cain
Saib i'w hud ddiasbedain.
Emyr Davies - 10
Cynigion ychwanegol
Mae nos heb droi a throsi
yn saib rhag ei lleisiau hi.
Yn y saib daw llais a wn
i holi pam y dylwn...
Nid yw saib yn gwneud seibiant
Yn y byd di-ddiwrnod-bant.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n hen bryd i rywun wneud safiad’
Crannog
Mae’n hen bryd i rywun wneud safiad,
A byddwn i’n barod i siarad
Gan ddweud ar y radio
Beth ydwyf yn teimlo
Pe na bai yn amser etholiad.
Gillian Jones – 8.5
Tir Iarll
Mae’n hen bryd i rywun gwneud safiad
Yn erbyn yr angen am treiglad;
At Drakeford yr awn
A cwyno a wnawn
Pe na bawn ni oll dan gwaharddiad.
Emyr Davies – 8.5
Cynigion ychwanegol
(Yn sgil trafodaeth yn y gyfrol newydd, ‘Y Gynghanedd Heddiw’)
Rwyf finnau yn Gog o arddeliad
Ond fy mod wedi newid cyfeiriad,
Ac mae ‘u’ ac mae ‘i’
Yn wahanol i fi…
Mae'n hen bryd i rywun wneud safiad.
Mae’n hen bryd i rywun wneud safiad
Am gyflwr y ffyrdd yn ein mam-wlad,
Mae’n oriau o deithio
O Fôn i sir Benfro
Byddai’n nghynt mewn llongofod i’r lleuad.
Aeth y trwynol a’r llaes gyda’r troad
A’r feddal sy’ nawr dan fygythiad;
Cyn treiglant i gyd
Tu hwnt i glust byd
Mae’n hen bryd i rywun (g)wneud safiad.
Des yma’i fwynhau ymddeoliad,
Nid gwrando ar dda yn bugunad
A defaid ac Εµyn
Yn achwyn eu cwyn.
Mae’n hen bryd i rywun wneud safiad.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Darganfyddiad
Crannog
Bu’r adfer ddoe mor brydferth
Θƒ’r boen ym mlagur y berth.
Roedd lleng y byw a threngi'n
edau llawn rhwydi a'u lli
ar allor haul y bore'n
rhan o wawr corryn a'i we.
Rholio dwrn llawn o farl du
y gwys gan droi a gwasgu
y clai tyn cyn clywed dôr
egin a’r pridd yn agor,
‘rhen ddaear a’i bru’n ddiwyd
a’r berllan yn gân i gyd.
Eirwyn Williams - 9
Tir Iarll
Wrth gofio’r wefr o ffeindio Abergwenoli
a hiraethu am fynd â’r Εµyr yno … ar ôl y clo mawr
’Sdim ar fap … os dyma’r fan …
… all hanes dwyllo’i hunan?
Mae’r hen allt gam o’r neilltu’n
dwyn dail i’w chysgodion du,
a’r iet dros y llwybr ati’n
atal nawr ein teulu ni.
Ond drws cefn yw drws y co’
sy’n ateb os awn ato,
ac un dydd fe gawn ni’n dau
rywsut ddadbacio’r oesau,
a chael ’nôl, drwy’n chwilio ni,
y dΕµr wrth fedd Pryderi.
Mererid Hopwood - 10
5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes
Crannog
Roedd ‘bendigedig’ unwaith
i bawb yn ddi-wahân
yn air a lwyr gysegrwyd
i fangre’r Ysgryd Glân.
Ond bellach mae’n cwmpasu
y pethau dibwys, neis
fel tywydd braf, y meuryn,
gôls Bale a chwstard sleis..
John Rhys - 8
Tir Iarll
Ni gyd yn gwbod ystyr cloc,
Mae’n dangos amser inni,
Ond wyddech chi mai ystyr ‘clwc’
Yw cloc sydd wedi torri.
Tudur Dylan - 8
Cynigion ychwanegol
Mae rhai yn dweud mai ‘dig’ a ‘llawn’
Yw tarddiad cywir ‘dicllon’;
Rhyw ystyr arall wêl y lleill…
Ond sgwn i beth yn union?
6 Cân ysgafn i ddau lais (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Sgwrs Ffôn
Crannog
‘Helo, rwyf ar y mudol yn galw ffôn y tΕ·
er mwyn i mi gael gwybod beth yw fy hanes i.
Mae’n broses ddigon cymhleth, ond rwy’n ei medru, jyst,
oherwydd mod i’n ffodus fod gennyf i ddau glust.
Ac yna, ar ben hynny, mi gefais gan yr Iôn
ddwy law sy’n ddigon cadarn i ddala y ddwy ffôn.
Meddyliais bore heddiw mai da o beth pe bawn
yn eich ffonio, alter ego, i weld a ydw’i iawn.
Fe aeth blynyddoedd heibio ers inni’n dau gael ffrae
Ond lle bo un yn styfnig, yn fynych, felly mae.’
‘Rwy’n hoffi canu telyn,’
‘Rhowch imi y trombôn.’
‘Rwy’n un o ffans Bryn Terfel’
‘Mae’n well gen i Bryn Fôn’.
‘Mae gennyf dduwiau lawer’
‘I mi nid oes ond Duw.’
‘Rwyf i yn clywed popeth.’
‘A finnau’n drwm fy nghlyw.’
‘Troi wnaf ym mro fy mebyd a pherci Pedwar Ec’
‘Fy mhleser ydyw crwydro fforestydd Ant and Dec’
‘Pwy Εµyr pa gymlethdodau a ddaeth o rannu crud,
ond dyna’r gwahaniaethau a’n dwg ni’n dau ynghyd.
Mae’n bwysig cadw cyswllt o fewn y cyfnod clo.
Rhag ofn i ni ddieithrio, fe ffoniaf fory ‘to.’.
Idris Reynolds - 9
Tir Iarll
Bore da, good morning, dyma rent-a-cerdd yn siarad
Fe’n defnyddiwyd gan y gorau, o Alan i Ab yr Ynad.
Idris Reynolds sy’ ‘ma, dwi’n datgan er mawr siom
Mod i’n canslo fy aelodaeth o rent-a-cerdd.com.
Ond mae’n gwasanaeth cerddi ni’n gwbl broffesiynol
Mae pob un rhan ohonynt yn llwyr bespoke a gwreiddiol.
Fe ofynnais i am safon a thalu mwy na childwrn,
Am unwaith, i dîm Crannog gael ennill ar y Talwrn.
Cawsoch gywydd gwych o’n heiddo ar y testun ‘Darganfyddiad’
A limrig yn datgan rhywbeth am rywun yn gwneud safiad.
Ond rwy’n siwr bo fi di clywed geirie fel rhain o’r blaen:
“Ganllath o gopa’r mynydd”, ac “Mae swn ym Mhorthdinllaen.”
Ond drychwch Mr Reynolds, ar brint mân y rhan atodol,
“Mae ambell i debygrwydd yn gyfangwbl ddamweiniol.”
Ond mewn englyn, pam rhoi geirie fel “Fi a Wil Coes Bren”
A “Dacw Mam yn dwad ar ben y gamfa wen”?
Dwi’n cytuno bod achos gennych i gwyno am y rheiny,
On do’n i ddim yn meddwl bydde’r Meuryn wedi sylwi.
A’r hen upstarts na ‘di ennill a’u cerddi shimpil hwy,
Ond be chi’n ddisgwl Reynolds, roedd Tir Iarll di talu mwy.
Tudur Dylan a Aneirin Karadog - 9
7 Llinell Ar y Pryd
Crannog
Beiro'r reff sy'n hwyl a sbri,
Ond callach peidio colli
Tir Iarll
Beiro'r reff sy'n hwyl a sbri,
i Saeson it's so easy!
Aneirin Karadog 0.5
8 Soned: Yr Oriau Mân
Crannog
Mae’r nos yn dawel drwy’r ffenestri hyn,
y defaid mân yng nghwsg yng nghornel cae,
goleuni’r Camp i’w weled o Barc-llyn
a llongau ‘sgotwyr Sbaen yn sgubo’r bae.
Tywyllwch sydd yn estyn tua’r môr
am Benrhyn LlΕ·n ac at yr Ynys Werdd
a’r llif atgofion eto’n agor dôr
a’m tywys at aelwydydd hedd a cherdd.
Ond dan yr wyneb cyfyd synau mud
tiriogaeth ladi wen a bwci bo
a’r ofn nas traethir sydd yn galw ’nghyd
bwerau’r isfyd i gilfachau’r fro.
A phan fydd nosau’n hwtian yng Nghwm Hownant
Yr hen a’r byddar yw y rhai a’u clywant.
Idris Reynolds- 9.5
Tir Iarll
Symuda drwy’r boreau heb ei gweld
ac weithiau, gyda lwc, bydd hi’n brynhawn
cyn iddo edrych unwaith tua’r seld
lle saif ei gwên chwareus, bob-dim-yn-iawn.
Teledu ’mlaen. Sudoku. Mopio llawr
y gegin. Dau o’r gloch a dim o’i le.
Ymlaen â’r diwrnod, felly. Cinio mawr.
Newyddion. Ffonio’r wyrion. Amser te.
Mae gormod yma i’w wneud mewn ty i un
(rhwng smwddio, cadw’r llestri, cadw ffydd)
hyd nes nad ydyw’n byw ar ben ei hun –
on’d yw anghofio’n rhwydd yng nghwmni’r dydd!
Ond gyda’r nos, a’r byd dwtsh bach yn well,
fe deimla’r gwely’n wag, a chwsg yn bell.
Gwynfor Dafydd – 9.5
9 Englyn: Targed
Crannog
Da yw Mawrth i’r defaid mân a’u hΕµyn byw
ond am bob oen gwantan
ar y rhos, mae yna frân
i dyllu’i lygaid allan.
Endaf Griffiths – 9.5
Tir Iarll
(yn dilyn llofruddio Sarah Everard)
Trwy'r wylnos a thrwy'r rhosod ar ei harch,
Bydd rhai ymhen diwrnod
Yn bwrw'u dedfryd barod:
'Hi sy ar fai siΕµr o fod.'
Emyr Davies – 9.5
Cynigion ychwanegol
Yn dawel fe anelwn – ac yna
â’n gynnau fe’i saethwn
yn gelain, cyn y gwelwn
gariad tad yn llygaid hwn.