Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Steddfod Dylwyth Teg

11 Awst 2007

Cymylau dros Y Steddfod Fach Binc!

Stori Y Steddfod Fach Binc- tipyn o ddwli wedi'r Wyddgrug

"Mae hyn yn wyrth - y tywydd braf yma yr wythnos yma yng nghanol haf fel hyn."

"Mae hi'n union fel stori dylwyth teg, w'chi." - Sgwrs rhwng dau Eisteddfotwr ar faes Yr Wyddgrug, ddydd Iau diwethaf.

Stori'r Steddfod Fach Binc

Un tro amser maith, maith, yn ôl, tua deunaw mis yn ôl, yr oedd Y Steddfod Fach Binc yn drist a heb unman i fynd.

"Does neb fy eisiau i a does gen i ddim cartref," meddai hi wrth eistedd yn ei dagrau ar ochr y ffordd y tu allan i blasty crand y Faenol lle'r oedd hi wedi bod yn mwynhau ei hun mewn parti mawr.

Ond er yr holl holi a chwilio doedd yna neb eisiau gwahodd Y Steddfod Fach Binc i barti mawr arall.

Ac yna, daeth Merswy, Yr Hen Flaidd Mawr Drwg, dros y clawdd yn wên i gyd a dweud; "Tyrd i fy Ninas i Steddfod Fach Binc ac fe gei di y parti mwyaf a gorau a welais ti erioed achos mae gen i ddigon o arian i dalu am bob math o bethau yn ein Dinas Fawr Ni.

Marchog hawddgar

Ond yna, a'r Eisteddfod Fach Binc ar fin gafael yn llaw Merswy y Blaidd Mawr Drwg efo lot o arian, a mynd gydag ef i'w Ddinas Fawr Ddrwg, pwy ddaeth i fyny'r ffordd o nunlle ar gefn asyn ond Syr Fflint, marchog hawddgar ond tlodaidd a chanddo galon fawr.

A chan chwifio ei gleddyf yn wyneb Merswy y Blaidd Mawr Drwg dyma Sir Fflint yn dweud yn Saesneg, "Er nad ydi o yn lle crand ac er nad oes yma lawer yn siarad Cymraeg plîs tyrd i fy nghartref i er mwyn i Ni drefnu y parti gorau a welais ti erioed iti."

A dyma'r Steddfod Fach Binc yn cychwyn ar y daith hir a throfaog i Cyffiniau, lle'r oedd cartref Sir Fflint.

Gŵr doeth

Ond pan glywodd ffrindiau Sir Fflint fod Y Steddfod Fach Binc yn dod doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud gan y byddai angen arian mawr, mawr, i dalu am barti fel hwn.

Felly dyma nhw'n troi at ŵr doeth o'r enw Aled yr Hynafgwr a oedd wedi trefnu parti tebyg o'r blaen yn Cyffiniau flynyddoedd maith yn ôl.

Ac fe geisiodd Aled help marsiandwr craff o'r enw Selwyn y Siswrn a aeth ati yn syth i wneud pob math o bethau i gael arian a'u rhoi nhw i gyd, wedyn, i Hywel y Trefnydd gan ddweud wrtho fo: "Yr ydym ni wedi achub Y Steddfod Fach Binc oddi wrth Merswy y Blaidd Mawr Drwg - nawr rhaid i ti drefnu parti na welwyd ei debyg o'r blaen yn Cyffiniau a Chymru Fach."

Glawio a glawio

Ond, a Hywel bron â chael popeth ynghyd fe ddaeth hi yn storm enbyd nas gwelwyd ei thebyg ers saith, saith, o'r pedwar amser yng ngwlad Y Steddfod Fach Binc ac yr oedd Hywel y Trefnydd yn gorwedd yn ei wely yn ofni beth a ddigwyddai wrth i'r gwynt chwythu ac i'r glaw lawio yn ddibaid am oriau a diwrnodau ac wythnosau nes bod cae'r parti fel pwll hwyaid a mwd yn gorwedd ar fwd a'r Steddfod Fach Binc yn ei dagrau yn wylo eto.

Nid oedd dim i'w wneud ond galw ar Elfed y Dewin Doeth o'r Brifddinas Dlos. Ac meddai Elfed y Dewin Doeth wrth Hywel y Trefnydd Partis a Selwyn y Marsiandwr ac Aled y Gŵr Doeth a holl bobol y wlad; "Dydi tywydd fel hyn yn da i ddim i ni."

'Bydd popeth yn iawn . . .'

A dyma fo'n chwifio ei hudlath ac ysgyrnygu ar y cymylau a bygwth y glaw a thaflu mynyddoedd o gerrig dros y moroedd mwd gan ddweud; "Paid a wylo Steddfod Fach Binc. Bydd popeth yn iawn"

Ac wythnos cyn parti mawr Y Steddfod Fach Binc dyma'r glaw yn peidio, a'r mwd yn sychu wrth i'r haul dywynnu dros erwau Cyffiniau lle cafwyd y parti gorau a gafodd Y Steddfod Fach Binc ers blynyddoedd lawer.

Ac yn awr bod Y Steddfod Fach Binc yn hapus mae Aled yr Hynafgwr wedi gofyn i Huw ap Eic drefnu parti arall iddi hi y flwyddyn nesaf yn Ninas Fawr Caerfryngis lle mae llawer yn siarad Cymraeg. Ac mi fydd Y Steddfod Fach Binc yn byw yn hapus byth eto.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý