Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Meddwl mwya'r Steddfod

4 Awst 2007

Guto Roberts - a'i ymennydd

Pendigeidfrên - dyna ichi frên!

Ar faes sydd i fod yn lluosog o feddyliau mwyaf y genedl nid oes amheuaeth o gwbl ble mae'r ymennydd mwyaf yn Yr Wyddgrug.

Yn addas iawn, yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd dan ofal Guto Roberts, cyn ddarlithydd o Brifysgol Morgannwg.

Dywedodd Guto, sy'n ffisegydd wrth ei alwedigaeth, mai dyma'r chweched tro iddo gynllunio'r arddangosfa hon.

"Ac mi fyddai'n ceisio meddwl am rywbeth sy'n mynd i dynnu sylw a dal dychymyg bob blwyddyn," meddai.

Guto Roberts

Yr ymennydd mwyaf!

Ac eleni - ymennydd enfawr sydd fil gwaith yn fwy nag ymennydd go iawn yw'r canolbwynt hwnnw - ac wedi ei adeiladu gan yr un cwmni o Gaerdydd sy'n gyfrifol am rai o greadigaethau Dr Who.

Pan fydd y model - a enwyd yn Pendigeidfrên gan un o wrandawyr rhaglen Hywel a Niaar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru - yn symud mae rhannau arbennig yn goleuo i ddangos pan ran sy'n gyfrifol am beth. Datrys problem yn y blaen, y golwg yn y cefn er enghraifft.

Ond pwysleisiodd Guto, sy'n dod o Edern ym Mhen Llŷn yn wreiddiol, mai dim ond rhan o arddangosfa llawer iawn mwy am wyddoniaeth y meddwl yw Pendigeidfrên.

Ychwanegodd mai dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gydweithio gydag Adran Seicoleg Prifysgol Bangor ar ddigwyddiad o'r fath.

Meddai Guto, sy'n Ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod:

"Mae'r arddangosfa wedi ei threfnu gyda. chymorth y Wellcome Trust a Phrifysgol Bangor ac rwy'n gobeithio y bydd y model yma yn tynnu sylw acyn arwain pobl i weddill yr arddangosfa," meddai.

Ychwanegodd y bydd cyfle hefyd i blant ac oedolion greu modelau o niwronau, datrys dirgelion, profi eu cof; trwsio ymennydd sydd wedi ei dorri, tasgau i gasglu ffeithiau - oll tra'n dysgu am wyddoniaeth y meddwl.

Ond heb amheuaeth - Pendigeidfrên fydd yn goleuo'r rhan hwnnw o'r pen sy'n ymwneud â'r dychymyg!



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý