|
|
Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Μύ |
StraeonGwyddgrug Gwilym - bore Gwener10 Awst 2007Sylwadau olaf Gwilym Owen o'r maes yr wythnos hon - ar Y Post Cyntaf Llongyfarchiadau i'r Cymro Dechrau ar nodyn cadarnhaol y bore 'ma. Nid cyn pryd fe'ch clywa i chi yn deud. Beth bynnag am hynny mae'n deg fy mod i'n llongyfarch criw Y Cymro am gyhoeddi rhifyn arbennig rhad ac am ddim fore Mercher. Rhifyn lliwgar proffesiynol llawn lluniau o ddyddiau cyntaf y Brifwyl. Ac mae un llun wedi 'nghosi - hwnnw sydd ar gongl uchaf y ddalen flaen. Llun o'r cyn archdderwydd yn sibrwd yng nghlust yr Arch presennol ac fel petai'n deud, "Cofia boi bach, mi fyddi ditha ar y dΓ΄l yr wsnos nesa." Cymry TramorClywed hefyd fod rhai o'r Cymry tramor yn anfodlon efo'r seremoni groeso newydd bnawn Mercher. Ond, onid cau drws y stabal wedi i'r ceffyl ddianc ydi cecru rwan? Rhy hwyr bois bach rhy hwyr. Am y gorauClywed wedyn fod Trefnydd y Steddfod Hywel Wyn Edwards wedi trechu Eleri Sion mewn cystadleuaeth goginio ar y maes. Dipyn o syndod efallai - ond nid cymaint a phetai Eleri Sion wedi trechu'r Bonwr Hywel Wyn mewn cystadleuaeth trefnu steddfod. Byddai hynny'n destun pryder. Dwy siomRoedd rhai o gyn-fyfyrwyr Prifsygol Bangor yn dra siomedig mai diodydd meddal yn hytrach na diodydd meddwol oedd ar gael yn yr aduniad ar y maes yn ystod yr wythnos - a siomedig hefyd oedd rhai o aelodau Cor y Steddfod na chafodd eu cyngerdd mawr nhw nos Fawrth sylw o gwbl ar y cyfyngau torfol. Tybed oes yna reswm am hynny? Dillad didrefnMae'n ymddangos ei bod hi'n dipyn o halibalw yn ystafelloedd gwisgo Gorsedd y Beirdd a rhai mwy sidet na'i gilydd yn awgerymu fod angen disgyblaeth gadarnhaol a gwell trefn yn hytrach na'r gwthio a'r ymgiprys wrth wisgo'r cobenni. Gwasgu'r WasgAc fel mae'r Brifwyl yn tynnu ei thraed ati wele gyhoeddiad gwerth sylwi arno gan Rhodri Glyn Thomas - Y Gweinidog Treftadaeth - o'i swyddfa ar y Maes Carafannau. 'Rydw i wedi gofyn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynnal arolwg o'r Wasg Brintiedig Gymraeg,' medda fo neu eiriau tebyg 'a honno i'w chyhoeddi cyn y Dolig'. Oni ofynnwyd am yr un peth mewn cyfarfod rhwng newyddiadurwyr a'r Bwrdd Iaith flynyddoedd yn Γ΄l pan oedd yr Herald ar fin diflannu? Ond ni fu ymateb bryd hynny. Mi drychwn ni ymlaen rwan at y Dolig Fawr o LolAc aros yn y byd cyhoeddi, dyma restr o osodiadau a glywais i ar y maes ers bore Llun: A wyddoch chi be mae Nedwyn John y ci bach mwya gwrtheisteddfodol a grewyd - mae o hyd yn oed wedi dechrau dod allan o'i gragen erbyn y bore ma ac yn edrych fel ei fod o'n dechrau mwynhau ei hun. Do fe ddaeth tro ar fyd ym Mhrifwyl 2007 A jyst i brofi hynny, dyma finna'n cau pen y mwdwl heb gyfeirio at na Jyncet na Sanhedrin. O'r Wyddgrug, da bo chi. Categori
|
About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Μύ |