Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Anrhydeddau'r Orsedd

Gorffennaf 2007

Llyr Williams

Pianydd rhyfeddol, awdur a meddyg blaenllaw ymhlith y mawrion!

Y mae pianydd o Gymro y mae ei ddawn ryfeddol wedi cyfareddu pobl mewn sawl gwlad yn un o'r rhai sy'n cael ei dderbyn yn aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd yn yr Wyddgrug eleni.

Ac fel mae'n digwydd mae Llyr Williams hefyd yn un o artistiaid cyngherddau y brifwyl honno.

Ar restr lawer iawn llai nag arfer - 16 o bobl o gymharu a bron i ddeugain y llynedd a'r flwyddyn cynt - mae'r newyddiadurwr ac awdur, Byron Rogers yn cael ei anrhydeddu , yr ymgynghorydd oncolegol, Yr Athro Bleddyn Jones ac aelod blaenllaw o Gymdeithas Pêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes.

Anrhydeddir hefyd, am y tro cyntaf, rai o brif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Cyhoeddwn isod y rhestr gyflawn o bawb fydd yn cael eu derbyn yn aelodau newydd o'r Orsedd yn Yr Wyddgrug eleni gan gynnwys teyrnged yr Orsedd i'r rhai a anrhydeddir.

I'w hurddo fore Llun 6 Awst 2007

Urddir ar gyfrif eu graddau yn cynnwys astudiaethau Cymraeg neu Gerddoriaeth:

Urdd Cerddor

John Innes Edwards, Mus. Bac., Rhosmeirch.

Urdd Llenor

  • lestyn Rhys Davies, BA, Llanfair-pwll
  • Gwen Saunders Jones, BA, Marian Glas
  • Adrian Morgan, BA, Pontarddulais
  • Leila Mair Salisbury, BA, Llangynog
  • Heather Ann Shilvock, B. Add., Pwllheli
  • Angharad Williams, BA, Penderyn
  • Ffion Gwenllian Williams, BA, Yr Wyddgrug

Arholiadau Gorsedd y Beirdd 2007

Llwyddodd yr ymgeiswyr a ganlyn yn arholiadau Gorsedd y Beirdd eleni, ac urddir hwy yn aelodau gan yr Archdderwydd fore Llun, 6 Awst 2007 yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau:

Urdd leithydd (Gwisg Las)

Beth Davies, Gorrig, Llandysul, Ceredigion. (Enw yng Ngorsedd: Beth o'r Llan)

Urdd Cerdd Ofydd (Gwisg Werdd)

Elwyn Evans, Caeredin. ( Siôr ap Oswyn)

Urdd laith Ofydd (Gwisg Werdd)

Richard Garner Williams, Caerdydd. (Richard y Llan)

Yn cael ei hurddo eleni wedi llwyddo yn yr arholiadau y llynedd:

  • Urdd laith Ofydd (Gwisg Werdd)
  • Gillian Taylor Walker, Pwllheli. (Gill Caeron)
  • Gwyn o Arfon (Trefnydd yr Arholiadau)

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Ddinbych 2006.

  • Manon Wyn, Caernarfon - y Fedal Lenyddiaeth
  • Gwenno Mair Davies, Llansannan - y Goron.
  • Eurig Salisbury, Llanfarian, Aberystwyth - y Gadair.

Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch, 2006

Urdd Ofydd er Anrhydedd:

  • Esyllt Tudur Davies, Llanrwst. Enillydd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis
  • Stuart Imm, Cwmbran. Dysgwr y Flwyddyn.
  • Dafydd Wyn Jones, Ystrad Meurig. Unawd Cerdd Dant dros 21 oed.
  • Enfys Gwawr Loader, Abertawe. Gwobr Richard Burton.
  • Rhian Lois, Ystrad Meurig. Gwobr Goffa Osborne Roberts.
  • Medwen Parry, Aberdaron. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn

Urdd Derwydd er Anrhydedd

  • Gwynfor ab Ifor, Tregarth. Y Gadair
  • Fflur Dafydd, Caerfyrddin, Y Fedal Ryddiaith
  • Aled Rhys Hughes, Rhydaman. Medal Aur Celfyddyd Gain.
  • Gwen Pritchard Jones, Pant Glas. Gwobr Goffa Daniel Owen.

I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd air Eisteddfod

  • Hilma Lloyd Edwards (Alawes Bodellog), Bontnewydd. Hilma Lloyd Edwards (Alawes Bodellog), Bontnewydd.
  • Alun Morgan Lloyd (Alun), Llandybie.
  • Alun Thomas (Alun o Galedfwlch), Basaleg.
  • David Eifion Thomas (Eifion Elli), Llanelli.

I'w hurddo fore Gwener 10 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007:

(i) Urdd Ofydd er Anrhydedd

  • Elinor Talfan Delaney. Fe'i ganed yn y Barri ond treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd yn Llundain gan roi cyfraniad amlwg i fywyd Cymry Cymraeg y ddinas. Ymhlith ei llu o weithgareddau bu ei gweithgarwch gydag Ysgol Gymraeg Llundain yn allweddol a heb ei hymroddiad llwyr a didwyll hi ni fyddai'r Ysgol wedi parhau.
  • Trefor Lloyd Hughes, Caergybi - bu'n flaenllaw mewn Llywodraeth leol, ac yn arbennig yn ei waith gyda'r gwasanaeth Ambiwlans ym Môn. Dros ddeugain mlynedd bu'n gweinyddu gwahanol gynghreiriau pêl-droed ac yn ei dro bu'n gadeirydd ac yn drysorydd Pwyllgor Cyllid Cymdeithas Pêl-droed Cymru, gan frwydro i sicrhau statws cyfartal i'r Gymraeg o fewn y corff hwnnw.
  • Alun Ifans, Maenclochog - Prifathro eang iawn ei ddiwylliant. Yn ei ysgol yng Nghas-mael bu ei frwdfrydedd yn fodd i sicrhau dyfodol Cymreictod mewn bro dan fygythiad. Adlewyrchir ei serch at gelfyddyd ar furiau'r ysgol. Bu'n egniol fel Cadeirydd Pwyllgor Celf a Chrefft y Genedlaethol yn 2002, a chyda threfnu canmlwyddiant geni Waldo.
  • Gwenda John, Blaenffos - ers blynyddoedd bu'n hyfforddi unigolion a phartïon chorau ar gyfer eisteddfodau a chyngherddau. Cafodd lwyddiant nodedig yn cyflwyno i blant a phobol ifanc gelfyddyd Cerdd Dant, crefft gymharol ddieithr gynt yn Sir Benfro. Oherwydd arbenigrwydd ei gweithgarwch fe'i gwnaed yn Llywydd Anrhydeddus Gŵyl Gerdd Dant 2005.
  • Aeryn Owen Jones, Dinmael - Ffermwr a chrefftwr nodedig sy'n rhagori fel waliwr cerrig a phlygwr gwrych. Ond fe ŵyr Cymru gyfan amdano fel difyrrwr ac adroddwr ac eisteddfodwr heb ei ail. Bu'n un o'r cystadleuwyr mwyaf cyson drwy Gymru gyfan, gan ennill llu o wobrau mewn eisteddfodau taleithiol a chenedlaethol.
  • Helga Martin, Ysbyty Ifan - yn hanu o'r Swistir cafodd ei magu yn yr Almaen. Yn dilyni gwahanol swyddi yn Lloegr ymddeolodd yn gynnar i Ysbyty Ifan gan ymdaflu'n llwyr i fywyd Cymru a'r Gymraeg. Mae'n aelod llu o gymdeithasau a sefydliadau lleol a chenedlaethol gan danysgrifio i gylchgronau Cymraeg di-rif. Y mae ei hymroddiad i fywyd Cymru yn anhygoel.
  • Harri Parri-Roberts, Efailwen - Fel ei dad, y Parchedig R Parri-Roberts, fe saif yn gadarn dros draddodiadau gorau ardal y Preselau. Ymhlith llawer o weithgareddau mae'n ysgrifennydd ei eglwys, yn weithiwr cyson dros y papur bro, Clebran. Mae'n wirfoddolwr dros achos "Croesffordd Penfro" a bellach yn un o'u trefnyddion. Un o gymwynaswyr mawr ei fro.
  • Eifion Price, Rhydaman - Cerddor medrus y mae'r Urdd a'r Genedlaethol wedi elwa'n fawr ar ei gymorth yn hyfforddi a chyfeilio i genedlaethau o blant a ieuenctid. Bu'n cyfeilio i bartïon dawns yr ardal. Mae'n rhan annatod o gwmni Jac-y-Do sy'n diddanu a chynnal dawnsiau gwerin. Mae ei ddoniau gyda'r ffidil wedi ysbrydoli a difyrru llu drwy Forgannwg a Myrddin.

(ii) Urdd Derwydd er Anrhydedd

  • Dyfrig John, Llundain - Pennaeth Banc HSBC ym Mhrydain ac Ewrop yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar Fwrdd Rheoli'r banc ledled y byd. Bu'r banc hwn ers blynyddoedd yn gwasanaethu'r Eisteddfod ac yn un o'i phrif noddwyr. Ar hyd ei yrfa lewyrchus ac eithriadol ddylanwadol, gartref a thramor, bu Dyfrig John yn arddel ei wreiddiau Cymraeg gyda balchder.
  • Alun Jones, Bow Street - Rhoddodd gyfraniad allweddol i Gymru ac i'r Gymraeg ym myd Addysg a'r Eisteddfod. Bu'n athro a darlithydd prifysgol ac ef er 1996 yw Prif Arholwr Safon Uwch Cymraeg. Mae'n awdur gwerslyfrau, yn diwtor a threfnydd cyrsiau, yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyson ac yn Gadeirydd Pwyllgor Llefaru Canolog yr Urdd.
  • Dr Hefin Jones, Caerdydd - un o wyddonwyr disgleiriaf Cymru. Wedi profiad academaidd helaeth ym Mhrydain a thramor y mae bellach yn Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n olygydd ac awdur a darlledwr toreithiog mewn maes hollol greiddiol. Bu'n Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac yn Ysgrifennydd Ieuenctid Annibynwyr y Byd.
  • Yr Athro Bleddyn Jones, Barnt Green, Sir Gaerwrangon - Anodd fyddai mesur ei gyfraniad i fyd meddygaeth ym Mhrydain. Y mae'r Cymro diymhongar hwn bellach yn ymgynghorydd Oncoleg a Radio-bioleg yn Ysbyty Prifysgol Y Frenhines Elizabeth, gyda Chadair bersonol yn yr Ysgol Feddygol. Drwy ei lu o gyhoeddiadau dylanwadol cynyddwyd yn sylweddol wybodaeth am gancr a phelydrau.
  • Rhiannon Lloyd, Llandudoch - Rhoddodd oes o wasanaeth i Addysg Gymraeg, ac fe'i hanrhydeddir oherwydd arbenigrwydd ei chyfraniadau. Wedi cyfnod yn Bennaeth Adran bu'n Arolygwr ei Mawrhydi a berchid gan bawb am ei harweiniad deallus. Y mae bellach yn Brifathrawes Ysgol Glantaf a hefyd yn aelod ar weithgorau allweddol ynglÅ·n ag addysg uwch drwy'r Gymraeg.
  • Byron Rogers, Blakesley - Awdur dawnus eithriadol a fu'n golofnydd i'r Daily Telegraph, gan gyhoeddi hefyd mewn papurau Saesneg trymion eraill. Ers ymddeol cyhoeddodd lyfr bob blwyddyn am chwe blynedd gan gynnwys cofiant R S Thomas a The Lost Children, yn olrhain hanes Gwenllïan, gan arwain at sefydlu Cymdeithas Gwenllïan a gosod plac yn Sempringham.
  • Carys Tudor Williams, Caerdydd - Wedi cyfnod yn Llundain fe'i penodwyd yn aelod o dîm athrawon "drama mewn addysg" Sir Fflint. Fel athrawes ddrama bu ei chyfraniad i ysgolion uwchradd a chynradd y sir yn enfawr wrth iddi hi hybu a chynhyrchu mewn ysgol a theatr. Rhoes flynyddoedd o weledigaeth ac arweiniad doeth yn gadeirydd Panel Drama'r Eisteddfod Genedlaethol.
  • Llyr Williams, Pentrebychan, Wrecsam - un o'r perfformwyr offerynnol gorau a welodd Cymru erioed. Wedi gyrfa golegol ddisglair cafodd lwyddiannau cyson gydag ymateb anhygoel i'w berfformiad cyntaf yng Ngŵyl Caeredin, 2003. Cafodd gymeradwyaeth syfrdanol gan adolygwyr cerddorol penna'r byd gydag un beirniad o Wlad Belg yn dweud: : "Nid curo dwylo wnaethom ni ond codi mewn rhyfeddod. Dyma Schubert fel nas clywyd ef erioed o'r blaen."


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý