Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Owain Glyndŵr ar y maes

7 Awst 2007

Owain

Yn arfog - ond yn ceisio cadw o'r gwres!

"Cyn belled eich bod yn cadw allan o'r haul ac yn osgoi symud o gwmpas yn ormodol," dyna ymateb Owain Glyndŵr i'r dillad trymion y mae'n eu gwisgo yn ystod ei ymweliad â maes Eisteddfod yr Wyddgrug.

Mae Owain yma bob dydd ac ar gael i siarad am fywyd milwyr Cymreig y canol oesoedd.

Mike Roberts sy'n aelod o griw ail fyw digwyddiadau hanesyddol yw Owain a bu'n chwarae'r rhan hon a rhannau cymeriadau eraill yn amrywio o Henry Percy i Owain Lawgoch mewn pob math o safleoedd hanesyddol ers deng mlynedd bellach.

Ond prysurodd i ddweud nad chwarae plant yw gweithgarwch y criw sy'n galw eu hunain yn Samhain - yr enw ar hen ŵyl y meirwon ymhlith y Celtiaid.

Mae ei arfau a'i ddillad wedi eu hatgynhyrchu cyn gywired a phosibl ac yn gymysgedd o ddur a deunydd trwm.

Mike Roberts fel Owain Glyndwr

Mike Roberts fel Owain Glyndwr - y dillad mor debyg a phosib i rai go iawn

"Oherwydd ein bod yn gweithredu o fewn hyd braich i bobl mae'n hanfodol fod y manylion yn iawn. Mae'r gwaith cadwyn fêl wedi ei wneud â llaw ac mae rhannau eraill o'r wisg o ddur go iawn.

"Ydi, mae'n drwm ac fe all fod yn boeth. Ond cyn belled eich bod yn aros yn y cysgod a pheidio a symud o gwmpas yn ormodol dydi o ddim rhy ddrwg," meddai Mike a fydd yn y wisg gydol yr wythnos.

"Os ydi hi'n mynd yn boeth mae yna ffordd i symud eich corff o fewn y dillad i greu awyr oer ac mae hynny'n cael ei alw'n 'nofio o fewn yr arfwisg' acyn help mawr," meddai.

Mae Mike wedi gosod ei wersyll gerllaw pabell NWN Media - cwmni argraffu a chyhoeddi papurau newydd dafliad carreg o faes yr Eisteddfod lle mae'n arlunydd graffeg wrth ei waith bob dydd.

Mae ganddo bob math o offer a theclynau i'w dangos - o declyn y defnyddiwyd un pen iddo i bigo'ch dannedd a'r pen arall i lanhau eich clustiau.

"Dim ond unwaith yr ydych chi'n gwneud camgymeriad rhwng y ddau ben," meddai!

Er nad yw Mike yn rhugl yn y Gymraeg y mae ei wraig ac mae ei blant yn mynychu ysgol Gymraeg.

"Y mae'r criw o 30 sy'n aelodau o Samhain yn unigryw yn y ffaith eu bod yn ail fyw y cyfnod hwn yn hanes Cymru gan berfformio y ddwy ochr i Glawdd Offa a bu gan Mike ac eraill ran yn rhaglen deledu Huw Edwards am Owain Glyndŵr. .

"Yr ydym yn cael ymateb da iawn yn wyneb y ffaith nad yw pobl yn gwybod llawer am y cyfnod ac am arwyddocâd Glyndŵr.

"Hebddo ef go brin y byddem ni yma yr wythnos yn cynnal gŵyl fel hon yn y Gymraeg," meddai.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý