Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Pen-blwydd hapus i Hywel

11 Awst 2007

Hywel Wyn Edwards ar y maes

Trefnydd wedi cael yr anrheg orau cyn ei ben-blwydd

Wythnos yn gynnar, mae'n wir, ond dathlwyd heddiw ben-blwydd Trefnydd yr Eisteddfod yn gyhoeddus - a hynny ar y maes fu'n achos cymaint o gur pen iddo rai wythnosau'n ôl.

Ddydd Sadwrn nesaf y bydd Hywel Wyn Edwards yn 60 oed ond fore heddiw ymgasglodd criw ger prif fynedfa'r maes i ddymuno pen-blwydd hapus iddo.

Dymuno pen-blwydd hapus

Dymuno pen-blwydd hapus i Hywel Wyn Edwards ar un o sgriniau'r maes

Ond ar wahân i'r dymuniadau da yr oedd Mr Edwards wedi cael yr anrheg gorau y gallai ei dychmygu yn barod - wythnos o haul ac Eisteddfod lwyddiannus wedi lapio mewn pafiliwn pinc.

"Dwi wedi cael yr anrheg pen-blwydd gorau yn barod - wedi cael tywydd braf ac wythnos lwyddiannus," meddai.

"Mae hyn yn codi nghalon i," ychwanegodd.

Dim ond wythnosau yn ôl yr oedd yn disgrifio yn y wasg sut yr oedd yn effro'r nos yn gwrando ar sŵn y glaw ac yn pryderu am gyflwr y maes dan ei ofal.

"Mae wedi bod yn wythnos wych," meddai gan edrych ar gyfarchion ar un o'r sgriniau mawr ar y maes.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý