Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Gwyddgrug Gwilym - dydd Mawrth

7 Awst 2007

Gwilym Owen a'i lygaid ar y craciau yn y muriau steddfodol!

Sylwadau Gwilym Owen o'r maes - ar y Post Cyntaf bob bore

Dechrau eto'r bore ma efo Nedwyn -neu Nedwyn John -y ci bach sy'n canfod wythnos y Steddfod yn Stafelly Wasg yn faich anodd iawn ei gario.

Nedwyn ac  Elfed

Mynd am dro - Nedwyn John ac Elfed Roberts.

Bellach, mae'n amlwg bod y Sanhedrin Eisteddfodol yn bryderus ynglŷn â'i agwedd gwrth Brifwyl - yn gymaint felly nes bod y Prif Weithredwr, Elfed Roberts, wedi penderfynu wynebu'r broblem mewn ffordd ymarferol.

Fe'i gwelwyd yn myd a Nedwyn o gwmpas y maes gan hyrddio maldod ato.

Ond wedi cyrraedd yn ôl roedd yr hen gi mor surbwch ag erioed.

Disgwyl beirniadaeth

Ac mae yna le i gredu mai digon chwerw fydd un o feirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen o lwyfan y Pafiliwn y pnawn 'ma. Yn ôl y sibrydion does yna ddim cytundeb rhwng y tri sy'n cloriannu.

Peidiwch a phoeni mi fydd yna wobrwyo ond synnwn i ddim na fydd yna dipyn o siarad plaen ar y llwyfan ac ar ôl y seremoni.

Colli'r rhaglen

Cyfrol ddiddorol ydi rhaglen y dydd eleni - cyfrol llawn deuoliaeth. Ar un llaw mae nifer o fanylion a ddylai fod ynddi ar goll - pethau fel trefn croesawu'r Cymry tramor bnawn Mercher, cyfraniad ariannol i'r gronfa leol gan un o'r pwysigion Steddfodol ac enw parti llefaru ar gyfer dydd gwener.

Ar y llaw arall roedd enwau saith parti yn y rhaglen ddoe ar gyfer y grŵp offerynnol agored.

Dim ond tri ymddangosodd - a chafwyd llwyfan gwag am dros awr. Ac mae'r rhaglen yn costio chwe phunt cofiwch.

Disgwyl beirniadaeth

Sgwn i sut groeso mae Eifion Lloyd Jones, un o bileri Cyngor yr Eisteddfod, wedi ei gael gan y Sanhedrin eleni.

Mae ganddo erthygl bwysig yn rhifyn y mis hwn o'r cylchgrawn Barn lle mae o'n ein hatgoffa am ei araith ddadleuol o lwyfan Prifysgol Dinbych yn nwy fil ac un am le'r Gymraeg yn ein trefn addysgol.

Mae'n honni fod un o addysgwyr blaenaf Cymru sydd hefyd yn amlwg yn y Steddfod wedi cwyno amdano wrth ei bennaeth - Is Ganghellor y Brifysgol ym Mangor.

Ac mae'n mynd ymhellach drwy gyhoeddi byddai erbyn hyn yn gadeirydd Cyngor y Steddfod oni bai am y ddarlith - ac mae'n cyhuddo'r Sanhedrin o fod wedi sicrhau na fyddai hynny yn digwydd. Ie stori drist iawn ond cwbl Gymreig.

Pwnc trafod

Mae'n ymddangos i mi fod cymdeithas sy'n galw ei hun yn Gymdeithas Cledwyn yn cael trafferth blynyddol i ddewis pwnc i'w drafod ym Mhabell y Cymdeithasau.

Meddyliwch mewn difri y bore yma fe ddo nhw at ei gilydd i holi a fydd Gordon Brown fel Prif Weinidog yn gwneud unrhyw wahaniaeth i Gymru. Trist iawn.

O'r mawredd!

A thristach fyth oedd clywed rhai eisteddfodwyr yn cwyno ddoe am flerwch rhyfeddol gan is-deitlwyr S4C wrth gyflwyno'r emynau o'r Gymanfa ar y bocs nos Sul.

'DYW' ymddangosodd ar y sgrin yn lle 'DUW' ar fwy nag un achlysur.

Embaras hwnna ydy o pan gofiwch chi fod Cadeirydd Awdurdod S4C a'r Prif Weithredwr yn blant y mans.
Owch!



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý