Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Gwyddgrug Gwilym - dydd Llun

6 Awst 2007

Gwylim Owen - gwylio'r craciau!

Sylwadau Gwilym Owen o'r maes - ar y Post Cyntaf bob bore

Cyfarchion o faes Prifwyl Sir Fflint a'r Cyffiniau ar fore Llun.

Ac mae'n ymddangos nad oes dim wedi newid - o leiaf yn agwedd rhai at y Steddfod.

Cysgu'n braf oedd Nedwyn yr hen gi bach sy'n cadw cwmni blynyddol inni yn Stafell y Wasg - cysgu a'i gefn at bawb oedd o pan adewais y Felindre y llynedd ac yr oedd yn gwneud yr union run peth pan gyrhaeddais eleni.

Mi ddywedwn i na fydd Nedwyn byth yn steddfotwr go iawn.

Dwylo allan . . .

Ond yn ôl yr hyn mae o'n ddweud wrth bawb mae ein Gweinidog Treftadaeth newydd, Rhodri Glyn Thomas, wrth ei fodd yn y Brifwyl.

Ac, wrth gwrs, eleni bydd pob Twm, Dic a Harri Bach yn lluchio lledod ato gan obeithio y bydd yntau yn barod i rannu peth o'r cyfoeth sydd ganddo yn y pwrs cyhoeddus.

Beth pe byddai o'n galw, felly, ym Mhabell y Cymdeithasau y bore 'ma a rhoi addewid am gelc go lew i achub y wasg Gymraeg brintiedig.
Ond go brin y daw o.

Diwylliant newydd . . .

Ond efallai y bydd o'n galw heibio Maes D ychydig yn ddiweddarach. Yno mae rhywun o'r enw Pol Wang yn cynnal sesiwn Gung Ffw ac efallai y gall y gweinidog ein goleuo sut yn union mae'r cyryw beth yn ffitio i'r dreftadaeth Gymreig.
Mae'r peth yn ddirgelwch i mi!

Tipyn o ddrama . . .

Dirgelwch arall ydi'r sibrydion rhyfeddol nad yw Clwyd Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru ddim am groesawu'r wasg a'r cyfryngau i weld eu perfformiad cyntaf o'r ddrama newydd, Wrth Borth y Byddar gan Manon Eames.

A'r rheswm glywais i yw fod y cynhyrchwyr am i'r cast gael cyfle i setlo'i lawr cyn bod yr adolygwyr yn cael cyfle i fwrw eu llinyn mesur.

Agwedd braidd yn amhroffesiynol efallai - os ydy o'n wir wrth gwrs!

Gwyntoedd buddiol . . .

Ond mae'n gwbl wir bod yna gwmni sy'n arbenigo mewn datblygu ffermydd gwynt wedi penderfynu dod i genhadu ar faes y Brifwyl - ac mae'n amlwg eu bod yn griw o bobl sy'n gweld ymhell.

Prin bod lle gwell yn unwam a mwy o wynt o bob math na maes y genedlaethol.

Jyst y lle i Windpower Wales Ltd

Y Steddfotwr prysuraf . . .

Cwestiwn bach rŵan.
Pwy tybed ydi'r Steddfotwr prysura ar y maes. Ewch ati i gribinio Rhaglen y Dydd a dwi'n siŵr y byddai hi'n anodd ichi ganfod neb prysurach na Nic Parry - ond dyna fo, dydi bod yn brysur yn ddim byd newydd iddo fo.
Ac mae o'n joio.

Buddugwyr newydd . . .

A dwi'n siŵr y bydd yr Archdderwydd Selwyn Iolen yn joio croesawu buddugwyr prig gystadlaethau Prifwyl yr Urdd i'r cylch cyfrin y bore ma a hynny am y tro cyntaf erioed.

Sgwn i a ydi Bwrdd yr Orsedd yn bwriadu agor y drysau i'r rhai hynny sy'n dod i'r brig ym Mhrifwyl y ffermwyr Ifainc y flwyddyn nesaf.

Mae'n bwysig cadw'r ddesgil yn wastad.

Gweinier y cledd.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý