Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Adolygiad

Cofio Myfanwy Talog

7 Awst 2007

Myfanwy Talog

'Ei hiwmor a'i chwerthiniad iach yn denu pobl'

Adolygiad Catrin Jones o Cofio Myf. Theatr y Maes. Dydd Mawrth, 7 Awst 2007

Ganwyd Myfanwy Talog yng Ngaerwys, Sir y Fflint yn 1945 ac felly roedd hi'n ddyletswydd ar yr Eisteddfod i dalu teyrnged iddi eleni gan ein bod ym mro ei mebyd.

A gwnaethpwyd hynny yng nghwmni rhai o'i chyfeillion yn Theatr y Maes brynhawn heddiw.

Ar lwyfan moel eisteddai Gaynor Morgan Rees, Christine Pritchard, Olwen Rees, Gwen Ellis a John Ogwen gyda Richard Morris Jones yn cadeirio.

Roedd Richard Morris Jones neu Moi i'w ffrindiau yn adnabod Myf ers eu dyddiau yng Ngholeg y Barri ar gyfer bod yn athrawon ac yn wir parhaodd Myf i fod yn athrawes nes ei bod yn actores broffesiynol.

Heb gael cyfle

Gwnaeth ei bywoliaeth ar y dechrau yn bennaf ar deledu Cymraeg ac mae hi'n enwog am ei phortread o Phyllis Doris ar y gyfres Ryan a Ronnie.

Ond er cystal oedd hi fel actores gomedi teimlai ei chyfeillion nad oedd wir wedi cael y cyfle i ddangos ei photensial fel actores mewn rhannau difrifol. Roedd hi wastad yn cwyno hefyd ei bod yn cael rhan 'y forwyn' ond er mawr falchder iddi yn 1982 cafodd gyfle i actio darlithwraig yn y gyfres Dinas -roedd hi wrth ei bodd!

Gyda William Thomas yn The Magnificent Evans

Myfanwy Talog gyda William Thomas yn The Magnificent Evans

Ychydig o bobl mewn gwirionedd sy'n sylweddoli mor dalentog oedd Myfanwy Talog mewn gwirionedd.Yn ogystal â thorri drwodd i fyd y sitcoms Saesneg fel Bread a The Magnificent Evans gyda Ronnie Barker, Myf hefyd ganodd gân y cartwn Dangermouse a gwneud yr holl leisiau yn Wil Cwac Cwac.
Cyflogwyd 12 o actorion i wneud y fersiwn Rwsieg diweddar gyda llaw!

Myf y person

Yn ogystal â gwerthfawrogi ei dawn fel actores a pherfformwraig roedd hwn hefyd yn gyfle inni ddod i wybod mwy am Myf y person.

Cyfeiriai sawl un o'i chyfeillion at ei llygaid yn fflachio a'i direidi ar lwyfan ond roedd hi'n berson yr un mor ddoniol a chynnes yn ei bywyd personol hefyd.

Roedd ei hiwmor a'i chwerthiniad iach yn denu pobl tuag ati. Er nad oedd ganddi blant ei hun, roedd yn fam fedydd hael a ffeind iawn i nifer fawr o blant - Rhys, mab Wyn Bowen Harries a Gwen Ellis yn eu plith.

Mewn englyn cyfeiriodd John Ogwen ati fel "brenhines y cymdeithasu". Yn wir, cofiaf imi ddarllen erthygl am David Jason - ei phartner am ddeunaw mlynedd - ble roedd yn canmol Myf am ei dawn fel trefnydd partion.

Hi yn wir yn 6ol ei chyfeillion oedd yr 'hostess with the mostest' ac roedd wrth ei bodd yn coginio a chreu'r prydau bwyd hyfrytaf gyda'r cynhwysion lleiaf.

Yn y car

Roedd iddi wrth gwrs ei hochr ecsentrig neu "artistig" chwedl ei ffrindiau.
Tra'n actio yn Tân ar y Comin prynodd gwrwgl iddi hi ei hun, a gwae unryw un a rannai gar â hi tra'i bod yn gyrru. Nid yn unig y byddai'n siarad efo'r person wrth ei hymyl ond efo'r person oedd yn eistedd y tu ôl iddi hefyd!

Awr a chwarter a gymrodd i fynd o Gaerwys i Aberystwyth ryw dro. Ond i fod yn deg yr oedd yn wir artistig hefyd.

Yr oedd wedi dysgu gwneud ei cholur ei hun ac roedd ei chorff a'i hymarweddiad urddasol yn caniatau iddi fod a chwaeth arbennig mewn dillad. Roedd Olwen Rees yn parhau i fod yn eiddigeddus o'r boots swêd piws a'r hotpants!

Rhywbeth ar goll

Braf oedd clywed hanesion bach difyr fel hyn amdani.
Rydwi'n ddigon ffodus i gofio'i pherfformiadau ar gyfresi fel Dinas ac ati ond beth a deimlwn oedd trueni na fuasai rhywun wedi trefnu i gael arddangosfa o luniau ohoni a phytiau ffilm o'i pherfformiadau.

Er mor ddifyr oedd yr atgofion gan gyfeillion amdani roedd rhywbeth ar goll yn y cyflwyniad.

Trueni na fuasai rhywun wedi cael y weledigaeth o greu lluniau cefndirol a llenwi'r llwyfan moel a'i phresenoldeb garismataidd. Roedd absenoldeb hyn yn pwysleisio'i cholli fwyfwy a sylweddolwn y buasai'r theatr Gymraeg heddiw yn dipyn cyfoethocach petai Myf dal efo ni.

Wrth golli Myfanwy Talog mor fuan a disymwth yn 49 oed o gancr y fron sylweddolwn bod gwagle mawr ar ei hôl.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý