Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Gwyddgrug Gwilym - dydd Mercher

8 Awst 2007

Gwilym Owen ar y maes

Sylwadau Gwilym Owen o'r maes - ar y Post Cyntaf bob bore

Lansiad X 4

Mae'n ymddangos fod pob sefydliad gwerth ei halen yn cyhoeddi taflenni digwyddiadau ar gyfer Ein Jyncet Fawr Genedlaethol.

Ac un o'r rhai mwya lliwgar ydi taflen Prifysgol Cymru Bangor - lliwgar a gwreiddiol a deud y gwir.

Wyddech chi ei bod hi'n bosib lansio rhywbeth nifer o weithiau mewn wythnos? Wel mae hi ym Mhrifysgol Bangor.

Maen nhw yn lansio rhywbeth a elwir yn Ganolfan Gymraeg i oedolion Gogledd Cymru bedair gwaith lle clywch chi am waith ymchwil diweddar yng Ngwlad y Basg.

A dyma chi rywbeth diddorol iawn arall. Mae'r Ysgol Gymraeg yn lansio tri llyfr newydd - a dau ohonyn nhw yn Saesneg cofiwch! Gwreiddiol te!

Dwy am un

A rwan syniad gwreiddiol a gwastraffus arall. Mi fydd yna ddwy ddarlith ar yr un pwnc ar y maes yma heddiw.

Thomas Pennant ydi gwrthrych y ddwy, y naill ym Mhabell y Cymdeithasau am hanner dydd a'r llall yn y Stiwdio am dri o'r gloch.

Hwyrach y dylai Cymdeithas Carnhuanawc a Chymdeithas Bob Owen gyd-drafod i osgoi dyblygu y dyfodol. Ond falle bod Thomas Pennant yn haeddu dwy awr o bregethu amdano.
Pwy ydw i i amau?

Lled llwybrau

Mae'n ymddangos nad ydi'r dechnoleg fodern a elwir yn wasanaeth band llydan yn gweithio'n effeithiol ar y maes yma yn ôl ffotograffwyr y wasg.

A falle bod hynny'n newyddion da o lawenydd mawr. Sefydliad sy'n cadw at y llwybr cul ydi'r Steddfod Genedlaethol a dydy hynny ddim yn syndod.
Fe'i harweinir gan Sanhedrin!

Canu rhwng y meini

Ac o gyfeirio at y llwybr cul mae'n ddiddorol sylwi y bydd Cwmni Teledu Avanti yn recordio rhifyn o'r rhaglen deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol yng nghylch yr Orsedd brynhawn Iau.

Y lle olaf fasach chi'n feddwl i gynnal cyfarfod crefyddol - ond dyna fo - mae Dechrau Canu Dechrau Canmol ar ei newidd wedd yn torri tir newydd i bob cyfeiriad ac yn llwyddo'n ddigamsyniol, yn ôl bosus ein sianel deledu hoff.

Ond go brin y bydd criw Caffi Basra, sioe glybiau newydd Theatr Bara Caws yno'n canu. Maen nhw yn rhoi pobiad caled i Martyn Geraint un o'r cyflwynwyr a sioe yr Happy Clappy fel maen nhw'n cyfeirio ati.

A oes hedd lu?

Mae yna ambell sinig eisteddfodol yn holi ar y maes yma tybed a oes yna beryg fod y Brifwyl yn araf lithro i ddwylo'r Heddlu

Ddoe mi roedd gan Heddlu Gogledd Cymru sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau a'r Prif Gwnstabl yn cadeirio trafodaeth yn dilyn araith gan Lywydd y Cynulliad.

Heddiw os gwelwch chi'n dda, mi fydd y Dirprwy Brif Gopyn yn cadeirio cyfarfod yn y Babell Lên i gyflwyno cyfrol o gerddi a gomisiynwyd gan heddlu Gogledd Cymru o'r enw Cerddi Cyfiawnder.
Be nesa tybed?

Cwestiwn rygbi

A chwestiwn digon pigog arall glywais i ddoe oedd hwn.
Sut gebyst all Robin McBryde sy'n un o hyfforddwyr carfan rygbi Cymru fforddio'r amser i fod yma yn yr Wyddgryg yn cario cleddyf yr Orsedd o gofio'r grasfa gafodd Cymru yn Twickenham ddydd Sadwrn diwethaf?

Onid rheitiach gwaith fyddai iddo fod yn helpu Gareth Jenkins druan yn hytrach na bod yn was bach i Selwyn Iolen a Gorsedd y Beirdd.
Hen gwestiwn cas - ond amserol.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý