Ymarfer ymateb i ddarn darllen
Darllena y darn [tud. 55–57: Daethant at yr Wylan Wen a pharciodd Richard y car o flaen y drws … teimlodd mai’r peth gorau i’w wneud oedd mynd i’r cefn am ychydig.
] a cheisia ateb y cwestiynau sy’n dilyn.
Question
Ysgrifenna hanes un olygfa arall yn y nofel lle mae Richard Jones yn chwarae rhan bwysig. Dylet ysgrifennu tua hanner tudalen A4.
- Ar ddechrau’r nofel mae Richard Jones yn claddu’r gemau yng nghornel un o gaeau Tan Ceris.
- Tynnu’r tywyrch yn ofalus a’u gosod â’u pennau i lawr cyn tyllu a rhoi’r pridd ar ddarn o bapur.
- Codi carreg ar siâp pyramid a’i rhoi ar y papur.
- Mesur y twll – dwy droedfedd a hanner.
- Bodlon ar hyn oherwydd mae’n gwybod y bydd dwy droedfedd o bridd ar ben y blwch gemau yn ddigon i’w ddiogelu.
- Cerdded at y clawdd lle mae wedi cuddio’r blwch a cheisio clywed sŵn y môr.
- Gosod y blwch ar waelod y twll, rhoi pridd ar ei ben gyda’i ddwylo a gwasgu’r pridd a’r garreg gyda gordd.
- Tywallt y glaw.
- Ofn gadael y mymryn lleiaf o bridd ar y glaswellt felly ei gario at y gwrych.
- Bodlon iawn ar ei waith taclus.
- I gyrraedd y car yr oedd yn rhaid iddo ddringo dros dri gwrych a cherdded ar draws dau gae ac roedd yn wlyb at ei groen.
Question
Sut gymeriad ydy Richard Jones? Rho enghreifftiau o’r ffordd mae’n ymddwyn.
- Dyn slei a chyfrwys iawn.
- Darganfod bod Harri Evans yn yr ysbyty.
- Eisiau gwybod ydy e wedi marw.
- Ffonio a dweud ei fod yn perthyn.
- Ofn i Harri ddweud hanes y dwyn wrth yr heddlu.
- Gofalus a thrylwyr fel pan mae’n claddu’r gemau ac yn cloddio amdanyn nhw yn sied Gladys.
- Dydy Meredydd ac Einir ddim yn ei hoffi – mae’n rhy fusneslyd.
- Penderfynol o gael y gemau.
Question
Sut mae’r darn yn cyfleu cymeriad Now Tan Ceris?
Cyn mynd i Dan Ceris yr oedd Richard Jones wedi meddwl y gallai gael unrhyw wybodaeth allan o Now ond sylweddolodd gyda siom fod y dyn gyferbyn ag ef yn rhy gymhleth iddo allu ei drin fel y dymunai; nid gwladwr syml llyncu popeth a eisteddai o’i flaen ond dyn â thafod a meddwl fel rasel.
Caiff hyn ei gadarnhau yn y darn dan sylw oherwydd mae’n amau bod Richard Jones ar ôl ei arian. Digon cyfrwys i adael i Richard Jones dalu am ei ddiod – wedi’r cyfan, cael ei wadd yno roedd ef,
meddyliodd!
Cyferbyniad llwyr rhyngddo fe a Richard o ran ymddangosiad a dyna pam mae’n wfftio at daclusrwydd sidêt a pharchus ei nai – y streipen wen yn ei wallt a’i sgidiau sgleiniog. Mae sain yr ‘s’ yn cyfleu ei falais.
Adnabod pobl yn dda. Y trosiad un cwestiwn mawr
yn cyfleu pa mor ymholgar ydy Richard. Sylweddola fod Richard yn groendenau a manteisia ar hynny trwy ei bryfocio am Gladys Drofa Ganol. Caiff lawer iawn o hwyl yn gwneud hyn.
Pryfocia Gareth Hughes trwy ddweud wrtho am dynnu’r peth dal wya ’na
sydd ganddo ar ei ben, trosiad sy’n cyfleu siâp helmed plismon. Defnyddia Now ddywediadau gwreiddiol fel hyn yn gyson.
Yn y darn darllen mae’n rhegi, gwyllt ar y diawl,
ond does dim yn gas yn ei regfeydd. Mae ganddo dafodiaith Pen Llŷn, ee mi sodra Gladys di
a chymreigia eiriau Saesneg, ee Գٲê.
Question
Dychmyga mai ti ydy Richard Jones. Ysgrifenna ymson Richard Jones wedi gadael Yr Wylan Wen y noson honno. Dylet ysgrifennu tua ¾ tudalen A4.
Dyma enghraifft o ateb da:
Un dogn arall o wisgi ac un sigarét arall ac mi â i i ngwely. Dw i’n haeddu hyn! Mi agorodd yr Owen Jones ’na ei geg o’r diwedd! Roedd hi’n werth llenwi ei fol gyda chwrw. Go simsan oedd o ar ei draed pan ollyngais i o lawr wrth giât Tan Ceris. Diolch byth doedd dim rhaid i mi fynd i’r tŷ afiach ’na eto! Oelcloth ar lawr yn yr oes hon! Ond o leia mae ’na ddŵr tap yno erbyn hyn. A’r ci ’na! Mi allwn i ladd y diawl am fod mor ffyrnig! A sut enw ydy Dwalad ar gi? Dydy’r dyn ’na ddim yn gall. Pawb yn y dafarn ceiniog a dima yr un fath! Josgins go iawn yn gwneud jôcs plentynnaidd ac yn gwneud i mi edrych fel ffŵl. Ond mi ges i’r wybodaeth rôn i isio.
I feddwl fod y gemau yng ngardd y ddynes ’na fu bron i mi ei lladd – Gladys Drofa Ganol neu rywbeth a drws nesa i’r dyn digroeso hwnnw welais i yn y bar amser cinio. Fedra i ddim deall be mae’r ferch rywiol tu ôl i’r bar yn ei weld ynddo fo a fedrwn i gael dim gwybodaeth am y stad ganddo fo.
Mi â i i chwilio am fap ben bore fory. Ond oes angen map arna i? Mi fydd gan y penseiri gynlluniodd y tai blan o’r lle fel yr oedd cyn dechrau adeiladu. Taswn i’n cael gafael ar hwnnw mi fedrwn i gymharu’r mesuriadau â’r rhai gymerais i bum mlynedd yn ôl – gan obeithio bod y goeden a’r polyn trydan ar y plan. Wedyn dim ond cael plan gorffenedig o’r stad ac mi fydda i’n gwybod ble mae’r diemwntau! Diolch Yncl Now!
Bydd yn rhaid i mi fod yn ofalus wrth gael gafael ar y planiau. Ble ca i nhw? Y penseiri? (Ond rhaid cofio bod y boi sych ’na’n gweithio iddyn nhw). Y Cyngor Dosbarth? Y Cyngor Sir? Y Bwrdd Trydan?
A sut? Gofyn yn gwrtais ynteu eu dwyn? Mi fydd yn rhaid i mi feddwl yn ofalus am hyn ond cwsg amdani rŵan! Mae wedi bod yn noson broffidiol!