鶹Լ

Cefndir

Mae Diffodd y Sêr yn adrodd hanes Hedd Wyn o safbwynt ei chwaer, Anni. Yn gefndir i’r stori mae’r Rhyfel Byd Cyntaf. Byddai gwneud ymchwil i gefndir y rhyfel hwn yn dy helpu di i ddeall y cyd-destun a’r cyfnod yn well – mae mwy o wybodaeth am y cyfnod yn y clipiau fideo hyn.

Mae pob dyfyniad yn y canllaw hwn yn cael ei ddefnyddio gyda chaniatâd Y Lolfa.

Pwy oedd Hedd Wyn?

  • Ellis Humphrey Evans, mab hynaf fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd (Hedd Wyn oedd ei enw barddol).
  • Bardd a enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1917.
  • Cafodd ei ladd mewn yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Mae’n cael ei adnabod fel ‘Bardd y Gadair Ddu’.

Mae Ellis, neu Elsyn fel mae Anni’n ei alw ef, yn breuddwydio am ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n gweithio yn galed i gwblhau ei gerdd yn ystod y nofel, ac mae’n llwyddo i wneud hynny. Ond, mae’n cael ei ladd ym mrwydr Ypres, Gwlad Belg cyn deall ei fod wedi ennill y gadair yn 1917.

Mae’r stori yn dechrau yn 1917 ac mae’r cyfnod hwn yn rhan bwysig o’r stori. Roedd hi’n oes heb lawer o dechnoleg ac roedd pobl yn drwy lythyr neu . Rydyn yn cael darllen un o lythyrau Ellis at ei deulu, ac ynddo rydyn ni'n cael clywed am sut mae’r wlad mae ef ynddi yn edrych, am y bobl mae ef wedi eu cyfarfod, a phethau eraill mae ef wedi eu gwneud. Yn ei lythyr hefyd mae’n sôn am fywyd erchyll rhyfel, er enghraifft tywydd, gweld llygod mawr a phroblemau fel cael digon o ddŵr i’w yfed.

Straeon eraill yn y nofel

Er mai stori Ellis yw prif linyn storïol y nofel, mae yna dair stori arall yn plethu drwyddi sef:

  • stori Ifor
  • stori Hywel a Lora
  • stori garu Ellis a Jini Owen