鶹Լ

Ynglŷn â’r nofel

Gair byr am yr awdur gwreiddiol

Cafodd Morris Gleitzman ei eni yn Lloegr a symudodd i Awstralia gyda’i deulu pan oedd e’n 16 oed. Efallai mai dyna pam y mae ganddo ddiddordeb mewn ffoaduriaid a phobl sydd wedi gorfod gadael eu gwreiddiau. Mae nofelau Morris Gleitzman yn realistig ac yn aml mae e’n trafod pynciau gwleidyddol neu hanesyddol dadleuol. Mae ei nofelau’n gallu bod yn drist.

Cafodd y nofel ei haddasu i'r Gymraeg gan Elin Meek.

Lleoliadau’r nofel

Mae hon yn nofel sy’n digwydd mewn nifer o wledydd. Dyma fap o’r byd er mwyn dangos pellter y gwledydd oddi wrth ei gilydd.

Glôb yn dangos lleoliad Afghanistan, Pacistan ac Awstralia

Afghanistan

Yma mae cartref Jamal a Bibi ond mae’n rhaid iddyn nhw ddianc oherwydd ysgol anghyfreithlon eu rhieni.

Pacistan

Ni enwir y wlad yn y nofel ond mae’n fwy na thebyg mai dyma ble’r oedd y gwersyll ffoaduriaid enfawr. Cyrhaeddodd y teulu yma wedi dianc yn y tacsi.

Awstralia

Roedd llongau’r ffoaduriaid yn mynd i Awstralia i chwilio am fywyd gwell.