麻豆约拍

Cyflwyniad

Stori am blentyndod

Nofel am blentyndod yw O Ran. Mae yna lawer o lyfrau am blentyndod yn Gymraeg, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, hunangofiannau a llyfrau atgofion. Yn wir, mae ysgrifennu am blentyndod yn draddodiad pwysig mewn ffuglen Gymraeg.

Mae鈥檙 nofel yn dweud hanes Angharad yn tyfu i fyny, trwy ddyddiau鈥檙 ysgol gynradd ac yna鈥檙 ysgol uwchradd. Angharad ei hun, fel oedolyn ifanc yn edrych yn 么l ar ei magwraeth, sy鈥檔 adrodd y stori. Mae鈥檔 stori sy鈥檔 cynnwys llawer o brofiadau hapus a normal i blentyn, ond mae yna dristwch dwfn yn rhan ohoni hefyd oherwydd hanes ac amgylchiadau teuluol. Mae yna ddirgelwch yn y nofel, dirgelwch sy鈥檔 cael ei ddatrys erbyn diwedd y nofel gan roi cyfle i Angharad gael dechrau newydd mewn bywyd.

Y teitl

Mae teitl y nofel, O Ran, yn ddyfyniad o emyn enwog. Bydd cyfle i ddweud mwy am hynny wrth drafod thema adnabod.

Caerdydd y 1970au

Mae鈥檙 nofel wedi鈥檌 gosod yng Nghaerdydd yn y 1970au. Mae nifer o leoedd ac adeiladau go iawn yn y ddinas yn cael eu henwi, er enghraifft maestref Yr Eglwys Newydd lle mae Angharad yn byw, ardaloedd eraill o鈥檙 ddinas fel Rhiwbeina a Gabalfa, Caeau Llandaf, Ystum Taf, eglwys gadeiriol Llandaf a鈥檙 Ysbyty Athrofaol.

Cawn ddarlun yn y nofel o鈥檙 gymuned Gymraeg y mae Angharad yn rhan ohoni, ac mae twf addysg Gymraeg yn y cyfnod yn rhan bwysig o鈥檙 cefndir. Mae Angharad yn cael ei haddysg gynradd a鈥檌 haddysg uwchradd mewn ysgolion Cymraeg ac yn mynd i gapel Cymraeg hefyd. Ond mae hi鈥檔 adnabod pobl o鈥檙 gymuned ddi-Gymraeg hefyd, fel ei ffrind sy鈥檔 byw drws nesaf, ac mae鈥檙 ysgol gynradd Gymraeg yn digwydd bod yn union wrth ymyl ysgol gynradd cyfrwng Saesneg. Rydyn ni'n cael cip, drwy lygaid plentyn, ar ddinas lle mae nifer o gymunedau gwahanol yn cyd-fyw, gan gynnwys y Cymry Cymraeg sydd wedi dod yno o rannau eraill o Gymru i fyw, fel teulu Angharad ei hun.

Mae鈥檙 nofel yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at raglenni teledu, bwyd a diod, teganau a ffasiwn y 1970au a thrwy hyn rydyn ni'n cael blas ar fywyd y cyfnod. Prin yw鈥檙 digwyddiadau hanesyddol y mae鈥檙 nofel yn cyfeirio atyn nhw, er bod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978, yn achlysur pwysig yn y stori.