Â鶹ԼÅÄ

Cefndir y nofel

Wyt ti wedi clywed am Daith Faith y Navaho neu The Long Walk? Er mwyn deall y nofel hon rhaid i ti sylweddoli mai’r daith hon ydy canolbwynt y nofel. Dyma ychydig o hanes Y Daith Faith:

Mae’r nofel yn digwydd yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref America. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd setlwyr gwyn yn chwilio am diroedd ffrwythlon yn nhaleithiau deheuol gogledd America. Roedd llwyth y Navaho yn byw ar diroedd ffrwythlon iawn, ee Ceunant de Chelley.

Roedd gan y fyddin, y Cotiau Glas, wersyll milwrol heb fod ymhell o Geunant de Chelley, o’r enw Ffort Defiance.

Anfonwyd y Cotiau Glas, o Ffort Defiance i ddinistrio Ceunant de Chelley a symud y Navaho o’u tiroedd. Ym 1864 cafodd miloedd o’r Navaho eu gorfodi i gerdded o Geunant de Chelley, yn nhalaith Arizona, i wersyll Bosque Redondo ger Ffort Sumner yn nhalaith New Mexico.

Dechreuodd y daith hon ym mis Ionawr 1864 a bu farw o leiaf 200 wrth iddyn nhw gerdded tua 300 milltir mewn 18 diwrnod.