Â鶹ԼÅÄ

Cyflwyniad

Map o leoliadau'r nofel 'Yn Y Gwaed'
Figure caption,
Map o leoliadau'r nofel 'Yn Y Gwaed'

Wrth ymateb i'r nofel hon, bydd angen i ti:

  • ateb yn sensitif ac yn fanwl i'r nofel er mwyn gwerthfawrogi ei chynnwys, ei chymeriadau a'i themâu
  • adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur
  • defnyddio tystiolaeth briodol o'r testun
  • cyflwyno ymateb personol a chreadigol i'r nofel.

Crynodeb o’r stori

Hanes tywyll un teulu ydy Yn y Gwaed. Y teulu hwn sy’n ffermio Arllechwedd, gan grafu bywoliaeth o’r tir anial, mynyddig. Aelodau’r teulu ydy’r hen wraig y cyfeirir ati’n unig fel Mam (ni chawn wybod ei henw), ei merch, Mared, a’i mab, Robin. Mae Mared a Robin yn eu pedwar degau. Ond daw’n amlwg cyn bo hir fod yna bedwerydd aelod o’r teulu hefyd, sef cymeriad y maen nhw’n cyfeirio ato fel Fo.

Mae Fo yn byw dan glo yn y llofft stabl. Ac yn wir, mae teimlad cryf yn y nofel o bresenoldeb aelod arall eto o’r teulu, sef Dewyrth Ifan. Er bod Dewyrth Ifan wedi marw ers blynyddoedd maith y mae, fel Fo, yn rhan ganolog o’r stori. Mae’r nofel yn adrodd hanes y teulu dros gyfnod byr o ychydig fisoedd, ond mae’n darlunio gorffennol y teulu hefyd. Mae’r gorffennol hwnnw wedi taflu cysgod du dros deulu Arllechwedd ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n dal i wneud hynny yn y cyfnod dan sylw.