Â鶹ԼÅÄ

Cynnwys

Wrth ymateb i’r nofel hon bydd disgwyl i ti:

  • werthfawrogi cynnwys, themâu a chymeriadau’r nofel
  • adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur, dyfynnu a thrafod addasrwydd
  • cyflwyno ymateb personol a chreadigol i’r nofel
Map o ardal Dolgellau yn dangos 'Ar Drywydd y Goleuni' sy'n perthyn i nofel Stafell Ddirgel
Figure caption,
Map o ardal Dolgellau yn dangos 'Ar Drywydd y Goleuni' sy'n perthyn i nofel Stafell Ddirgel

Rhan 1

Mae’r nofel yn agor yn y ffair yn Nolgellau lle mae torf o bobl yn amlwg yn cael hwyl. Ond dydy Rowland Ellis ddim yn teimlo ei fod yn perthyn. Mae boddi Betsan Prys yn troi ei stumog, ac mae’n dychwelyd at ei wraig, Meg, ym Mrynmawr.

Mae’r ddau ohonyn nhw’n mynd allan i Blygain yr Hengwrt, a’u gwas Ellis Puw yn mynd i ymweld ag un o’r Crynwyr, sef Ifan Roberts, yn y carchar.

Daw Rowland Ellis yn fwy ymwybodol ei fod yn cytuno gyda’r Crynwyr, ac mae Meg yn teimlo ei fod yn meddwl mwy ohonyn nhw nag ohoni hi.

Mae Rowland Ellis yn mynd i un o gyfarfodydd y Crynwyr, ac mae’n sylweddoli ei fod yn un ohonyn nhw bellach. Mae Meg yn ceisio cael erthyliad ond mae’n methu.

Mae Meg yn cuddio arian mewn cist er mwyn cael digon i ddianc, ond mae Huw Morris, yn darganfod hyn. Mae Meg yn marw ar enedigaeth ei hail blentyn.

Rhan 2

Mae Ellis Puw yn gofyn i Dorcas ei briodi. Mae Lisa’n mynd i’r ffair, ac mae’n cyfarfod Huw Morris yno. Ar y ffordd adref, mae Huw yn treisio Lisa, ac mae Rowland Ellis yn ei ddiswyddo. Mae erlid y Crynwyr yn gwaethygu, ac mae Rowland Ellis yn anfon llythyr at Marged Owen yn rhoi hanes ei gyfarfyddiad â William Penn. Mae Penn yn ceisio gwerthu’r syniad o symud i’r Amerig er mwyn dechrau bywyd newydd.

Mae Lisa a Dorcas yn cael ymweliad gan ddau gwnstabl yn chwilio am Ellis Puw er mwyn ei arestio.

Mae Dorcas a Rowland Ellis yn mynd i weld Ellis yn y carchar. Mae Rowland yn gofyn i’r Ustus ryddhau Ellis gan gynnig mynd i’r carchar yn ei le.

Mae nifer o’r Crynwyr yn cael eu carcharu.

Mae Marged Owen a Rowland Ellis yn trefnu priodi. Mae Dorcas yn cael ei rhoi yn y Gadair Goch a’i boddi.

Mae Rowland Ellis a rhai o’r Crynwyr yn ôl yn y carchar. Maent yn cael eu cyhuddo o ddod â gallu tramor i’r wlad a chael eu dedfrydu i farwolaeth. Mae neges yn cyrraedd oddi wrth y Barnwr Hale yn profi bod y gosb o grogi yn anghyfreithlon yn yr achos hwn. Mae’r Crynwyr yn cael eu rhyddhau.

Mae nifer o Grynwyr yn prynu tir ym Mhensylfania. Mae William Penn yn cytuno y byddai’r Cymry yn gallu byw yn agos at ei gilydd yno. Mae Rowland yn penderfynu mynd wedi i Lisa ofyn a fyddai hi a Tomos y gwas yn gallu dod i’r Amerig gyda nhw. Mae’n anfon Lisa a Tomos gyda’r criw cyntaf i baratoi’r ffordd ar ei gyfer ef. Mae Ellis yn sôn ei fod am briodi Sinai Roberts.

Mae Rowland a Marged yn teithio i Aberdaugleddau i ffarwelio â’r criw cyntaf o Grynwyr i fynd. Mae Marged Owen yn sylweddoli maint y golled.