Ymarfer ysgrifenedig
Dychmyga mai ti ydy un o gymeriadau'r nofel. Ysgrifenna ymson, dyddiadur, llythyr neu flog.
Cofia brofi dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r nofel trwy:
- gyflwyno cymaint o ffeithiau ag y medri o’r nofel
- dangos nodweddion y cymeriadau, ee byddai Gladys yn cwyno
- dangos sut mae’r cymeriad rwyt ti yn ei sgidiau yn teimlo at y cymeriadau eraill, ee byddai Gareth Hughes yn lladd ar Huw Gwastad Hir
- dangos ymateb y cymeriad rwyt ti yn ei sgidiau i’r digwyddiadau a’r sefyllfa mae e/hi ynddi, ee byddai Richard Jones yn ymddwyn yn hunanol
- efelychu iaith y cymeriad rwyt ti yn ei sgidiau, ee byddai Now yn defnyddio ambell reg ddiniwed
Rho gynnig ar y cwestiwn hwn:
Question
Dychmyga mai ti ydy Now. Ysgrifenna ymson Now ar ddiwedd y nofel. Cofia sôn am y pethau sydd wedi digwydd. Dylet ysgrifennu tua ¾ tudalen A4.
Dyma enghraifft o ateb da:
Wel, mae’r diawl digywilydd wedi cael ei haeddiant! Na, nid chdi, Dwalad bach, ond y Richard yna. Roist ti lond bol o ddychryn iddo fo hefyd pan alwodd o yn Nhan Ceris. Roeddat ti fel rhyw anifail gwyllt yn neidio ar y car ac yn ysgyrnygu. Dw i’n siwr fod Richard bron llenwi ei drowsus! Dw i’n gwbod dy fod ti’n swnyn ac yn hen uffar styfnig ond doeddat ti ddim yn haeddu cael dy ladd chwaith.
Ond dyna fo, doedd gan y diawl Richard yna ddim parch at neb na dim. Yr unig beth roedd o isio gwybod am Harri Evans oedd a oedd o wedi marw. Ond nefi wen, roedd o’n benderfynol! Holi. Holi, holi fel pwll y môr. Dw i’n dallt pam rŵan! Ond mi gafodd o ail! Cwt gardd Gladys Drofa Ganol o bawb ar ben ei emau fo! Mi gafodd honno andros o sioc pan fu bron iddo fo ei tharo i lawr gyda’i gar! Doedd hyd yn oed hi ddim yn haeddu hynny! A tybad ai gweld Richard ganol nos roddodd y farwol iddi?
Roedd Meredydd ac Einir wedi gweld trwyddo fo hefyd. Roedd yn gas gan Einir o – roedd o’n gyrru iasau i lawr ei hasgwrn cefn. Mi gafodd Meredydd lond bol ar ei holi fo ond does ryfadd yn y byd ei fod yn holi Meredydd ac yntau wedi bod yn cynllunio’r stad!
... Hen gwpwl iawn ydy’r rheina. Dw i’n andros o falch dros Meredydd ar ôl popeth mae o wedi mynd trwyddo – colli ei rieni yn y ddamwain yna ac wedyn cael bai ar gam am dreisio Bethan Gwastad Hir. Un am hel dynion ydy honno, yn union fel ei mam. Ond ella y callith hi rŵan mae hi efo Gwyn Llefrith. Dydw i ddim yn meddwl y callith Huw byth – os nad ydy’r gurfa gafodd o gan Gareth Hughes wedi rhoi rhywfaint o wers iddo fo. Plisman o bawb yn ymosod ... Tipyn o foi!