鶹Լ

Iaith ac arddull

Y sgyrsiau

Pan fyddi’n trafod iaith ac arddull cofia ddyfynnu a thrafod pa mor effeithiol ydy’r nodwedd.

Mae’r sgyrsiau yn:

  • Cyflwyno gwybodaeth newydd.
  • Dweud rhywbeth am y cymeriad sy’n siarad.
  • Dangos agwedd cymeriadau at ei gilydd.

Beth ydy nodweddion y sgyrsiau?

  • Iaith lafar gyhyrog a chyfoethog Pen Llŷn, ee cwffas (ffeit), rom bach (ychydig bach), nialwch, tŷ potas (tafarn), jarffyn, llarpad.
  • geiriau Saesneg wedi eu Cymreigio, ee Landrofar, styrbans, on ddy hows.
  • rhegfeydd diniwed, ee uffar, Be gythraul?, wir Dduw, myn diawl.
  • geiriau sy’n gorffen gydag a, ee adra, dechra.
  • Ychydig o meddai neu ebe sydd yn y ddeialog, felly mae’n llifo’n fwy esmwyth.
  • Rhythm naturiol yr iaith lafar, ee Ella mai’r hen ddyn ’na oedd achos marwolaeth y ddynes ’na.
  • Llawn idiomau Cymreig, ee y glas, drwg yn y caws.
  • Brawddegau pytiog, ee Sut mae rhyngot ti a dy gymdoges? Drofa Ganol? Hyhi.
  • Y naratif

    Mae’r naratif yn:

    • symud stori yn ei blaen
    • amrywio o ran iaith ac arddull yn dibynnu ar ei phwrpas ar y pryd.

    Sylwa ar y technegau sydd yn y paragraffau hyn a meddylia beth ydy eu pwrpas:

    Clodd Richard ei hun yn ei ystafell ac aeth ar y gwely. Damia. Ceisiodd gael ei ben yn glir i feddwl. Damia damia damia. Saethai popeth drwy ei feddwl bob sut. Cododd. Taniodd sigarét. Cerddodd at y ffenest. Cerddodd at y gwely. Cerddodd at y drws. Pa hawl oedd gan neb i wneud tai? Damia las. Cerddodd at y ffenest. Pwy fyddai eisiau codi tai? I beth, yn enw pob rheswm? Be wnâi o’n awr? Yr holl blaniau, yr holl gynllunio manwl wedi mynd i’r gwynt. I be aflwydd oedd eisiau codi tai yng nghaeau Tan Ceris o bobman?
    • Amrywio hyd y brawddegau. Brawddegau o un gair yn creu seibiannau ac yn dangos bod Richard Jones yn aros yn ei unfan, ee Damia.Cododd.
    • Berfau cryno, ee clodd, cerddodd. Mae’r rhain yn fwy safonol a ffurfiol na berfau cwmpasog.
    • Ailadrodd, ee Damia i ddangos pa mor flin ydy Richard, Cerddodd i ddangos pa mor aflonydd a rhwystredig ydy e, "yr holl" i ddangos cymaint o waith sydd wedi ei wneud.
    • Cwestiynau rhethregol yn mynd i feddwl y cymeriad, ee Pa hawl ...? Pwy fyddai ...? I beth ...?
    • Adeiladu’r paragraff i uchafbwynt yn y frawddeg olaf sy’n dweud beth sy’n poeni Richard Jones.
    • Osgoi iaith flodeuog. Does dim ansoddeiriau, trosiadau, cymariaethau na phersonoli yn y paragraff hwn. Y berfau a’r ailadrodd sy’n creu darlun ac awyrgylch.
    Yr oedd ochr y mynydd yn berwi gan blismyn, fel pryfed ar fuwch, rhai’n brasgamu’n frysiog y tu ôl i gŵn eiddgar, eraill ar eu gliniau neu ar eu cwrcwd yn canolbwyntio’n ddyfal ar y gwellt o danynt, a rhai eraill yn sefyll, yn ymgynghori ac yn pwyntio i bobman â breichiau sydyn, pwysig. I lawr yr allt deuai ceir a faniau â mwy o blismyn, a chyn hir byddai pawb yn Hirfaen wedi deffro a dod i fusnesa, a byddai’r lle fel cwch gwenyn.

    Yn y paragraff uchod mae Alun Jones yn defnyddio:

    • Ansoddeiriau, ee brasgamu’n frysiog, cŵn eiddgar i ddangos cyflymder a chyffro.
    • Trosiadau, ee yn berwi gan blismyn i ddangos bod y lle’n llawn a bod pawb yn symud.
    • Cymariaethau, ee fel pryfed ar fuwch sy’n creu delwedd afiach ac mae’n addas oherwydd trwy lygad Meredydd yr ydym yn gweld y plismyn ac mae ef yn eu casáu.