Proffilio genetig
Yn y genom dynol, mae ychydig bach o DNA sy’n unigryw i bob unigolyn. Trwy dorri sampl o DNA yn ddarnau a gwahanu’r darnau yn ôl eu maint, mae’n bosib gwneud proffil nodweddion o fandiau DNA ar gyfer unigolion.
Proffilio DNA yw’r enw ar y dechneg hon, a gellir ei defnyddio i bennu tadolaeth, neu i helpu datrys troseddau lle gall y drwgweithredwr fod wedi gadael sampl o feinwe corff yn lleoliad y drosedd.
Gellir defnyddio’r dechneg mewn organebau eraill hefyd i gymharu gwahanol rywogaethau i ddibenion dosbarthu.
Sut i gynhyrchu 'ôl bys' DNA
- Ynysu – gwahanu’r DNA oddi wrth feinweoedd eraill.
- Darnio – defnyddio ensym i dorri’r DNA yn ddarnau byr.
- Gwahanu – pasio cerrynt trydanol ar draws haen o gel sy’n cynnwys y darnau DNA yn un pen. Bydd y darnau’n symud gwahanol bellteroedd ar draws y gel. Electrofforesis gel yw’r term am hyn.
- Cymharu – cymharu patrwm y darnau ar y gel â samplau eraill o DNA.
Defnyddio proffilio DNA wrth ddatrys troseddau
Yn aml bydd DNA wedi’i adael yn lleoliad trosedd. Mae i’w gael mewn gwaed, croen a hyd yn oed mewn gwallt. Unwaith y bydd y DNA wedi’i ynysu oddi wrth y dioddefwr, ac os oes pobl benodol dan amheuaeth, yna gall proffilio DNA fod yn ddefnyddiol o ran eu lleoli yn y fan lle digwyddodd y drosedd.
Question
Yn yr enghraifft uchod, pa berson dan amheuaeth sydd wedi gadael ei DNA yn lleoliad y drosedd?
Person dan amheuaeth A. Mae’r bandiau DNA yn ei broffil yn cydweddu â’r bandiau DNA yn y proffil a ganfuwyd yn lleoliad y drosedd.
Defnyddio proffiliau DNA i bennu tadolaeth
I ganfod pwy yw tad plentyn, rhaid i broffil DNA y plentyn a’i fam fod yn hysbys. Rhaid i unrhyw fand a ganfyddir ym mhroffil DNA y plentyn, ac na ellir ei briodoli i’r fam, fod yn bresennol ym mhroffil DNA y tad i gadarnhau tadolaeth.
Question
Yn yr enghraifft uchod, ai Tad A neu Dad B yw tad y plentyn?
Tad A. Nid yw band 4 proffil DNA y plentyn i’w gael ym mhroffil DNA y fam, a dim ond Tad A sydd â’r un band. Mae hyn yn wir hefyd am fand 8.
Gellir defnyddio proffiliau DNA hefyd i adnabod alelau sy’n gysylltiedig ag anhwylderau genetig penodol. Defnyddir y dechneg hon wrth brofi babanod newydd-anedig i chwilio am anhwylderau fel ffibrosis cystig. Wrth adnabod anhwylderau genetig o’r fath yn gynnar gellir rhoi triniaeth gynnar iddynt, ac mae hynny wedyn yn gallu lleihau effaith yr anhwylder ar fywyd y dioddefwr.
Gall proffilio genetig fod yn bwnc dadleuol. Mae’r tabl isod yn crynhoi rhai o fanteision ac anfanteision defnyddio’r dechneg hon.
Manteision | Anfanteision |
Mae tystiolaeth DNA yn ddibynadwy gan ei bod yn hynod o annhebygol y byddai dau berson yn rhannu’r un proffil, oni bai eu bod yn efeilliaid unfath | Gallai data DNA sydd mewn storfa fynd i ddwylo cwmnïau benthyg arian neu yswiriant, neu gyflogwyr, a allai ddadansoddi eich DNA i ganfod unrhyw duedd tuag at afiechyd, a gwrthod eich busnes o achos hynny |
Gellir defnyddio proffiliau DNA i bennu pwy yw tad plentyn | Gellir ystyried bod storio proffiliau DNA yn tresmasu ar breifatrwydd |
Gellir defnyddio proffiliau DNA i adnabod anhwylderau genetig yn gynnar | Mae dwyn proffiliau DNA o fas data yn fygythiad gwirioneddol |
Gellir defnyddio proffiliau DNA i leoli pobl dan amheuaeth mewn man lle digwyddodd trosedd | Mae’n bosibl ‘plannu’ DNA yn lleoliad trosedd gan greu tystiolaeth ffug, neu gallai DNA rhywun dieuog fod yn y lleoliad er nad oedd ganddo ddim i’w wneud â’r drosedd |
Manteision | Mae tystiolaeth DNA yn ddibynadwy gan ei bod yn hynod o annhebygol y byddai dau berson yn rhannu’r un proffil, oni bai eu bod yn efeilliaid unfath |
---|---|
Anfanteision | Gallai data DNA sydd mewn storfa fynd i ddwylo cwmnïau benthyg arian neu yswiriant, neu gyflogwyr, a allai ddadansoddi eich DNA i ganfod unrhyw duedd tuag at afiechyd, a gwrthod eich busnes o achos hynny |
Manteision | Gellir defnyddio proffiliau DNA i bennu pwy yw tad plentyn |
---|---|
Anfanteision | Gellir ystyried bod storio proffiliau DNA yn tresmasu ar breifatrwydd |
Manteision | Gellir defnyddio proffiliau DNA i adnabod anhwylderau genetig yn gynnar |
---|---|
Anfanteision | Mae dwyn proffiliau DNA o fas data yn fygythiad gwirioneddol |
Manteision | Gellir defnyddio proffiliau DNA i leoli pobl dan amheuaeth mewn man lle digwyddodd trosedd |
---|---|
Anfanteision | Mae’n bosibl ‘plannu’ DNA yn lleoliad trosedd gan greu tystiolaeth ffug, neu gallai DNA rhywun dieuog fod yn y lleoliad er nad oedd ganddo ddim i’w wneud â’r drosedd |