鶹Լ

Ymarfer ymateb i ddarn darllen

Darllena y darn isod o'r nofel. Yna ateba'r cwestiynau sy’n dilyn yn llawn a gofalus gan ddyfynnu’n bwrpasol.

Ѳ’r bêl yn mynd yn araf bach tuag at Yusuf. Dyw e ddim hyd yn oed yn esgus ’mod i wedi’i tharo hi’n dda. Dyw e ddim yn cwympo arni na dim. Y cyfan mae’n ei wneud yw codi’r bêl a’i thaflu’n ôl dros fy mhen.

Ymdrech wael. Mae Aziz yn chwerthin y tu ôl i mi.

Mae Zoltan yn edrych arna i fel petai bom Americanaidd wedi taro fy mhen a drysu fy ymennydd.

Jamal! medd Zoltan. Doedd neb yn fy marcio i!

Sori, meddaf, gan aros iddo fe ac Aziz a Mussa wneud sylw cas am chwaraewyr canol cae sy’n meddwl eu bod nhw’n saethwyr ond dydyn nhw ddim.

Ond dydyn nhw ddim yn dweud dim.

Does neb yn dweud gair.

Dwi’n sylweddoli nad ydyn nhw’n edrych arna i, hyd yn oed. Maen nhw’n syllu ar rywbeth y tu ôl i mi. Mae eu hwynebau wedi rhewi. Maen nhw’n gegrwth. Maen nhw’n syfrdan.

Question

Ar beth neu bwy mae’r bechgyn yn syllu? Pam maen nhw wedi dychryn?

Question

Beth sy’n digwydd i’r chwaraewyr pêl-droed hyn ar ôl yr olygfa hon?

Question

Ysgrifenna hanes un digwyddiad pwysig o’r nofel sydd wedi aros yn dy gof. Eglura beth sy’n digwydd ac yna dyweda pam mae’r digwyddiad yn bwysig. Paid â sôn am yr olygfa uchod. Dylet ysgrifennu tua ½ tudalen A4.

Question

Sut gymeriad ydy Yusuf? Rho enghreifftiau o’r ffordd mae’n ymddwyn.

Question

Edrycha ar arddull llinell 5 yn y darn.

Mae Zoltan yn edrych arna i fel petai bom Americanaidd wedi taro fy mhen a drysu fy ymennydd.

Dyweda pam mae’r darn hwn yn effeithiol.

Question

Edrycha ar arddull llinell 12 yn y darn.

Maen nhw’n gegrwth. Maen nhw’n syfrdan.

Dyweda pam mae’r darn hwn yn effeithiol.

Question

Chwilia am enghraifft arall o nodwedd arddull yn y darn.

  • Dyfynna'r nodwedd
  • Enwa'r nodwedd
  • Dyweda pam mae’r nodwedd yn effeithiol.

Question

Dychmyga mai ti ydy Jamal. Ysgrifenna ymson Jamal ar ddiwedd y nofel. Dylet ysgrifennu tua ¾ tudalen A4.