鶹Լ

Iaith ac arddull

Cyflymder y Nofel

Mae’r digwyddiadau’n dilyn ei gilydd yn gyflym iawn. Mae pob pennod yn fyr sydd yn gwneud i ni fod eisiau darllen ymlaen wrth i’r stori fynd yn fwy cyffrous.

Naratif

Jamal ei hun sy’n dweud y stori felly mae’r nofel yn y person cyntaf. Mae’r arddull hon yn anffurfiol ac rydyn ni’n teimlo ein bod yn dod i adnabod Jamal. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn poeni am yr hyn sy’n digwydd iddo fe a’i deulu.

Fi yw Manchester United ac mae’r bêl gyda fi ac mae popeth yn dda. Does dim mwg, na nwy nerfau, na stormydd tywod. Does dim ffrwydradau i’w clywed hyd yn oed. Mae hynny’n arbennig o dda. Mae arogl bomiau wir yn gallu tynnu dy sylw oddi ar dy sgiliau pêl-droed.

Yn aml mae Jamal yn disgrifio sut mae’n teimlo gan ddefnyddio trosiadau effeithiol, ee Mae cwlwm yn fy stumog

Mae hyn yn sicrhau ein bod yn gwybod sut mae Jamal yn teimlo trwy gydol y nofel ac yn sicrhau ein bod yn cydymdeimlo ag e.

Llais plentyn ydy naratif y nofel ac mae hyn yn effeithiol achos mae Jamal weithiau yn rhoi golwg ddiniwed ar y digwyddiadau, ee

Dw i’n meddwl eu bod nhw’n teimlo embaras oherwydd nad oes sêr pêl-droed rhyngwladol gyda ni yma yn Afghanistan.

Oherwydd bod yr awdur wedi defnyddio llais plentyn i adrodd y stori mae’n caniatáu defnyddio mwy o hiwmor yn y stori. Rydyn ni’n gallu gweld hyn pan mae Jamal yn disgrifio’r digwyddiad pan mae ei chwaer wedi cael ei dal â’i throed ar ffrwydryn tir. Mae hyn yn ddigwyddiad difrifol iawn ond mae’r awdur yn gwneud y cyfan yn fwy ysgafn drwy ddisgrifio arogl y ffrwydryn fel sanau brwnt.

Roedd yr arogl yn ffiaidd. Yn waeth na sanau Mussa.

Mae Bibi hefyd yn gymeriad llawn hiwmor. Pan mae Bibi yn gwylltio nid ydy hi’n gallu rheoli’r hyn mae hi’n ddweud neu weiddi, ee

  • talpiau meddal o gaca camel
  • gwrand’r cynffon asyn

Creu awyrgylch

Nofel sydd wedi cael ei gosod mewn gwlad sy’n dioddef ydy hon. Mae’r penodau cyntaf yn bwysig er mwyn i ni ddeall yn union beth ydy cefndir y cymeriadau ’r digwyddiadau. Yn y bennod gyntaf mae’r awdur yn rhestru llawer o bethau sy’n gallu cael eu cysylltu â rhyfel:

mwg, nwy nerfau, ffrwydradau, arogl bomiau, hen gerbyd milwr, taflegryn heb ffrwydro, rhyfelwr, taflegryn Scud, crater roced

Mae plant yn defnyddio geiriau sy’n gyfarwydd iddyn nhw, pethau maen nhw’n eu gweld bob dydd. Mae’r awdur yn y penodau cyntaf yn disgrifio bywyd bob dydd plant yn Afghanistan yn effeithiol iawn.

Disgrifiadau

Mae’r awdur yn defnyddio llawer iawn o gymariaethau a throsiadau i greu disgrifiadau byw o’r hyn sy’n digwydd. Mae llawer o’r cymariaethau ’r trosiadau yn defnyddio pethau rhyfel oedd Jamal yn eu gweld bob dydd. Mae hyn yn pwysleisio effaith y rhyfela ar Jamal a’i deulu.

CymariaethauTrosiadau
Dw i eisiau rhoi gwaedd fel rhyfelwr...Dw i’n gwau un ffordd
...a’i gwylio’n gwibio heibio i Yusuf fel taflegryn Scud......llywio’r bêl...
...a gostwng ei freichiau fel bwncath â bola tost...Mae taflegryn yn ymosod ar fy nghalon
Mae Zoltan yn edrych arna i fel petai bom Americanaidd wedi taro fy mhen a drysu fy ymennydd.Dw i’n rhewi. Mae fy ymennydd yn crebachu mewn ofn
Mae sgrechiadau Bibi yn llenwi’r awyr fel adar yr anialwch ar ôl brwydr.Mae’r metel yn rhoi sgrech erchyll
CymariaethauDw i eisiau rhoi gwaedd fel rhyfelwr...
TrosiadauDw i’n gwau un ffordd
Cymariaethau...a’i gwylio’n gwibio heibio i Yusuf fel taflegryn Scud...
Trosiadau...llywio’r bêl...
Cymariaethau...a gostwng ei freichiau fel bwncath â bola tost...
TrosiadauMae taflegryn yn ymosod ar fy nghalon
CymariaethauMae Zoltan yn edrych arna i fel petai bom Americanaidd wedi taro fy mhen a drysu fy ymennydd.
TrosiadauDw i’n rhewi. Mae fy ymennydd yn crebachu mewn ofn
CymariaethauMae sgrechiadau Bibi yn llenwi’r awyr fel adar yr anialwch ar ôl brwydr.
TrosiadauMae’r metel yn rhoi sgrech erchyll

Creu tensiwn

Pan mae’r digwyddiadau yn mynd yn gyffrous iawn mae’r awdur yn defnyddio llawer o frawddegau byr er mwyn creu tensiwn. Enghraifft dda o hyn ydy pan mae tad Jamal yn achub ei fam o’r stadiwm:

Mae’r drylliau’n tanio. Dw i’n methu teimlo oherwydd y sioc ac yn methu symud. Mae olwynion y tacsi yn chwyrlïo. Mae’r tacsi’n rhuo’n gyflym yn ei flaen.

Deialog

Er mai llais Jamal sy’n cael ei ddefnyddio fel naratif i’r stori – mae llawer o leisiau eraill i’w clywed yn y nofel hefyd. Mae’r ddeialog rhwng y cymeriadau yn bwysig iawn er mwyn i ni ddeall y cymeriadau. Mae llais Bibi yn dod â llawer o hiwmor i’r nofel ac yn dangos ei chymeriad gwyllt. Nid ydy Bibi yn ofni dangos ei theimladau ac mae hyn yn amlwg o'r hyn mae hi’n galw’r rhai sy’n ei gwylltio:

  • talpiau meddal o gaca camel
  • y bwncath barus
  • baw camel yw’r wlad ’ma
  • gwrand’r cynffon asyn
  • y llysnafedd o ben ôl llyffant
  • caca camel

Nodweddion arddull

Dym’r prif nodweddion arddull yn y nofel yma:

  • naratif person cyntaf
  • cyflymder digwyddiadau
  • defnyddio hiwmor
  • rhestru
  • cymariaethau (i wneud gyda phethau rhyfel yn aml)
  • trosiadau (i wneud gyda pethau rhyfel yn aml)
  • brawddegau byr
  • deialog

Ymarfer

Edrycha dros y nofel i weld sawl enghraifft o’r nodweddion arddull yma rwyt ti’n gallu eu darganfod.