鶹Լ

Crynodeb o’r nofel

  • Mae’r bechgyn yn chwarae pêl-droed yn yr anialwch. Mae Jamal wrth ei fodd yn esgus chwarae i’w hoff dîm sef Manchester United.
  • Mae Jamal a’i ffrindiau yn dychryn pan mae Bibi, chwaer Jamal yn dod atyn nhw i chwarae. Dydy merched ddim yn cael chwarae pêl-droed a byddai cael ei dal yn chwarae pêl-droed yn golygu cosb ddifrifol i Bibi.
  • Er iddyn nhw gael trafferthion gyda’r tanc a ffrwydryn tir, mae Jamal a Bibi yn llwyddo i gyrraedd adref. Ond mae eu rhieni’n dweud bod rhaid dianc gan eu bod mewn perygl. Pan mae’r plant yn cuddio yn nhŷ Yusuf mae eu cartref yn cael ei ffrwydro gan y Llywodraeth.
  • Mae mam y plant yn cael ei chipio ac mae’r Llywodraeth yn mynd â hi i stadiwm bêl-droed Kabul i gael ei dienyddio. Yn ffodus, cyn i’r Llywodraeth lwyddo i ladd mam Jamal a Bibi mae eu tad yn ei hachub.
  • Ar ôl taith beryglus a hir o Afghanistan mae’r teulu’n llwyddo i gyrraedd gwersyll enfawr i ffoaduriaid. Yn y gwersyll mae’r plant yn deall eu bod yn mynd i ddianc i Awstralia.
  • Mae bywyd yn anodd iawn yn y gwersyll ac mae miloedd o bobl yn dioddef yno. Yn y gwersyll mae bachgen o’r enw Omar yn dwyn pêl-droed Jamal.
  • Mae’r teulu’n talu llawer o arian i smyglwyr anghyfreithlon sy’n addo mynd â nhw i Awstralia. Maen nhw’n teithio ar awyren i gyrraedd y porthladd – mae’n rhaid i fam Jamal werthu canhwyllbren werthfawr y teulu er mwyn cael digon o arian i dalu am y daith.
  • Ar ôl cyrraedd y porthladd mae pêl Jamal yn diflannu eto ac wrth i Jamal a Bibi chwilio amdani maen nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni. Mae Bibi’n syrthio i’r dŵr ac mae Jamal yn neidio mewn i’w hachub. Mae’r plant mewn perygl ond yn cael eu hachub a’u codi ar fwrdd llong. Yn anffodus, mae eu rhieni ar fwrdd y llong arall. Ar y llong mae Jamal a Bibi yn gweld Omar unwaith eto.
  • Roedd Omar wedi achub pêl Jamal ac mae’r tri yn cwrdd â merch o’r enw Rashida. Mae’r pedwar yn gofalu am ei gilydd ar y fordaith achos does dim rhiant gan yr un ohonyn nhw.
  • Dydy pethau ddim yn dda ar fwrdd y llong, mae Jamal yn sylweddoli bod yr hen long yn gollwng dŵr. Yn fuan wedyn mae problem arall, mae’r smyglwyr yn gwrthod symud y llong er mwyn cael mwy o arian gan y teithwyr.
  • Mae môr-ladron yn ymosod ar y llong gan adael y llong yng nghanol y môr. Mae’r llong yn dechrau suddo ac mae’r plant yn gweithio o ddifrif er mwyn goroesi.
  • Pan mae pethau’n edrych yn ddrwg iawn arnynt mae llong ryfel o Awstralia yn agosáu ac yn llwyddo i achub y pedwar plentyn o’r dŵr.
  • Wedi cyrraedd tir sych, mae newyddion drwg arall. Dydyn nhw ddim wedi cyrraedd Awstralia ac mae llong eu rhieni wedi suddo. Does neb yn gwybod beth ddigwyddodd i’r rhai oedd ar ei bwrdd.
  • Mae Llywodraeth Awstralia yn gwrthod gadael y ffoaduriaid i mewn i’r wlad. Mae’r teithwyr i gyd yn mynd i gael eu cadw ar ynys fechan nes i’r Llywodraeth benderfynu beth i’w wneud.
  • Mae diweddglo hapusach i’r nofel! Mae’r plant yn gweld llong filwrol arall yn agosáu at yr ynys. Mae’r llong hon yn cario’r ffoaduriaid a oedd wedi byw ar ôl i’r llong arall suddo.
  • Mae rhieni Jamal a Bibi yn fyw. O’r diwedd mae’r plant yn cael gweld eu rhieni unwaith eto ac mae’r teulu gyda’i gilydd ar yr ynys.

Ymarfer

Gwna restr o brif ddigwyddiadau'r nofel (yn dy farn di) ac ychwanega ddyfyniadau er mwyn disgrifio beth sy'n digwydd.