Â鶹ԼÅÄ

Gweithredoedd atgyrch

Mae gweithred atgyrch yn ffordd y gall y corff ymateb yn awtomatig ac yn gyflym i ysgogiad i leihau unrhyw niwed pellach i'r corff.

Mae'n dilyn yr un dilyniant cyffredinol ag adwaith normal, ond yn aml heb gynnwys yr ymennydd. Yn lle hynny, mae madruddyn y cefn yn cyd-drefnu'r ymateb fel bod yr ysgogiad yn gallu cyrraedd yr effeithydd yn gyflym.

Yr enw ar y llwybr nerfol sy’n cael ei ddilyn gan weithred atgyrch yw llwybr atgyrch. Y broses yw:

ysgogiad → derbynnydd → → niwron cysylltiol → → effeithydd → ymateb

Er enghraifft, ceir llwybr atgyrch syml os ydym yn cyffwrdd â rhywbeth poeth yn ddamweiniol.

Diagram o law yn hofran dros fflam sy'n llosgi. Mae trawstoriad o fadruddyn y cefn yn dangos sut mae gweithred atgyrch yn symud y llaw i ffwrdd. Mae synaps wedi'i labelu mewn dau le.
  1. Mae'r celloedd derbyn yn y croen yn canfod ysgogiad (y gwres o'r gannwyll).
  2. Mae niwron synhwyraidd yn anfon ysgogiadau i ym madruddyn y cefn.
  3. Mae'r niwron relái yn cysylltu â'r niwron echddygol (a hefyd yn anfon neges i'r ymennydd).
  4. Mae niwron echddygol yn anfon ysgogiadau i effeithydd.
  5. Mae'r yn cynhyrchu ymateb (cyhyr yn cyfangu i symud y llaw i ffwrdd).

Atgyrch cannwyll y llygad

Mae faint o olau sy’n mynd i mewn i’r llygad yn cael ei reoli gan . Mae maint yn newid mewn ymateb i olau llachar neu bŵl. Mae hyn yn cael ei reoli gan gyhyrau'r .

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 2, Diagram yn dangos sut mae'r llygad dynol yn adweithio i olau pŵl., 1. Sut mae llygad yn ymateb i olau pŵl

Mae'r adwaith hwn:

  • yn amddiffynnol - mae'n atal golau llachar niweidiol rhag niweidio'r celloedd derbyn yng nghefn y llygad
  • yn anwirfoddol - does dim rhaid i chi feddwl amdano, mae'n digwydd yn awtomatig
  • yn gyflym – mae'n digwydd yn gyflym iawn

Rho gynnig arni – mewn ystafell olau, gofyn i rywun gau ei lygaid am 30 eiliad. Pan mae'n agor ei lygaid, sylwa pa mor gyflym mae cannwyll y llygad yn ymateb.

Llwybr ysgogiad - Haen uwch yn unig

Cyn gynted â bod yr ysgogiad wedi'i ganfod, mae'r broses ganlynol yn digwydd.

  1. Mae cell dderbyn yn pasio ysgogiad trydanol ar hyd y .
  2. Mae'r niwron synhwyraidd yn cyrraedd y , y brif system nerfol.
  3. Mae'r niwron synhwyraidd yn cysylltu â niwron relái drwy synaps yn y brif system nerfol.
  4. Mae'r niwron relái yn cysylltu â , drwy synaps, yn y brif system nerfol.
  5. Mae'r niwron echddygol yn gadael y brif system nerfol ac mae'r ysgogiad yn cael ei gludo i'r effeithydd.

Question

Mae gwyddonwyr wedi astudio pa mor gyflym mae niwron yn gallu trosglwyddo ysgogiad trydanol mewn brogaod. Maent yn defnyddio'r hafaliad hwn.

\(\text{buanedd =}~\frac{\text{pellter}}{\text{amser}}\)

Maent yn mesur bod hyd y niwron yn 50 mm = 0.05 m ac yn mesur bod yr amser mae'r ysgogiad yn ei gymryd i deithio ar hyd y niwron yn 1.5 ms (milieiliad/millisecond) = 0.0015 s.

Cyfrifa fuanedd yr ysgogiad i ddau le degol mewn m/s.