Ymarfer - haen uwch
Mae hon yn dasg ar gyfer yr haen uwch.
Beth am ddisgrifio cymeriad drwy ei eiriau ei hun? Hynny ydy, ysgrifennu ymson, dyddiadur neu lythyr cymeriad.
Question
Ysgrifenna ymson Manuelito ar ddiwedd y nofel hon. Ysgrifenna tua 1½ tudalen A4.
Mae’r cwestiwn hwn eisiau i ti ddisgrifio cymeriad Manuelito drwy roi dy hun yn ei esgidiau e a chyfeirio at rannau penodol o’r nofel yn gyson yn yr ymson. Darllena’r ateb enghreifftiol isod i ti gael syniad o’r math o ateb (a hyd yr ateb) sy’n addas:
Pe bai’r creigiau hyn yn gallu crio fe fydden nhw yn crio gwaed heddiw. Pe bai’r coed hyn yn gallu gweiddi fe fydden nhw yn sgrechian heddiw. Pe bai’r afon hon yn gallu siarad ni fyddwn eisiau clywed ei stori – fe fyddai ei stori’n waeth na straeon Quanah.
Daeth y dyn gwyn a dwyn popeth oddi arnaf i a’m llwyth y Navaho. Ni ddychmygais erioed y gwelwn i y fath drais a dinistr a chwalwyd fy mreuddwydion i gyd yn ulw. Bûm i’n wan i wrando ar eiriau Herrero Grande a pheidio ag ymladd yn erbyn trais y Dyn Gwyn ond roedd rhaid i mi wrando arno – fe oedd pennaeth y ricos a gwrando ar ei air e y dylai pob Navaho ei wneud yn unol ag arferion y llwyth, ond ni allaf feio neb ond mi fy hun am beidio a dilyn fy ngreddf a brwydro yn erbyn y Cotiau Glas.
Gwrandewais ar eiriau heddwch Cyrnol Canby yn Ffort Wingate a gwisgais ei esgidiau lledr. Gwrandewais hefyd ar eiriau’r Taflwr Rhaffau, dywedodd y gwir ynglŷn â thynged Ceunant de Chelley ond ni lwyddais i achub perl ein cyndeidiau. Yn wir, arweiniais fy llwyth o’r Ceunant y bore erchyll hwnnw gan wybod bod y ddwy hen wraig a drywanodd eu hunain i farwolaeth o fy mlaen wedi bod yn fwy dewr na mi. Ond allwn i ddim mynd yn groes i orchmynion Herrero – allwn i?
Ble rwyt ti heddiw Haul y Bore? Wyt ti yma ar lan yr afon hon gyda mi? Wyt ti gyda’th fab a’m ŵyr bach i Chiquito? Ydi dy ŵr dewr Chico yn edrych ar dy ôl yn rhywle llawer mwy heddychlon na’r ddaear hon? Gobeithio’n wir. Gobeithio hefyd dy fod yn gwybod cymaint ydy fy nghariad tuag atoch chi eich tri ac mor falch ydw i ohonoch chi a’ch dewrder. Meddyliaf amdanat ti, Haul y Bore, yn cynnal ein rico Barboncito ac yn ei wneud yntau’n ddigon dewr i ymosod ar Dicks a’i filwyr drwy daflu’r creigiau i lawr arnynt yn y Ceunant wrth iddyn nhw ddychwelyd o fod yn difa’r perllannau. Mae fy ngwaed yn berwi bob tro y clywaf enw Dicks a bu dialedd Chico arno yn deilwng o enw dy fab.
Ond sut y mae anghofio beth wnaeth y Cotiau Glas i ni ac i ti? Roedd gweld ein llwyth ar y Daith Faith yn ddigon i dorri calon y Navaho dewraf ac mae geiriau Armijo yn dal i atsain yn fy mhen, ‘Onid ydi hi’n well i’n pobl fyw ar y Bosque na marw yma?’ – rwy’n dal yn sicr y byddai wedi bod yn well i ni ymladd a marw yng Ngheunant de Chelley na’r hyn sydd yn wynebu’r llwyth ar dir gwael y Bosque yn y blynyddoedd sydd i ddod. Fe wnest tithau’n iawn i beidio â gadael i Dicks dy drechu di fy merch.
Os wyt ti’n dal i wrando arna i Haul y Bore addawaf gerbron Usen y byddaf yn dial ar y Dyn Gwyn am ei drais yn erbyn ein pobl a’n cefndryd a byddi di hefyd yn falch ohona i ryw ddiwrnod – ni wnaf i fyth anghofio dy aberth di er ein mwyn ni i gyd.