Â鶹ԼÅÄ

Y cymeriadau: y Navaho

Haul y Bore – cymeriad dychmygol

Manuelito, un o ricos llwyth y Navaho ydy ei thad a Juanita ydy ei mam wen ac mae brodyr ganddi. Roedd Haul y Bore yn gwersylla gyda’r Apache, llwyth ei gŵr Chico, pan roddodd enedigaeth i’w phlentyn cyntaf, sef ei mab Chiquito (neu Chico bach). Cafodd ei threisio gan y Capten Victor Dicks a chafodd ei mab wythnos oed ei ladd o’i blaen. Llwyddodd i ddianc rhag cael ei lladd gan y Cotiau Glas drwy daro Dicks ar ei ben â charreg; doedd hi ddim yn garreg fawr ond roedd hi’n galed a’i frathu yn ei wddf cyn rhedeg am y coed.

Mae arni ofn mawr beth fydd ymateb Chico i farwolaeth Chiquito. Mae hi’n ofni y bydd yn ei beio hi am adael iddo gael ei ladd. Ar ddiwedd y nofel mae Haul y Bore yn cyflawni hunanladdiad heb feddwl ddwywaith ynglŷn â’r weithred.

Mae Haul y Bore wedi aros ar ôl yng Ngheunant de Chelley yn cuddio gyda Barboncito a’r gweddill yn yr ogofâu pan ddaw Dicks a’i filwyr i ddinistrio’r cyfan. Unwaith eto, mae hi’n gweld mwy o drais erchyll sy’n sicr o gael effaith ar ei chymeriad.

Dydi hi byth yn rhy hwyr i ladd y Cotiau Glas ydy geiriau Haul y Bore, sy’n adlewyrchu dewrder a chryfder ei chymeriad. Prin iawn ydy’r merched yn y nofel ond merch unigryw ac arbennig iawn ydy Haul y Bore. Mae hi’n cwestiynu ac yn herio’r rhai sydd mewn awdurdod ac mae Barboncito yn dod i sylweddoli mai hi oedd yn iawn ac y dylai fod wedi gwrando arni’r tro cyntaf. Dywed Barboncito wrthi, Rwyt ti wir yn ferch i’th dad!

Manuelito – cymeriad hanesyddol

Un o benaethiaid llwythau’r Navaho a oedd yn cael eu galw yn ricos yw Manuelito. Fe ydy tad Haul y Bore a gŵr Juanita. Roedd e’n ŵr cydnerth, ond doedd e byth yn gwenu ac roedd golwg flin ar ei wyneb bob amser. Roedd ganddo lygaid treiddgar ac roedd yn gwisgo rhwymyn gwyn o amgylch ei ben. Roedd ganddo geg fain uwchben gên sgwâr.

Mae cariad ei ferch tuag ato yn amlwg pan fo Haul y Bore yn ei gofio, Yn ceryddu, yn canmol, yn cymell ac yn cydymdeimlo a cheir golygfa fer bwysig yn y nofel pan mae Manuelito yn golchi Haul y Bore, Merch annwyl i! llefodd. Fe gest blentyn? Fe gest hefyd ddolur.

Mae’n byw ar ei nerfau yn y nofel ac yn estyn am ei reiffl pan mae’n clywed sŵn ceffylau. Taflodd Manuelito yr esgidiau a dderbyniodd yn anrheg gan Cyrnol Canby i’r tân mewn gweithred symbolaidd yn dynodi nad oedd am dderbyn y cytundeb heddwch a wnaed â’r Cotiau Glas.

Manuelito, nid Herrero Grande, pennaeth y ricos, sydd yn siarad â Kit Carson gyntaf pan ddaw Carson i drafod symud i’r Bosque ac mae Manuelito yn deall i’r dim beth ydy cynlluniau’r Cotiau’r Glas a bod tir y Bosque Redondo yn dda i ddim – nid ydy’r Cotiau Glas yn gallu taflu llwch i’w lygaid e.

Mae’n gwneud sawl araith i ysbrydoli ei lwyth yn y nofel. Manuelito sydd biau’r geiriau am nad ydan ni’n ddigon o ddynion i ddweud ‘NA’! Armijo, un o’r ricos fu’n gyfrifol am danio’r araith hon ac roedd Manuelito ar dân yma i geisio perswadio’r Navaho i ymladd a dangos yr haearn yn eu gwaed. Roedd peidio â gadael Ceunant de Chelley yn dawel yn bwysig iawn iddo oherwydd bod y Ceunant yn symbol o bopeth a gafodd y Navaho gan eu cyndeidiau.

Juanita – cymeriad dychmygol

Mam wen/llysfam Haul y Bore.

Herrero Grande – cymeriad hanesyddol

Y Navaho wedi ei ddewis yn brif bennaeth arnynt a bydd pob rico neu bennaeth arall yn gwrando ar ei eiriau ef ac yn dilyn ei benderfyniadau. Arwyddodd Herrero Grande gytundeb heddwch y Cyrnol Canby a derbyn ei anrhegion. Mae Herrero eisiau i Manuelito bwyllo cyn dial ar y Cotiau Glas ond dywed wrtho na fyddai Geronimo a Cochise mor bwyllog. Mae Herrero yn cytuno â Manuelito fod rhaid ymladd i warchod Ceunant de Chelley ond dywed weithiau fod rhaid ildio er mwyn atgyfnerthu.

Mae’n cyfaddef ei fod yn hen ac y bydd Manuelito yn sicr o’i ddilyn ond tan hynny bydd rhaid i Manuelito wrando arno yntau. Ei benderfyniad e ydy na fydd y ricos yn bwyta am saith niwrnod cyn mynd i Ffort Defiance i ildio. Wedi troi’n ddyn bach erbyn iddo gyrraedd y ffort. Wedi i’r Navaho ildio ac wrth iddyn nhw ddisgwyl a disgwyl i gael eu symud i’r Bosque yng nghysgod Ffort Defiance mae dylanwad Herrero yn lleihau.

Herrero sy’n gyfrifol am yr Indiaid i gyd ar y Daith Faith i’r Bosque Redondo. Mae’n cwyno’n gyson wrth y Cotiau Glas ynglŷn â’r modd y caiff yr Indiaid eu trin ond nid ydy Dicks a’r milwyr yn gwrando arno. Bu’n ddewr iawn yn gwrthod cerdded wedi ymosodiad Chico a safodd fel delw yn wyneb bwledi Dicks wrth ei draed. Mae Carson yn achub ei fywyd drwy saethu saeth a gweiddi Geronimo! cyn i Dicks ddienyddio Herrero o flaen yr Indiaid i gyd.

Barboncito – cymeriad hanesyddol

Un o ricos y Navaho. Caiff Chico y syniad i ddial ar Dicks drwy daflu’r gasgen llawn powdr du a saethu i’r tân wedi iddo gofio am stori Barboncito yn ymosod ar wersyll o filwyr Mecsicanaidd. Mae’n amlwg fod hon yn stori chwedlonol ymysg yr Indiaid ac yn stori a wnaeth Barboncito yn arwr i’r Navaho. Yn absenoldeb Manuelito, mae Barboncito yn gyfrifol am warchod y Navaho yng Ngheunant de Chelley a fe sydd yn eu harwain i guddio yn yr ogofâu yn y creigiau pan ddaw Victor Dicks a’i ddynion i ddinistrio bywoliaeth yr Indiaid yn y Ceunant.

Pan fo Haul y Bore yn dadlau dros ymosod ar Dicks a’i ddynion mae Barboncito yn gwrthod gwneud hynny y tro cyntaf oherwydd ei fod yn credu ei fod yn peryglu’r Indiaid dan ei ofal drwy wneud hynny ac na fyddai Manuelito yn hapus iddo wneud hynny. Mae’n cytuno gyda Haul y Bore wedi diwrnodau o guddio ac yn ymosod ar Dicks a’i ddynion ac er iddynt ladd deugain o’r milwyr, caiff dros gant o Navaho eu lladd gan fwledi’r Cotiau Glas.

Armijo – cymeriad hanesyddol

Un o ricos y Navaho. Fe sy’n gyfrifiol am y dyfyniad, Onid ydi hi’n well i’n pobl fyw ar y Bosque na marw yma? a fe ydy’r rico tanbeidiaf dros ildio i’r Cotiau Glas er mwyn achub ei fywyd. Mae’n credu bod sefyllfa’r Navaho yn anobeithiol ac yn teimlo bod rhaid ildio. Mae’n dadlau â Manuelito ac mae Manuelito yn ei gyhuddo o siarad fel hen wraig. Mae Armijo yn rhagweld beth fydd tynged y llwyth ar y Daith Faith i’r Bosque Redondo – byddwn ni’n rhy wan meddai. Wedi i’r Navaho ildio ac wrth iddyn nhw ddisgwyl a disgwyl i gael eu symud i’r Bosque yng nghysgod Ffort Defiance mae dylanwad Armijo yn lleihau.

Delgadito – cymeriad hanesyddol

Un o ricos y Navaho

Necwar – cymeriad dychmygol

Bachgen ifanc, cryf sy’n cael ei anfon gan Barboncito i ddilyn Dicks a’i filwyr wrth i’r Cotiau Glas ddinistrio Ceunant de Chelley. Daeth Necwar i arwain a chymryd cyfrifoldeb am yr Indiaid sydd yn disgwyl y tu allan i Ffort Defiance ar ddiwedd y nofel. Does dim un o’r ricos ar ôl oherwydd maen nhw i gyd wedi mynd i’r Bosque Redondo.

Mae Dicks yn gofyn am gael gweld Necwar er mwyn cael dod o hyd i Haul y Bore. Mae Necwar yn ddigon dewr i herio Dicks ond mae Dicks yn ei daro â’i wn. Dyma pryd mae Haul y Bore yn dangos ble mae hi i Dicks. Llwyddodd Necwar i ddianc o’r sgarmes a ddilynodd hunanladdiad Haul y Bore – bu farw’r Navaho eraill i gyd. Mae Necwar yn rhedeg yn syth o Ffort Defiance i Geunant de Chelley lle mae’n cyfarfod Carson. Ti di dyfodol y Navahos, Necwar... meddai Carson wrtho. Mae Chico yn gofyn iddo ddweud hanes marw Dicks wrth ei blant a phlant ei blant.