Â鶹ԼÅÄ

Ymarfer - haen sylfaenol

Mae hon yn dasg ar gyfer yr haen sylfaenol.

Darllena'r darn hwn o'r nofel sy'n adrodd hanes Brwydr Ffort Defiance a cheisia ateb y cwestiwn sy'n dilyn:

Roedd Carleton yn gwybod mai ofer fyddai iddo geisio ymuno yn y frwydr gydag ychwaneg o ddynion. Prin hanner cant oedd ganddo ar ôl i amddiffyn y Ffort – roedd y gweddill wedi mynd i ganlyn Dicks i Geunant de Chelley. Gallai gicio’i hun am fod mor wirion â disgyn i drap yr Apache, ond doedd o erioed wedi dychmygu fod gan Geronimo y fath niferoedd y tu cefn iddo. Doedd o erioed ychwaith wedi gweld y fath ffyrnigrwydd yn eu brwydro.

Gwyliai’r Apache yn taenu cyrff eu cymrodyr meirwon yn un rhes hir, cyn eu gorchuddio â changhennau’r coed, ac yna’u tanio. Cododd arogl anhyfryd cyrff yn llosgi i’r awyr.

Yna, gan wybod fod Carleton yn gwylio pob symudiad, amneidiodd Geronimo ar ei ddynion i ddwyn arfau milwyr y Cotiau Glas i gyd. Yna, pan oedd y cyfan wedi’u casglu, gafaelodd Geronimo yn ei bicell a cherddodd ugain llath tuag at y Ffort. Plethodd blu gwynion yn eu hesgyll, a chyda hyrddiad anferth taflodd hi’n uchel i’r awyr. Disgynnodd y bicell rhyw ddecllath o’i flaen, a’i phaladr yn dynn ym mhridd y ddaear. Crynodd y plu gwynion am ennyd, ac yna llonyddodd y bicell. Daliai’r plu i symud yn y gwynt.

Question

Sut gymeriad yw’r Cadfridog Carleton? Rho enghreifftiau o’r ffordd y mae’n ymddwyn.

Rho gynnig ar gwestiwn a darn darllen gwahanol.

Darllena’r darn canlynol o ddechrau’r nofel pan fo Manuelito yn canfod Haul y Bore a cheisia ateb y cwestiwn sy'n dilyn:

Arafodd ei cham. Ymhen awr neu ddwy eto, gallai guddio a gorffwys tan y bore. Dilynodd y ffordd am rai milltiroedd cyn gadael y coed o’i hôl. Cerddai’n hamddenol braf. Ymestynnai gwlad eang o’i blaen, peth ohoni’n dir ffrwythlon a choediog, ond roedd y ffordd yn arwain trwy anialdir caregog a chreigiog. Yn y pellter gallai weld Mynyddoedd y Chusca. Gwenodd a daeth sbonc yn ôl i’w cham. Yno roedd Ceunant de Chelley, Manuelito, Juanita, lloches a diogewlch.

Troes yn ei hôl yn sydyn. Roedd wedi clywed sŵn carnau ceffylau. Roedd yna bedwar neu bump o geffylau yn ei dilyn. Dechreuodd redeg. Diawliodd ei hun am grwydro mor bell o gysgod y coed tra oedd yr haul yn uchel yn y nen. Rhedodd yn syth at y clwmp agosaf o goed oedd tua hanner milltir draw. Roedd hi’n gwybod bod y ceffylau yn ei dilyn oherwydd clywai lais yn gweiddi a sŵn carlamu’r ceffylau’n dod yn nes.

Gwyddai yn ei chalon na fyddai byth yn cyrraedd y coed. Roedd rhywun yn gweiddi. Roedd y ceffylau ar ei gwarthaf. Baglodd a syrthio ar ei hwyneb. Sgrechiodd.

Chiquito! Chiquito!

Yna, roedd twrf o’i hamgylch. Ceffylau aflonydd. Coesau ceffylau, carnau ceffylau. Suddodd ei chalon. Daeth pâr o esgidiau lledr, gloyw i’r golwg. Esgidiau yn perthyn i un o filwyr y Cotiau Glas.

Question

Sut gymeriad ydy Manuelito? Rho enghreifftiau o’r ffordd y mae’n ymddwyn.