Â鶹ԼÅÄ

Hormon gwrth-ddiwretig (ADH)

Mae’r dŵr sydd mewn gwaed yn cael ei reoli gan hormon o’r enw hormon gwrth-ddiwretig (ADH). Mae symiau gwahanol o ADH yn cael eu rhyddhau i mewn i’r llif gwaed yn dibynnu ar grynodiad y .

Mae’r pethau canlynol yn gallu newid crynodiad y gwaed:

  • yfed llawer (cynyddu cynnwys dŵr)
  • chwysu llawer (lleihau cynnwys dŵr)
  • bwyta bwydydd hallt (lleihau cynnwys dŵr)

Mae’r diagramau yn dangos beth sy’n digwydd os oes gormod neu ddim digon o ddŵr yn y gwaed.

Dim digon o ddŵr yn y gwaed. Ymennydd yn canfod lefel dŵr. Chwarren bitwidol yn rhyddhau ADH. Arennau'n adamsugno mwy o ddŵr. Colli llai o ddŵr yn y troeth. Lefel dŵr y gwaed yn mynd yn ôl i normal.
Gormod o ddŵr yn y gwaed. Ymennydd yn canfod lefel dŵr. Chwarren bitwidol yn rhyddhau llai o ADH. Arennau'n adamsugno llai o ddŵr. Colli mwy o ddŵr yn y troeth. Lefel dŵr y gwaed yn ôl i normal.
PlasmaProblemRhyddhau ADHEffaith ADHEffaith ar y troeth/wrin
Crynodiad uchelDim digon o ddŵrCynydduNeffronau’n adamsugno mwy o ddŵrCrynodedig iawn
Crynodiad iselGormod o ddŵrLleihauNeffronau’n adamsugno llai o ddŵrGwanedig
PlasmaCrynodiad uchel
ProblemDim digon o ddŵr
Rhyddhau ADHCynyddu
Effaith ADHNeffronau’n adamsugno mwy o ddŵr
Effaith ar y troeth/wrinCrynodedig iawn
PlasmaCrynodiad isel
ProblemGormod o ddŵr
Rhyddhau ADHLleihau
Effaith ADHNeffronau’n adamsugno llai o ddŵr
Effaith ar y troeth/wrinGwanedig

Mae hyn yn enghraifft o . Mae’n cadw crynodiad plasma’r gwaed bron yn gyson.