鶹Լ

Defnyddio a dehongli terfynau cywirdeb – haen uwch

Pan fo yn cael eu cyfuno, mae’n rhaid ystyried y posibiliadau’n ofalus.

Enghraifft

Darn o bapur A4 yn mesur 21 cm wrth 29.7 cm

Mae darn o bapur A4 yn 21 cm wrth 29.7 cm, a’r ddau fesuriad yn gywir i un lle degol. Beth yw arffiniau uchaf ac isaf ei arwynebedd, mewn centimetrau sgwâr, yn gywir i un lle degol?

Mae’r broblem hon yn gofyn am yr arwynebedd mwyaf a lleiaf posib. Beth yw arffiniau uchaf ac isaf y mesuriadau a sut y dylen ni eu cyfuno er mwyn cael yr atebion cywir?

Yn yr enghraifft hon, cawn yr arwynebedd mwyaf posib drwy luosi’r ddwy arffin uchaf. Cawn yr arwynebedd lleiaf drwy luosi’r ddwy arffin isaf.

Arwynebedd mwyaf posib

\(21.05~\text{cm} \times 29.75~\text{cm} = 626.2375~\text{cm}^2\)

\(626.2375~\text{cm}^2 \approx 626.2~\text{cm}^2 \:\text{(i un lle degol)}\)

Arwynebedd lleiaf posib

\(20.95~\text{cm} \times 29.65~\text{cm} = 621.1675~\text{cm}^2\)

\(621.1675~\text{cm}^2 \approx 621.2~\text{cm}^2 \:\text{(i un lle degol)}\)

Mae’r rheolau canlynol yn ein helpu i benderfynu pa arffiniau ddylen ni eu defnyddio wrth wneud cyfuniadau a chyfrifiadau.

GweithrediadRheol
Adio\(\text{Arffin uchaf} + \text{arffin uchaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} + \text{arffin isaf} = \text{arffin isaf}\)
Tynnu\(\text{Arffin uchaf} - \text{arffin isaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} - \text{arffin uchaf} = \text{arffin isaf}\)
Lluosi\(\text{Arffin uchaf} \times \text{arffin uchaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} \times \text{arffin isaf} = \text{arffin isaf}\)
Rhannu\(\text{Arffin uchaf} \div \text{arffin isaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} \div \text{arffin uchaf} = \text{arffin isaf}\)
Adio
Rheol\(\text{Arffin uchaf} + \text{arffin uchaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} + \text{arffin isaf} = \text{arffin isaf}\)
Tynnu
Rheol\(\text{Arffin uchaf} - \text{arffin isaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} - \text{arffin uchaf} = \text{arffin isaf}\)
Lluosi
Rheol\(\text{Arffin uchaf} \times \text{arffin uchaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} \times \text{arffin isaf} = \text{arffin isaf}\)
Rhannu
Rheol\(\text{Arffin uchaf} \div \text{arffin isaf} = \text{arffin uchaf}\)\(\text{Arffin isaf} \div \text{arffin uchaf} = \text{arffin isaf}\)

Question

A = 34 cm i’r cm agosaf.

B = 11.2 cm i un lle degol.

C = 200 cm i un ffigur ystyrlon.

Cyfrifa:

  • yr arffin uchaf ar gyfer \(A + B\)
  • yr arffin isaf ar gyfer \(C - B\)
  • yr arffin isaf ar gyfer \(A \times C\)
  • yr arffin uchaf ar gyfer \(C \div B\)