Â鶹ԼÅÄ

Talgrynnu i leodd degol

Pan fyddwn yn talgrynnu gan ddefnyddio (lld), fel arfer rhoddir lefel y cywirdeb sydd ei hangen. Er hyn, mewn rhai cyfrifiadau penodol, gall lefel y cywirdeb fod yn fwy amlwg. Er enghraifft, dylai unrhyw gyfrifiadau sy’n ymwneud ag arian gael eu rhoi i ddau le degol er mwyn cynrychioli’r ceiniogau.

Er mwyn talgrynnu i le degol:

  1. edrycha ar y digid cyntaf ar ôl y pwynt degol os wyt ti’n talgrynnu i un lle degol, neu’r ail ddigid ar gyfer dau le degol
  2. llunia linell fertigol ar y dde i’r digid gwerth lle sydd ei angen
  3. edrycha ar y digid nesaf
  4. os yw’n 5 neu fwy, gwna’r digid blaenorol un yn fwy
  5. os yw’n 4 neu lai, cadwa’r digid blaenorol yr un fath
  6. gelli gael gwared ag unrhyw rifau sydd i’r dde o’r llinell

Enghreifftiau

Talgrynna 248.561 i un a dau le degol.

  • 248.5|61 i un lle degol yw 248.6
  • 248.56|1 i ddau le degol yw 248.56

Sylwa y dylai dy ateb gael yr un nifer o lefydd degol â’r hyn a oedd yn angenrheidiol ar gyfer y brasamcan.

Talgrynna 0.08513 i un a dau le degol.

  • 0.0|8513 i un lle degol yw 0.1
  • 0.08|513 i ddau le degol yw 0.09

Question

Talgrynna 249.5046 i un a dau le degol.

Question

Talgrynna 0.9583 i un a dau le degol.

Question

Talgrynna 598.053 i un a dau le degol.