鶹Լ

Brasamcanu cyfrifiadau – haen uwch

Weithiau mae’n briodol i ni frasamcanu cyfrifiad yn hytrach na’i gyfrifo’n fanwl gywir. Yn y sefyllfa hon, talgrynna’r rhifau yn y cwestiwn cyn gwneud y cyfrifiad. Yn aml, talgrynnu i un ffigur ystyrlon yw’r dull gorau i’w ddefnyddio ar gyfer talgrynnu bras. Yr arwydd ar gyfer 'yn fras yn hafal i' yw ≈.

Enghraifft un

Cyfrifa frasamcan ar gyfer \(23 \times 67\)

Drwy dalgrynnu i un ffigur ystyrlon cawn:

\(20 \times 70 = 1,400\)

Felly, \(23 \times 67 \approx 1,400\)

Enghraifft dau

Cyfrifa frasamcan ar gyfer \(\frac{423 - 98}{16.4}\)

Drwy dalgrynnu i un ffigur ystyrlon cawn:

\(\frac{400 - 100}{20} = \frac{300}{20} = \frac{30}{2} = 15\)

Felly, \(\frac{423 - 98}{16.4} \approx 15\)

Question

Cyfrifa frasamcan ar gyfer \((58.4 \div 2.79) - 9.8\)

Question

Cyfrifa frasamcan ar gyfer \(\frac{68.7 - 9.9}{2.77}\)