Mae gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr neu fach iawn yn anodd. Mae’n haws ymdrin â chyfrifiadau o’r fath, fel rhai sy’n ymwneud â’r gofod, drwy drawsnewid rhifau i mewn ac allan o ffurf safonol.
Ffurf safonol, neu ffurf indecs safonol, yw system o ysgrifennu a gweithio gyda rhifau mawr iawn neu fach iawn. Mae’n seiliedig ar ddefnyddio ±èŵ±ð°ùMae rhif sy’n cael ei luosi ag ef ei hun unwaith neu fwy yn cael ei godi i bŵer. o 10 i fynegi pa mor fawr neu fach yw rhif.
Gall rhai rhifau fod yn rhy fawr neu’n rhy fach i’w darllen, neu hyd yn oed i’w deall. Mae ysgrifennu rhifau yn eu ffurf safonol yn eu gwneud yn haws i’w deall a’u cymharu. Yn ogystal, efallai na fydd cyfrifiannell yn gallu ymdrin â’r holl rifau mewn cyfrifiad mawr iawn ond, drwy ddefnyddio ffurf safonol, gall ymdrin â rhifau o unrhyw faint.
Mae gwyddonwyr yn defnyddio ffurf safonol wrth weithio gyda chyflymder goleuni a phellteroedd rhwng galaethau, a all fod yn enfawr. Weithiau cyfeirir hefyd at faint bacteria neu atomau mewn ffurf safonol gan eu bod mor fach.