Â鶹ԼÅÄ

Nodiant set

Yn syml, defnyddir nodiant set mewn mathemateg i restru rhifau, gwrthrychau neu ganlyniadau.

Mae nodiant set yn defnyddio cromfachau cyrliog { }. Y gwrthrychau sy’n cael eu rhoi o fewn y cromfachau yw ±ð±ô´Ú±ð²Ô²Ô²¹³Ü’r set, ac nid oes raid iddyn nhw fod mewn unrhyw drefn benodol. Defnyddir prif lythrennau i enwi setiau, ac mae gan rai setiau enw wedi ei ddiffinio’n barod.

N yw set y rhifau cyfri neu naturiol:

N = {1, 2, 3, 4, 5...}

Z yw set y cyfanrifau:

Z = {...-3, -2, -1, 0, 1, 2, 3...}

Gallwn ddiffinio ein setiau ein hunain a dewis unrhyw lythyren i’w cynrychioli:

  • D = {80, 90, 100, 200}
  • E = {glas, gwyrdd, coch}
  • F = {carped, cadair, desg}

Gallwn hefyd ddefnyddio nodiant i greu ein setiau:

Z = {x ∶ mae x yn ffactor o 18}

Mae hyn yn golygu mai 'set o ffactorau 18 yw Z'.

Gallen ni hefyd ddiffinio’r set hon drwy ddweud:

Z = {1, 2, 3, 6, 9, 18}

Yn olaf, mae yna un set bwysig arall – y set gynhwysol. Mae hon yn cynnwys popeth y mae gennyn ni ddiddordeb ynddo a defnyddir y symbolau ‘∪’, ∪ neu \(ε\) ar ei chyfer (defnyddir symbolau eraill weithiau hefyd).

Pan fo gennyn ni ddwy set neu fwy, gallwn edrych ar sut maen nhw’r un fath neu sut maen nhw’n wahanol mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Er enghraifft, os yw set A yn ffitio yn set B yn gyfan gwbl, gallwn ddweud bod A ⊂ B.

Os yw A = {1, 3, 5} a B = {1, 3, 5, 7, 9}

Yna mae A ⊂ B

Dywedwn fod ‘A yn is-set o B’.

Os na fyddai hyn yn wir, bydden ni’n dweud A ⊄ B, sy’n golygu nad yw A yn is-set o B.

Gan ddefnyddio A = {1, 2, 3, 4, 5} a B = {2, 4, 6, 8, 10} gallwn ganfod croestoriad A a B, sy’n cael ei ysgrifennu fel A ∩ B. Mae hyn yn golygu’r pethau sydd yn set A ac hefyd yn set B. Yn yr enghraifft uchod, mae A ∩ B = {2, 4}

Gallwn hefyd ganfod uniad A a B sy’n cael ei ysgrifennu fel A ∪ B. Mae hyn yn golygu pethau sydd naill ai yn set A neu set B.

Yn yr enghraifft uchod, mae A ∪ B = {1, 2, 3, 4, 5, 6, 8, 10}

Yn olaf, os ydyn ni eisiau rhestru’r elfennau sydd ddim yn Set A, gallwn ddefnyddio’r nodiant A’, sef cyflenwad A. Yn yr enghraifft uchod, mae A’ = {6, 7, 8, 9, 10...}