Â鶹ԼÅÄ

Beth yw brasamcanu?

Brasamcan yw rhywbeth sy’n debyg, ond nid yn union hafal, i rywbeth arall. Gallwn frasamcanu rhif drwy dalgrynnu. Gallwn frasamcanu cyfrifiad drwy dalgrynnu’r gwerthoedd sydd ynddo cyn gwneud y .

Talgrynnu rhifau i’r 10, 100, 1,000 agosaf

Er mwyn brasamcanu i’r deg agosaf, edrycha ar y digid yn y golofn degau.

Er mwyn brasamcanu i’r cant agosaf, edrycha ar y digid yn y golofn cannoedd.

I dalgrynnu i’r fil agosaf, edrycha ar y digid yn y golofn miloedd.

Yna dilyna’r camau hyn:

  1. llunia linell fertigol i’r dde o’r digid gwerth lle sydd ei angen
  2. edrycha ar y digid nesaf
  3. os yw’n 5 neu fwy, gwna’r digid blaenorol un yn fwy
  4. os yw’n 4 neu lai, cadwa’r digid blaenorol yr un fath
  5. llenwa unrhyw lefydd gwag sydd ar y dde i’r llinell gyda sero hyd at y lle degol

Enghreifftiau

Talgrynna 4,853 i’r 10, 100 a 1,000 agosaf.

  • 485|3 i’r 10 agosaf yw 4,850
  • 48|53 i’r 100 agosaf yw 4,900
  • 4|853 i’r 1,000 agosaf yw 5,000

Talgrynna 76,982 i’r 10, 100 a 1,000 agosaf.

  • 7698|2 i’r 10 agosaf yw 76,980
  • 769|82 i'r 100 agosaf yw 77,000
  • 76|982 i’r 1,000 agosaf yw 77,000

Noda fod yr atebion yr un fath ar ôl cael eu talgrynnu mewn rhai achosion.

Question

Beth yw 9,538 wedi ei dalgrynnu i’r 10, 100 a 1,000 agosaf?

Question

Beth yw 89,555 wedi ei dalgrynnu i’r 10, 100 a 1,000 agosaf?