Indecsau positif
Mae indecsau’n ffordd o ysgrifennu rhifau mewn ffurf fwy hwylus. Yr indecs neu’r pŵer yw’r rhif bychan, wedi ei godi, sydd y drws nesaf i lythyren neu rif normal. Mae’n cynrychioli nifer y troeon mae’r llythyren neu’r rhif normal hwnnw wedi ei luosi â’i hun, er enghraifft:
a2 = a × a
64 = 6 × 6 × 6 × 6
b5 = b × b × b × b × b
Yn b5, b yw’r ‘rhif sylfaen’ a 5 yw’r ‘indecs’.
Mae’r rheolau canlynol yn gweithio pan fo’r rhifau sylfaen yn y cwestiwn yr un fath.
Lluosi indecsau
I luosi indecsau, adia’r pwerau at ei gilydd.
Enghraifft
24 × 22 = (2 × 2 × 2 × 2) × (2 × 2)
= 2 × 2 × 2 × 2 × 2 × 2
= 26
Question
Enrhifa 35 × 37
312, gan fod 5 + 7 = 12
Rhannu indecsau
I rannu indecsau, tynna’r pwerau.
Enghraifft
Question
Enrhifa y9 ÷ y6
y3, gan fod 9 - 6 = 3
Codi pŵer i bŵer
Pan fo pŵer yn cael ei godi i bŵer, lluosa’r pwerau.
Enghraifft
(53)2 = 53 × 53.
= 56, gan ddefnyddio’r amod ar gyfer lluosi indecsau.
Question
Enrhifa (86)4
824, gan fod 6 × 4 = 24
Rhifau cyfan ac indecsau
Rhaid i ni ymdrin â’r rhifau a’r pwerau ar wahân. Yn gyntaf, lluosa’r rhifau sydd o flaen y llythrennau â’i gilydd, yna defnyddia’r rheol ar gyfer lluosi indecsau i ymdrin â’r llythrennau a’r pwerau.
Enghraifft
2a3 × 3a4
2 × 3 = 6
a3 × a4 = a7
Felly, 2a3 × 3a4 = 6a7
Question
Enrhifa 8b7 × 4b2
32b9