麻豆约拍

Ffactorau cysefin a dadelfeniad

Rhifau cysefin

Mae鈥檔 debyg dy fod wedi clywed y term ffactor o鈥檙 blaen. Ffactor yw rhif sy鈥檔 mynd i mewn i rif arall. Ffactorau 10, er enghraifft, yw 1, 2, 5 a 10.

Mae rhifau cysefin yn set arbennig o rifau sydd 芒 dau ffactor yn unig 鈥 nhw eu hunain ac 1.

Un enghraifft o rif cysefin yw 13 gan mai dim ond dau ffactor sydd ganddo 鈥13 ac 1, ond nid yw 9 yn rhif cysefin gan fod ganddo dri ffactor 鈥9, 3 ac 1.

Y 10 rhif cysefin cyntaf yw: 2, 3, 5, 7, 11, 13, 17, 19, 23 a 29.

Mae鈥檔 ddiddorol nodi mai 2 yw鈥檙 unig eilrif sy鈥檔 rhif cysefin. Nid yw鈥檙 rhif 1 yn rhif cysefin gan mai dim ond un ffactor sydd ganddo (1 ei hun), ac fel y sonion ni鈥檔 gynharach, rhaid i rifau cysefin gael dau ffactor yn union.

Mynegi rhifau ar ffurf ffactorau cysefin

Gallwn fynegi pob rhif cyfan (ac eithrio un 鈥 y rhif 1) fel lluoswm o rifau cysefin.

Enghreifftiau

8 = 2 脳 2 脳 2 = 23

9 = 3 脳 3 = 32

10 = 2 脳 5

39 = 3 脳 13

Enghraifft

Mynega 300 ar ffurf ffactorau cysefin.

Yn gyntaf, rydyn ni鈥檔 cychwyn gyda鈥檙 rhif cysefin lleiaf, sef 2. Gan fod 2 yn ffactor o 300, rydyn ni鈥檔 cofnodi鈥檙 鈥2鈥 ac yna rhannu 300 芒 2, gan adael 150.

Gallwn ddefnyddio tabl i ddangos hyn yn well:

Tabl dwy res wedi ei labelu 芒 Rhif a Ffactorau Cysefin. Ffactor cysefin 300 yw 2. Mae ffactor cysefin 150 wedi ei adael yn wag.

Nawr gallwn rannu 芒 2 eto, gan adael 75:

Tabl tair rhes wedi ei labelu 芒 Rhif a Ffactorau Cysefin. Ffactor cysefin 300 yw 2. Ffactor cysefin 150 yw 2. Mae ffactor cysefin 75 wedi ei adael yn wag.

Ni allwn rannu ymhellach 芒 2 gan nad yw鈥檔 ffactor o 75. Rydyn ni nawr yn ceisio rhannu 芒鈥檙 rhif cysefin mwyaf nesaf, sef 3:

Tabl pedair rhes wedi ei labelu 芒 Rhif a Ffactorau Cysefin. Ffactor cysefin 300 yw 2. Ffactor cysefin 150 yw 2. Ffactor cysefin 75 yw 3. Mae ffactor cysefin 25 wedi ei adael yn wag.

Ni allwn rannu ymhellach 芒 3, gan nad yw鈥檔 ffactor o 25. Rhaid i ni edrych eto am rif cysefin mwy i鈥檞 ddefnyddio. Y rhif cysefin nesaf ar y rhestr yw 5:

Tabl pum rhes wedi ei labelu 芒 Rhif a Ffactorau Cysefin. Ffactor cysefin 300 yw 2, 150 yw 2, 75 yw 3, 25 yw 5. Mae ffactor cyffredin 5 wedi ei adael yn wag.

Yn olaf, gallwn rannu 芒 5 eto, gan adael 1:

Tabl chwe rhes wedi ei labelu 芒 Rhif a Ffactorau Cysefin. Ffactor cysefin 300 yw 2, 150 yw 2, 75 yw 3, 25 yw 5 a 5 yw 5 . Mae ffactor cysefin 1 wedi ei adael yn wag.

Pan mae gennyn ni 1 yn y golofn chwith, mae鈥檙 broses wedi dod i ben.

O鈥檙 tabl, gallwn weld bod 300 = 2 脳 2 脳 3 脳 5 脳 5 = 22 脳 3 脳 52. Gallet wirio hyn drwy luosi鈥檙 rhifau ar dy gyfrifiannell.