Â鶹ԼÅÄ

¹ó´Ú³Ü°ù´ÚÌý²õ²¹´Ú´Ç²Ô´Ç±ôCyfrifo ffurf safonol gyda chyfrifiannell

Mae gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr neu fach iawn yn anodd. Mae’n haws ymdrin â chyfrifiadau o’r fath, fel rhai sy’n ymwneud â’r gofod, drwy drawsnewid rhifau i mewn ac allan o ffurf safonol.

Part of MathemategRhif

Cyfrifo ffurf safonol gyda chyfrifiannell

Gallwn gyfrifo ffurf safonol ar gyfrifiannell wyddonol drwy ddefnyddio’r botwm ‘esbonydd’. Gall y botwm esbonydd ddangos EXP, EE neu \(\times 10^x\).

Er enghraifft, er mwyn mewnbynnu \(1.2 \times 10^7\), pwysa:

Pwysa 2, pwysa'r botwm ‘esbonydd’ ac yna 7.

a fydd yn ymddangos fel:

\(1.2^{07}\) neu \({1.2~E7}\) neu \(1.2 \times 10^{07}\)

Enghraifft un

Er mwyn cyfrifo \((4.56 \times 10^8) \times (3.7 \times 10^{5})\) gan ddefnyddio cyfrifiannell, rhaid i ni bwyso’r botymau canlynol:

Pwysa 4.56, pwysa'r botwm ‘esbonydd’, pwysa 8, pwysa'r botwm lluosi, pwysa 3.7, pwysa'r botwm ‘esbonydd’, pwysa 5, pwysa'r botwm 'yn hafal i'.

Byddi’n cael ateb o \(1.6872 \times 10^{14}\)

Enghraifft dau

Canfod \((3.9 \times 10^{18}) \times (9.1 \times 10^{-5})\) ar gyfrifiannell:

Pwysa 3.9, pwysa'r botwm ‘esbonydd’, pwysa 18, pwysa'r botwm lluosi, pwysa 9.1, pwysa'r botwm ‘esbonydd’, pwysa'r botwm minws, pwysa 5, pwysa 'yn hafal i'.

Yr ateb yw \(3.549 \times 10^{14}\)

Question

Gan ddefnyddio cyfrifiannell, canfydda \((2.484 \times 10^{7}) \div (4.6 \times 10^{-4})\)