Â鶹ԼÅÄ

¹ó´Ú³Ü°ù´ÚÌý²õ²¹´Ú´Ç²Ô´Ç±ôTrawsnewid rhwng rhifau cyffredin a ffurf safonol

Mae gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr neu fach iawn yn anodd. Mae’n haws ymdrin â chyfrifiadau o’r fath, fel rhai sy’n ymwneud â’r gofod, drwy drawsnewid rhifau i mewn ac allan o ffurf safonol.

Part of MathemategRhif

Trawsnewid rhwng rhifau cyffredin a ffurf safonol

I drawsnewid rhif i’w , rhanna’r rhif yn ddwy ran – rhif wedi ei luosi â phŵer o 10.

Rhifau mawr

Enghraifft

Ysgrifenna 50,000 yn ei ffurf safonol.

Gallwn ysgrifennu 50,000 fel: \(5 \times 10,000\)

\(10,000 = 10 \times 10 \times 10 \times 10 = 10^4\)

Felly \(50,000 = 5 \times 10^4\)

Question

Beth yw 800,000 wedi ei ysgrifennu yn ei ffurf safonol?

Felly, nid yw \(34 \times 10^7\) mewn ffurf safonol gan nad yw’r rhif cyntaf rhwng 1 a 10. I gywiro hyn, rhanna 34 â 10. Er mwyn cydbwyso’r weithred o rannu â 10, lluosa’r ail ran â 10, sy’n rhoi 108.

Mae \(34 \times 10^7\) a \(3.4 \times 10^8\) yn union yr un fath ond dim ond yr ail sydd wedi ei ysgrifennu mewn ffurf safonol.

Enghraifft

Beth yw 87,000 yn ei ffurf safonol?

Gallwn ysgrifennu 87,000 fel \(8.7 \times 10,000\)

\(10,000 = 10 \times 10 \times 10 \times 10 = 10^4\)

Felly \(87,000 = 8.7 \times 10^4\)

Question

Beth yw 135,000 yn ei ffurf safonol?

Enghraifft

3,000,000 = \(3 \times 10^6\) gan fod y 3 wedi ei leoli 6 lle oddi wrth y golofn unedau.

36,000 = \(3.6 \times 10^4\) gan fod y 3 wedi ei leoli 4 lle oddi wrth y golofn unedau.

Question

Beth yw 103,000,000 yn ei ffurf safonol?

Question

Beth yw 1,230 yn ei ffurf safonol?