Â鶹ԼÅÄ

¹ó´Ú³Ü°ù´ÚÌý²õ²¹´Ú´Ç²Ô´Ç±ôCyfrifo ffurf safonol heb gyfrifiannell

Mae gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr neu fach iawn yn anodd. Mae’n haws ymdrin â chyfrifiadau o’r fath, fel rhai sy’n ymwneud â’r gofod, drwy drawsnewid rhifau i mewn ac allan o ffurf safonol.

Part of MathemategRhif

Cyfrifo ffurf safonol heb gyfrifiannell

Adio a thynnu

Wrth adio a thynnu rhifau yn eu mae’n rhaid i ti:

  1. drawsnewid y rhifau o ffurf safonol i ffurf ddegol neu rifau cyffredin
  2. gorffen y cyfrifiad
  3. trawsnewid y rhif yn ôl i ffurf safonol

Enghraifft

Cyfrifa \((4.5 \times 10^4) + (6.45 \times 10^6)\)

\(= 45,000 + 6,450,000\)

\(= 6,495,000\)

\(= 6.495 \times 10^6\)

Question

Cyfrifa \((8.5 \times 10^7) - (1.23 \times 10^4)\)

Lluosi a rhannu

Wrth luosi a rhannu, gelli ddefnyddio rheolau indecsau i’w defnyddio gyda’r :

  1. lluosi neu rannu’r rhifau cyntaf
  2. defnyddio’r rheolau indecsau gyda’r pwerau

Enghraifft un

Cyfrifa \((3 \times 10^3) \times (3 \times 10^9)\)

Lluosa’r rhifau cyntaf – sef, yn yr achos hwn \(3 \times 3 = 9\)

Defnyddia reol yr indecsau ar yr :

  • \(10^3 \times 10^9 = 10^{3 + 9} = 10^{12}\)
  • \((3 \times 10^3) \times (3 \times 10^9) = 9 \times 10^{12}\)

Gofala fod yr ateb yn ei ffurf safonol. Mae’n arferol i ni orfod ailaddasu’r ateb.

Enghraifft dau

Cyfrifa \((4 \times 10^9) \times (7 \times 10^{-3})\)

Lluosa’r rhifau cyntaf \(4 \times 7 = 28\)

Defnyddia reol yr indecsau ar yr esbonyddion:

  • \(10^9 \times 10^{-3} = 10^{9 + -3} = 10^6\)
  • \((4 \times 10^9) \times (7 \times 10^{-3}) = 28 \times 10^6\)

Ond nid yw \(28 \times 10^6\) mewn ffurf safonol, gan nad yw’r rhif cyntaf rhwng 1 a 10. I gywiro hyn, rhanna 28 â 10 fel ei fod yn rhif rhwng 1 a 10. Er mwyn cydbwyso’r weithred o rannu â 10, lluosa’r ail ran â 10, sy’n rhoi 107.

Mae \(28 \times 10^6\) a \(2.8 \times 10^7\) yn union yr un fath ond dim ond yr ail sydd wedi ei ysgrifennu mewn ffurf safonol.

Felly \((4 \times 10^9) \times (7 \times 10^{-3}) = 2.8 \times 10^7\)

Question

Cyfrifa \((2 \times 10^7) \div (8 \times 10^2)\)