Â鶹ԼÅÄ

¹ó´Ú³Ü°ù´ÚÌý²õ²¹´Ú´Ç²Ô´Ç±ôTrawsnewid o ffurf safonol

Mae gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr neu fach iawn yn anodd. Mae’n haws ymdrin â chyfrifiadau o’r fath, fel rhai sy’n ymwneud â’r gofod, drwy drawsnewid rhifau i mewn ac allan o ffurf safonol.

Part of MathemategRhif

Trawsnewid o ffurf safonol

I drawsnewid rhif o ffurf safonol i rif cyffredin, yn syml, gwna’r gwaith lluosi.

Enghreifftiau

\(1.34 \times 10^3\) yw 1,340, gan fod \(1.34 \times 10 \times 10 \times 10 = 1,340\)

\(4.78 \times 10^{-3}\) yw 0.00478, gan fod \(4.78 \times 0.001 = 0.00478\)

Question

Trawsnewidia’r rhifau canlynol o’u ffurf safonol i ddegolion:

  • \(2.99 \times 10^7\)
  • \(1.36 \times 10^{-7}\)

Enghreifftiau

\(3.51 \times 10^5\) = 351,000 gan fod y 3 yn symud 5 lle oddi wrth y golofn unedau. Mae dau le’n cael eu llenwi gan 5 ac 1. Rho 0 yn y tri lle arall.

\(3.08 \times 10^{-4}\) = 0.000308 gan fod y 3 yn symud 4 lle oddi wrth y golofn unedau. Rho 0 yn y 3 lle arall. Canolbwyntia ar y 3, nid yr 8.

Question

Beth yw’r mesuriadau ffurf safonol sydd ar goll yn y tabl isod?

EnghraifftRhif (metrau)Ffurf safonol
Uchder nendwr300
Hyd firws0.0000003
Maint galaeth300,000,000,000,000,000,000
Uchder mynydd3,000
Cnewyllyn atom0.00000000000003
EnghraifftUchder nendwr
Rhif (metrau)300
Ffurf safonol
EnghraifftHyd firws
Rhif (metrau)0.0000003
Ffurf safonol
EnghraifftMaint galaeth
Rhif (metrau)300,000,000,000,000,000,000
Ffurf safonol
EnghraifftUchder mynydd
Rhif (metrau)3,000
Ffurf safonol
EnghraifftCnewyllyn atom
Rhif (metrau)0.00000000000003
Ffurf safonol