Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Y beicwyr Clwb beicio newydd
Tachwedd 2006
Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy - y Gymraeg yn ymestyn i faes newydd.
Cafodd clwb newydd, wedi'i sefydlu gan bobl o ardal Llanrwst a'r cyffiniau, ei lansio ddydd Sul, Tachwedd 26ain.
Cynhaliodd Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy ddiwrnod cyfeiriannu beicio yng Nghoed Gwydir gan lansio wythnos Llanast Llanrwst 2006.

Gyda phrin 5% o bobl cyflogedig y maes awyr agored yng ngogledd orllewin Cymru yn siaradwyr Cymraeg - a chyda prin mwy na hynny yn Gymry o gwbl - dydy o ddim yn syndod fod maes y gweithgareddau canŵio, dringo, cerdded ac yn y blaen yn ardaloedd Eryri a'r cyffiniau yn y gogledd yma yn cael ei fonopoleiddio gan y di-Gymraeg.

Nid fod hyn yn broblem yn ei hun, wrth gwrs: roedd mynyddoedd Eryri yma ymhell cyn unrhyw beth tebyg i'r iaith Gymraeg ddod i fodolaeth, a beth bynnag, mae'n braf medru rhannu ein rhyfeddodau naturiol gyda gweddill y byd ond mae absenoldeb y siaradwyr Cymraeg yn y maes amlwg yma yn cael effaith yn y tymor hir ar y farchnad waith ac ar y cyfleoedd sy'n agored i bobl ifanc yn ardaloedd cefn gwlad Cymru. Mae hyn, wrth gwrs, ar wahân i'r diffyg amlwg, sef y ffaith nad ydy gweithgareddau awyr agored yn cael eu cysidro'n faes hamdden gan ran helaeth bobl leol Cymru; yn hytrach, rhywbeth ar gyfer bobl eraill yw canŵio, neu feicio mynydd.

Y rhesymau uchod sydd y tu ôl brosiect gan grŵp lleol i sefydlu'r clwb beicio mynydd. Mae'r clwb yn syniad i drefnu sesiynau hyfforddi a blasu beicio mynydd mewn tair ysgol gynradd, sef Bro Gwydir, Llanrwst, Ysgol Trefriw ac Ysgol Llanddoged. Digwyddodd hyn trwy gydweithio rhwng Bartneriaeth Awyr Agored (dan ofal Arwel Elias), Swyddog Datblygu Ardal Llanrwst Bwrdd yr laith Gymraeg a beiciwr lleol, Marcus Politis.

Yn dilyn o hyn, penderfynwyd mynd ati i drefnu cyfres o deithiau beicio mynydd yng Nghoed Gwydir, gan ddefnyddio'r ffyrdd coedwigaeth yn ogystal â llwybrau'r 'Marin'. Canlyniad hyn oedd criw o ferched a dynion, oedd wedi arfer mynd i feicio ar eu liwt eu hunain, yn dod ynghyd ac yn cytuno ar yr angen i greu strwythur mwy ffurfiol yn lleol ar gyfer y gweithgaredd, ac felly sefydlu clwb swyddogol fuasai'n gofalu am bethau fel yswiriant a hyfforddiant.

Derbyniwyd grant sylweddol gan gyngor Chwaraeon Cymru a chefnogaeth ariannol gan Fwrdd yr laith Gymraeg, ac mae'r arian hwn yn cael ei gyfeirio at hyfforddiant, offer (beiciau, helmedau, offer cynnal a chadw), offer cludo beiciau a mwy.

Erbyn hyn, mae pwyllgor wedi'i sefydlu i reoli'r Clwb (gyda'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithydd ar gael i'r aelodau di-Gymraeg). Mae rhaglen o deithiau yn cael ei diweddaru'n gyson, mae hyfforddiant wedi'i drefnu ar gyfer aelodau fel eu bod nhw yn eu tro yn medru hyfforddi plant ac ieuenctid lleol (trwy gyfrwng y Gymraeg) wedi sefydlu adran ieuenctid oddi fewn i'r Clwb.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â Chlwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy yn gyffredinol, cysylltwch â'r ysgrifennydd, Dafydd Chilton, ar 01492642796.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý