Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Dathliadau Ysgol Ysbyty Ifan Ysgol Ysbyty Ifan
1857 - 2007

Hydref 2007
Daeth llu o ddisgyblion a staff y presennol a'r gorffennol a'u teuluoedd ynghyd i ddathlu penblwydd un o ysgolion Cymreiciaf Cymru - Ysgol Ysbyty Ifan- yn 150 oed ar ddydd Sadwrn, yr 22ain o Fedi eleni.

Tywynnodd gant a hanner - o hwyl oes
Ysgol hardd llawn 'sblander,
A ni, bob oes, gofiai'n bêr
Ei blas oedd dysg o bleser.
(John, TÅ· Ucha)

"Mae Ysgol Ysbyty Ifan yn ysgol arbennig iawn; yn ysgol Gymraeg yng ngwir ystyr y gair gyda bwrlwm yr iaith i'w chlywed yn iach o fewn ffiniau'r ysgol. Mae balchder y disgyblion o'u hysgol, yr iaith a'r fro y maent yn rhan ohoni yn amlwg iawn pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lleol a chenedlaethol.

Mae cyfraniad yr ysgol yn holl bwysig i'r gymuned leol, a chefnogaeth yr ardal yr un mor werthfawr i'r ysgol".

Dyma eiriau Trefor Roberts, Cadeirydd Llywodraethwr Ysgol Ysbyty Ifan, wrth groesawu pawb i ddiwrnod arbennig yn llawn gweithgareddau.

Agorwyd y dathliadau gydag anerchiadau pwrpasol gan Gwyn Roberts (Swyddog Cyswllt yr ysgol),y Parch Sally Brush ac aelod y Cynulliad, Gareth Jones. Pwysleisiodd Gareth Jones ei ymrwymiad a'i gefnogaeth i ysgolion bychain gwledig a'r diwydiant amaethyddol sy'n eu cynnal.

Yn ddiweddar, bu aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan yn brysur iawn yn paratoi gardd werth chweil ar gyfer disgyblion yr ysgol. Buddug Eidda, cyn ddisgybl ac aelod o'r Ffermwyr Ifanc gafodd y fraint o agor yr ardd yn swyddogol gan ddatgelu'r enw buddugol o blith degau o geisiadau a gasglwyd yn y sioe eleni. 'GARDDERCHOG' gan Trystan ap Hywel oedd yr enw buddugol a'r wobr oedd coeden afalau Gymreig yn rhoddedig gan 'Coed Cymru'.

Cyfansoddwyd 'Cân y Dathlu' yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan y cyn ddisgybl Elin Alaw, a thro disgyblion presennol yr ysgol oedd hi nesaf i'w chanu i gyfeiliant y delyn gan ychwanegu eu cyfraniad gwerthfawr hwythau i'r diwrnod.

I nodi'r achlysur hanesyddol planwyd Criafolen gynhenid Gymreig (yn rhoddedig gan Coed Cymru) gan Gruff Ellis (cyn ddisgybl ac aelod o'r Pwyllgor Dathlu) a lanto Evans (bachgen hynaf yr ysgol).

Roedd cyffro mawr ymhlith y plant wrth i 150 o falwnau gael eu rhyddhau i'r awyr i nodi'r diwrnod arbennig yma. Yna, daeth cyfle i bawb fynd oddi amgylch yr ysgol i weld yr adeilad fel ag y mae heddiw.

Roedd dosbarth y babanod yn canolbwyntio ar yr hen ddull o addysgu gyda'r disgyblion ieuengaf yn werth eu gweld yn eu dillad Fictorianaidd, a'r dosbarth hynaf yn dangos y datblygiadau modern gyda'r disgyblion yn defnyddio gluniaduron newydd yr ysgol.

Y tu allan roedd arddangosfa gynhwysfawr o luniau'r disgyblion a'r staff fu'n gysylltiedig a'r ysgol dros y blynyddoedd. Marian Tai Duon fu'n gyfrifol am ddethol a threfnu'r arddangosfa hon.

Llwyddwyd i dynnu llun ardderchog o ddisgyblion a staff y presennol a'r gorffennol gan Wyn Jones, Lluniau Llwyfan, sy'n un o Lywodraethwyr yr ysgol. Bu'n tynnu lluniau o'r amrywiol weithgareddau yn ystod y diwrnod ac os hoffech weld ac archebu rhai o'r lIuniau, cysylltwch a Wyn drwy ebostio: wyn@wyn.jones.com

Paratowyd "Llyfryn y Dathlu" sy'n llawn atgofion a lluniau gan Elin Bryniau Defaid gyda chymorth Eirian Gwernhywel Uchaf a Marian Tai Duon ac roedd 'costeri llechen' gyda llun o'r ysgol arnynt a chylchgrawn yr ysgol - Seren Sbyty hefyd ar werth ar y diwrnod.

Nid oes unrhyw ddathliad penblwydd yn gyfan heb gacen wrth gwrs, ac Eleri Dylasau, cyn ddisgybl arall, fu'n brysur yn coginio ac addurno 'Cacen y Dathlu'. Gorchwyl bwysig oedd torri'r gacen, a'r ddau a gafodd y fraint 0 wneud hynny oedd y cyn ddisgybl hynaf oedd yn bresennol ar y diwrnod sef Sam Jones (Eidda Fawr gynt ) sy'n 93 oed a'r disgybl ieuengaf sef Rhodri Pyrs TÅ· Mawr Eidda - y ddau yn digwydd bod yn perthyn i'w gilydd! Cafodd pawb wedyn gyfle i fwynhau sgwrs a lluniaeth gwerth chweil a ddarparwyd gan Eleri a rhieni'r ysgol.

I goroni'r diwrnod, gyda'r neuadd dan ei sang, cafwyd 'Cyngerdd y Dathlu' gydag Orig Williams, Tudur Hughes, John Pen Bont, Clwyd Roberts a Hywel Gwyn yn rhannu eu hatgofion a Gruff Ellis, Meirion Plas Ucha', Siwan ac Anest Pandy Coch, Glain Fron Ddu, Angharad Gwernhywel Bach, Gerallt Rhun, plant yr ysgol a Pharti Hogiau Sbyty yn rhoi eitemau cerddorol.

Cyflwynodd aelodau'r Clwb Ffermwyr Ifanc sgets ac adroddodd Lois Gwernhywel Bach; hyn oll o dan arweiniad medrus Dafydd Tŷ Ucha. Cyflwynwyd 'coster llechen' yr un i ddisgyblion presennol yr ysgol gan y Pennaeth Iona Hughes a diolchwyd i bawb gan Eryl Tŷ Mawr. Mae DVD o'r diwrnod a'r cyngerdd ar werth am £10 ac os hoffech archebu copi ohono fel atgof o'r diwrnod neu hyd yn oed fel anrheg Nadolig, neu os hoffech gopi o 'Lyfryn y Dathlu' am £5, cysylltwch a'r ysgol ar 01690 770645.

Os oes gennych ddiddordeb i gael copi o unrhyw un o'r lluniau sydd yn y llyfryn dathlu, cysylltwch â Marian Tai Duon ar 01690 770250.

Diolch yn fawr iawn i BAWB a gyfrannodd mewn unrhyw fodd i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac yn achlysur bythgofiadwy- ymlaen at y ganrif a hanner nesaf!

Geiriau gan Sioned Bryn Bras

'Chwifiwn freichiau, s'mudwn
gluniau, stampiwn ein dwy droed!
Ysgol 'Sbyty sydd yn gant a
hanner oed!'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý