Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Jim a Hywel a'r criw yn y New Inn Clwb gwerin
Rhagfyr 2008
Mae'r criw wedi cymryd rhan mewn ambell i ddigwyddiad yn barod, gan gynnwys Llanast Llanrwst 08, ac yn paratoi nifer o brosiectau fydd yn codi proffil cerddoriaeth werin yn lleol.

Mae'r rhain yn cynnwys creu cyfle i gerddorion ddod at ei gilydd i chwarae ac i ymarfer mewn ffordd anffurfiol, cynnal sesiynau hyfforddi ac ymarfer i bobl o bob oedran, a gwneud ymchwil i hen ganeuon lleol.

Mae'r criw, sydd o dan ofal Geraint Fôn, Tecwyn Ifan ac eraill, yn cydweithio gyda Trac, y sefydliad sy'n datblygu traddodiadau gwerin yng Nghymru, i chwilio am, ac yna ailgyflwyno, hen ganeuon gwerin i'w hardaloedd gwreiddiol.

Mae llawer o hen ganeuon sy'n perthyn i Lanrwst ac ardaloedd Dyffryn Conwy wledig ar fin diflannu'n gyfan gwbl, a llawer ohonyn nhw dim ond yn bodoli ar archifau'r brifysgol ym Mangor ac yn San Ffagan.

Y bwriad yw eu harbed rhag diflannu'n llwyr, a'u cyflwyno unwaith eto i'r cenedlaethau iau.

Cefnogaeth Trac sydd hefyd yn gyfrifol am ganiatáu i'r Clwb drefnu sesiynau hyfforddi yn y gymuned.

Mae'r rhain ar agor i unrhyw rai sydd a diddordeb mewn ymarfer chwarae offerynnau, beth bynnag eu hoedran.

Bwriad y Clwb yn y tymor hir yw medru cynnig hyfforddiant i ddechreuwyr llwyr hefyd.

Bydd y hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o gerddoriaeth werin, ac ar ymarfer gwahanol offerynnau.

Mae croeso i bawb ddod i'r rhain a bydd y sesiynau yn hollol anffurfiol, a hynny yn union â'r traddodiad gwerin.

Wrth ddangos cefnogaeth frwd i'r fenter, dywedodd Dafydd Huw, tiwtor cerddoriaeth yn Llanrwst, fod hyn "yn gyfle gwych i bobl ddatblygu eu doniau a chael cyfle i chwarae mewn awyrgylch anffurfiol, dan arweiniad arbenigwyr yn y maes cerddoriaeth werin, a hynny i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg".

Nod arall ar ran y clwb yw'r amlycaf ohonyn nhw, sef yn syml medru cael criw at ei gilydd i chwarae o gwmpas ardaloedd Llanrwst a'r dyffryn.

Mae hyn yn fodd i ailafael mewn hen draddodiad arall, sef cerddorion yn chwarae'n anffurfiol a mwynhau noson hwyliog drwy gerddoriaeth.

Gyda'r sesiwn cyntaf wedi'i gynnal ddiwedd Tachwedd, bydd y Clwb yn cyfarfod yn rheolaidd ar nos Wener olaf pob mis, a hynny am 7-00 yn swyddfa Menter laith Conwy, ar y sgwar yn LIanrwst.

Bydd y cyfarfod nesaf, felly, nos Wener, lonawr 30ain 2009.

Os hoffech wybod mwy am Glwb Gwerin Dyffryn Conwy, neu am y sesiynau hyfforddi, yna ffoniwch 01492 642 108, neu e-bostiwch dafvdd.apolloni@bvig-wlb.org.uk

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý