Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Alun Tan Lan - o Landdoged O Landdoged i Bositano
Ebrill 2008
Sawl gwaith dwi wedi mynd a'r cŵn am dro yn y nos i lawr Allt Sam Ddu yn Llanddoged.
Dwi'n mynd â nhw am dro ar ôl iddi dywyllu er mwyn i mi gael gweld gole ceir fel mod i'n cael amser i fynd i'r ochr o'u ffordd neu fel mod i'n gallu legio hi at y giat agosa'.

'De chi'n gwybod be' dwi'n feddwl - ma gyrwrs cefn gwlad yn enwog am yrru yn eu 4by 4s neu'r swpd up Peugeots!

Hefo'r cŵn sy' gen i sy'n gwrando diawl o ddim ar neb tydy ddim yn bleser cyfarfod Euros Belmont yn i Landrover a'i drelar ac uffern ar y ddaear ydy Alwyn Royle yn stopio am sgwrs a hwnnw'n gwybod yn iawn mod i'n methu handlo'r bali cŵn!

Pwnc arall i sgwennu amdano fo tro nesa 'di hynny. Wrth gerdded fyny'n ôl Allt Sam Ddu ac edrych i fyny ar bentref Llanddoged a gweld golau'r tai yn batrwm o wahanol liwiau'r enfys o gwmpas y lle. Rhai'n felyn golau, eraill yn oren a phorffor. Mae'n well na hysbyseb Dulux. Mae siapiau'r ffenestri yn tynnu'r sylw hefyd; petryalau tenau, petryalau hir, sgwariau o wahanol faint a hyn oll wedi cael ei wasgaru dros yr awyr o dduwch llonydd.

Mae o'n lun hyfryd. Mae'n mynd a fi'n ôl pan oeddwn ar wyliau yn arfordir yr Amalfi yn yr Eidal. Positano oedd y pentref. Tydy o ddim gwahanol i'r un pentref gwyliau arall mae'n debyg. Pentref wedi cael ei adeiladu ar lethr ydy o ac mae'r ffordd o ben y bryn i lawr i'r pentref yn droellog iawn. Mae'n braf iawn ei cherdded ond fydde hyd yn oed Euros Belmont ddim yn rhy hoff o ddreifio arni!

Wrth gerdded lawr y ffordd tuag at y pentref mae siopau'n gwerthu gwahanol geriach a chaffis i gael paned a smoc neu rhywbeth cryfach os mai dyna yw eich dileit. Erbyn cyrraedd y pentref a'r traeth, yn sicr ma'ch sodle chi'n brifo ond mae'r olygfa allan am y bae yn ffantastic ac wrth droi rownd a gweld y tai wedi naddu i mewn i'r graig yn anhygoel. Tai mawr, tai bach, tai tri llawr, tai un llawr, pob un yn wahanol liw ac o wahanol faint ac fel yr olygfa ar Allt Sarn Ddu ar noson dywyll, mae llun hyfryd i'w gael wrth edrych ar oleuadau tai ym Mhositano yn y nos.

Yn y 60au pan oedd roc a rol yn dechrau cael sylw dyma ble roedd Mick Jagger a Marianne Faithfull yn dod i ymlacio ac i gael seibiant oddiwrth y paparazzi a llawer o ffrindiau yn eu sgîl, yn cynnwys y Beatles. Mae'n siŵr ei fod wedi newid cryn dipyn ers hynny ac wedi mynd yn llawer iawn mwy 'commercial'.

Yn sicr yng ngolau dydd tydy Llanddoged ddim i'w gymharu ag o. Mae'n debyg mai'r tywydd a'r cyflwr meddyliol yr ydych ynddo tra 'de chi yno yw'r prif reswm am hynny. Y stress wedi diflannu tros yr Haf. Wedi dweud hynny mae'r ffordd sydd yn arwain i Landdoged ddigon tebyg, yn droellog , yn gul ac yn beryg bywyd! Rheswm arall am y tebygrwydd yw fod dau o enwau mawr y byd canu pop Cymraeg wedi dod i fyw i'r pentref sef Tecwyn Ifan ac Alun Tan Lan. Dwi'n ame' fydd Llanddoged yn dod yn bentref twristiaeth er bod y ddau'n byw ma ond mae Llanddoged ar y map rŵan a braf ' di cael nhw yma hefo ni. Gobeithio cawn gan neu ddwy gan y ddau am yr ardal ma' nhw yn preswylio ynddi rŵan.

Cofiwch nid y ddau yma yw'r unig enwogion i fyw yn y pentref. 'De chi'n cofio Moses Evans oedd yn byw yn y pentref yn y ddeunawfed ganrif? Gwneuthurwr clociau mawr enwog ac os oes gynno' chi un daliwch eich gafael ynddo. Mae'n werth pres. Un arall oedd Ellis y Cowper - bardd ac anterliwtiwr enwog ac mae ei waith i'w weld yn Llyfrgll Prifysgol Caergrawnt.

Dwi'n siŵr bo' chi'n gofyn i chi'ch hunen be gebyst ma' hwn yn drio'i ddeud. Wel dwi ddim yn siŵr. Cymharu Llanddoged hefo Positano mae'n debyg. Mae'r ddau le yn dra gwahanol go wir. Ond dwi'n deud y gwir am y llun o Allt Sam Ddu. Mae o'n dod ac atgofion yn ôl i mi o'r un llun ym Mhositano. Peidiwch â heidio gyd yno wedi iddi dywyllu - fedrai'm rheoli'r cŵn ddigon da!

Y gwir amdani, ewch am dro yn unrhyw le liw nos ac fe welwch batrymau a lluniau hyfryd wrth edrych ar ffenestri'r tai.

Yn olaf, Euros, rwyt ti'n yrrwr iawn, call. Nai'm enwi'r person sy' bron a'm lladd i a'r cŵn!!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý