Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Trystan Lewis ac Eleri Jones Cymanfa Llanrwst
Mehefin 2007
Ar Fai 20fed cafwyd Cymanfa lwyddiannus iawn ym Methel, Melin y Coed, dan arweiniad Trystan Lewis, Deganwy gyda Llifon Jones, Bethel yn organydd.
Mae'n bosib mai ef ydi'r organydd ieuengaf sydd wedi bod yn y Gymanfa ac yntau ond yn bymtheg oed. Rhaid ei longyfarch am ei waith.

Plant ac ieuenctid Bethel oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth dechreuol.

Cafwyd pleser a mwynhad, yn blant ac oedolion yn canu emynau, newydd i rai ohonom, o adran y plant. Yn rhai o'r caneuon 'roedd gofyn am symudiadau, bysedd sydd yn clic/o, pen sydd yn nodio, traed sydd yn tapio, gliniau sydd yn plygu, trwyn sydd yn crychu, 'sgwyddau sydd yn codi, dwylo sydd yn clapio - y cyfan yn rhodd gan Dduw.

Roedd gofyn hefyd am ganu Affricaneg a Sbaeneg mewn emyn arall! Da clywed fod pawb wedi mwynhau.

Eleri Jones, Eglwysbach oedd yn llywio y cyfarfod a chafwyd ganddi anerchiad oedd yn dwyn sylw y plant wrth iddi gyfeirio at wahanol bobl oedd wedi bod yn llwyddiannus ym myd chwaraeon.

Gofynnwyd y cwestiwn sut mae'r bobl hynny yn rai llwyddiannus ac enwog. Mynegwyd yn ateb, efallai mai dawn naturiol sydd ganddynt, ond yn bennaf, oherwydd eu bod yn ymarfer yn gyson, oriau o ymarfer dydd ar ôl dydd.

Maent yn gosod nod i'w gyrraedd, golygai ymdrech. e.e. Rygbi, chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd, tennis, ennill Wimbledon. Soniodd am un o gymeriadau y Beibl, yr Apostol Paul a ymdrechodd er iddo gael ei rwystro lawer tro i sôn am lesu Grist.

Daliodd ati i anfon neges lesu o amgylch y byd. Byrdwn ei neges oedd wrth ymdrechu'n galed ac ymarfer, gellir cyrraedd y nod.

Cafwyd datganiad ar yr organ gan Trystan Lewis, beirniad o'r Emyn-dôn fuddugol a gyfansoddwyd gan Gwenda Williams, Pwllglas gyda Mair Williams, Seion, Llanrwst yn ail. Llongyfarchiadau iddynt.

Cafodd y plant eu llongyfarch a'u gwobrwyo am y gwaith llaw yr oeddynt wedi ei wneud. Beirniad y cystadlaethau oedd Eira Jones Trefriw ac Eleri Jones, Dolgarog. Roedd y Festri yn werth ei gweld, gwaith lliwgar ac amrywiol.

Bu i Bryn Hughes, Eglwysbach, llywydd pwyllgor y Gymanfa, ddatgan gair o ddiolch i bawb fu'n ymwneud a'r Gymanfa yn arbennig i Gwenda Griffiths, Trefriw, yr ysgrifennydd, tu'n gyfrifol am yr holl drefniadau.

Clywch y nodau llawen,
clywch y lleisiau byw
megis côr o glychau'n
seinio mawl i Dduw.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý