Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Odyn
Yr Esgob William Morgan 400 Mlwyddiant Marw yr Esgob
Mai 2004
Bydd cyfres o ddigwyddiadau drwy'r gwanwyn a'r haf i nodi'r flwyddyn arbennig yn NhÅ· Mawr Wybrnant - man geni yr Esgob sydd bellach yn berchen i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Y degfed o Fedi eleni yw 400 Mlwyddiant marwolaeth yr Esgob William Morgan. Mae i Dŷ Mawr Wybrnant ran allweddol ym mywyd yr Esgob. Yn ôl yr hanes, bu mynach yn cuddio yno rhag cael ei ddal gan filwyr Harri'r 8fed, ac fe aeth a'r William Morgan ifanc i Gastell Gwydir, Llanrwst, lle derbyniodd ei addysg cynnar wedi iddo sylwi ar allu'r bachgen.

Daeth Tŷ Mawr Wybrnant, sydd ddwy filltir o bentref Penmachno, i berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1951, ac ers hynny mae'r tŷ wedi'i adfer i sut y byddai wedi ymddangos yn yr 16eg a'r 17eg ganrif. Croesewir ymwelwyr yn gynnes i'r tŷ bob dydd lau, Gwener, Sadwrn a Sul o'r 1af Ebrill - 31 Hydref 2004 rhwng 12 a 4.30pm gan Dennis Davies, gofalwr y tŷ, sy'n rhoi sgwrs fywiog ar fywyd a hanes yr Esgob, esboniad o'r celfi sy'n dyddio o gyfnod y tŷ yn ogystal â disgrifio yr arddangosiad mwyaf o feiblau yng Nghymru sydd i'w gweld yno.

Amrywia'r beiblau o un Tsieineaidd i rai sydd mewn rhai o ieithoedd prin Affrica e.e. xhosa - iaith y Bushman tribe y mae Nelson Mandelha yn perthyn iddi, i rai sydd wedi'i sgrifennu mewn tafodiaith "cockney" a "scouse" hyd yn oed. Gellir hefyd gweld Feibl William Morgan, y pwysicaf oll, sef un o ddim ond 19 sydd ar ôl o'r 1000 a argraffwyd yn wreiddiol yn 1588, ac argraffiad diwygiedig 1620 Richard Parry a John Davies.

Bydd y digwyddiadau a gynhelir yno yn siŵr o ychwanegu at naws arbennig Tŷ Mawr ac yn nodi pwysigrwydd a mawredd y gŵr:

Ebrill
1 - TÅ· Mawr Wybrnant yn agor am y tymor
8 - 12 - Arddangosfa arlunio Glen Palin

Mai
7 - Taith dywys gyda Phrif Warden stâd Ysbyty Ifan
15 - 17 - Arddangosfa arlunio Glen Palin

Mehefin
17 - 20 - Arddangosfa arlunio Glen Palin

Gorffennaf
3ydd a'r 10fed - Datganiad ar y delyn gan Mared Emlyn
9 - Taith dywys

Awst
28 - Datganiad ar y delyn gan Mared Emlyn

Medi
4 - Datganiad ar y delyn gan Mared Emlyn
10 -12 - Penwythnos dathlu 400 mlwyddiant ers marwolaeth William Morgan
10 - Cyflwyniadau cerddorol a llafar o fywyd yr Esgob gan blant Ysgol Penmachno am 2pm.
11 - Darlith am y Beibl newydd Cymraeg, Gwilym H. Jones yn yr adeilad arddangos (sydd wrth ymyl y tÅ·) am 2 pm.
12 - Noson o ganu mawl dan arweiniad Mrs Catherine Watkin ac adloniant yng nghwmni Côr Meibion Llangwm ac Esyllt Tudur.

Hydref
1 - Taith dywys gyda'r Warden.


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý